Skip to content

Ysgrifenedig - Sgrinio i Ddarganfod Diabetes Math 2 yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mynd i'r afael â Diabetes yng Nghymru

Mae strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer mynd i'r afael â Diabetes yn Nghymru yn cael ei hamlinellu yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes. Mae safonau 1 a 2 y Fframwaith yn canolbwyntio ar bwysigrwydd lleihau diabetes, a'i ganfod cyn gynted â phosib.

Gall diabetes Math 2 fod yn bresennol am beth amser cyn diagnosis. Mae bron i hanner y bobl sydd â diabetes Math 2 eisoes yn cael trafferthion megis retinopathi diabetig, niwropathi diabetig neu glefyd cardiofasgwlaidd.

Y Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol

Mae'r Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol (PSC) yn gyfrifol am gynghori 4 Adran Iechyd y DU am bolisïau sgrinio.  Yn 2003, comisiynodd y PSC astudiaeth beilot ar gyfer sgrinio diabetes, clefyd coronaidd y galon a strôc mewn gofal sylfaenol. Yn sgil yr astudiaeth hon, argymhellodd y PSC ym mis Tachwedd 2006 y dylid cynnwys diabetes Math 2 yn y rhaglen rheoli ffactorau risg sydd bellach ar waith i leihau'r risg o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd.  Dylid rheoli pobl sydd â ffactorau risg yn unol â nifer y ffactorau sydd ganddynt a'r graddau y mae'r ffactorau hynny yn bresennol. Mae'r PSC yn datblygu Rhaglen Rheoli Risgiau Fasgwlaidd ar hyn o bryd, sef canllawiau ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd.  



Codi Ymwybyddiaeth o'r Clefyd a'i Atal

Mae llawer o bobl yn dioddef o ddiabetes heb yn wybod iddynt, un ai oherwydd nad ydynt yn dioddef o unrhyw symptomau neu oherwydd eu bod yn cysylltu eu symptomau, megis blinder a syrthni, â rhesymau eraill.  Gall gweithwyr gofal iechyd hefyd gamddehongli symptomau diabetes pan fydd pobl yn disgrifio'u symptomau iddynt.

Gall codi ymwybyddiaeth o symptomau ac arwyddion diabetes, yn arbennig mewn is-grwpiau o'r boblogaeth sydd mewn perygl o'i ddatblygu, ac ymhlith gweithwyr iechyd, helpu i sicrhau fod pobl sydd â diabetes yn ei ganfod cyn gynted â phosib.

Mae’n wybyddus bod rhai unigolion mewn mwy o berygl o ddatblygu diabetes Math 2 nag eraill, er enghraifft, pobl y cafwyd eisoes fod ganddynt nam rheoleiddio glwcos (nam ar eu goddefiad i glwcos a/neu nam ar glycemia ymprydiol) arnynt a menywod sydd â hanes o ddiabetes beichiogrwydd.  Drwy gadw llygad ar y bobl hyn a chynnal profion rheolaidd, gall arwain at ddiagnosis cynharach yn y rhai sy'n mynd ymlaen i ddatblygu'r clefyd.  Gellir helpu drwy gynnig cyngor a chymorth i leihau'r risg o ddatblygu diabetes, â chynnig gwybodaeth i'w helpu i adnabod y symptomau.

Mae'r un peth yn wir am y rhai sydd â nifer o ffactorau risg o ran datblygu diabetes - yn ogystal â ffactorau megis cefndir ethnig, gordewdra ac oedran.  Yn ogystal, bydd sgrinio 'cyfle' (profi am ddiabetes pan fydd pobl mewn cysylltiad â'r gwasanaethau iechyd am reswm arall) yn canfod rhai pobl na wyddant eu bod yn dioddef o ddiabetes.

Yn 2004, cynhaliodd Llywodraeth y Cynulliad broses fapio i asesu lefel y gweithgarwch ledled Cymru sy'n monitro'r ffactorau risg a ddisgrifir yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Clefyd Coronaidd y Galon, sydd â'r un ffactorau risg â diabetes. Mae'r rhain yn cynnwys pwysau gwaed a lefelau colesterol.   Roedd canlyniadau'r broses hon yn dangos bod

67% o bractisau meddygon teulu yn monitro'r ffactorau risg mewn grwpiau risg uchel yn unol â gofynion y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Clefyd Coronaidd y Galon.
63% o bractisau meddygon teulu yn profi grwpiau risg uchel, un ai fel profion cyfle, ar sail ad-hoc neu pan fo'n briodol yn glinigol.

Lansiwyd Menter Atal Diabetes hefyd ym mis Hydref 2004 i hysbysu pobl y gall newid eu dull o fyw helpu i atal neu arafu Diabetes Math 2.


Camau Nesaf yng Nghymru

Mae canfod ffyrdd o atal diabetes a'i ganfod yn gynt yn ddwy thema allweddol yn strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth y Cynulliad, Cynllun Oes, sy'n anelu at sicrhau y bydd gan Gymru wasanaethau iechyd a chymdeithasol o'r radd flaenaf erbyn 2015.  O fewn y cyd-destun strategol hwn, mae nifer o feysydd gwaith yn cael eu datblygu i wella ein hymdrechion i atal diabetes math 2 a'i ganfod yn gynt.

Yn gyntaf, rydym yn datblygu dulliau llawer mwy holistaidd a phenodol i reoli clefydau cronig. Ym mis Mehefin 2005, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Proffil o Gyflyrau Tymor Hir a Chronig i helpu cynlluniwyr a chomisiynwyr gwasanaethau.  Bydd hyn yn dylanwadu ar y ffordd y mae gwasanaethau yn monitro a rheoli pobl sy'n dioddef o ddiabetes neu sydd mewn perygl o'i ddatblygu.  Yn ogystal, fel rhan o'r Cynllun Oes, mae Llywodraeth y Cynulliad yn dylunio fframwaith ar hyn o bryd ar gyfer rheoli cyflyrau cronig. Mae'r fframwaith yn delio ag atal clefyd, ymyrryd yn gynnar a gofal a chymorth priodol.  Bydd y pethau hyn o fantais hirdymor i iechyd cleifion a bydd y gwasanaeth yn fwy effeithiol o ganlyniad i hynny.

Yn ail, mae Llywodraeth y Cynulliad yn datblygu fframwaith polisi i ddatblygu gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol. Bydd pwyslais yn cael ei roi ar atal clefydau drwy wella systemau i addysgu'r cleifion sydd mewn perygl o ddatblygu'r clefydau ar sut i leihau'r risg a monitro'u ffactorau risg yn ofalus.  

Yn drydydd, mae'r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau ar gyfer gofal sylfaenol ar waith ledled Cymru. Mae'n cynnwys elfen benodol i fonitro pwysau gwaed a cholestorol y cleifion sydd mewn perygl uchel o ddatblygu clefyd coronaidd y galon. Os oes cynnydd yn y dangosyddion hyn dylid profi'r lefelau glwcos am ddiabetes math 2.

Yn olaf, rydym yn ymgynghori ar y Canllawiau ar gyfer Rheoli Diabetes mewn Oedolion a'r Canllawiau ar gyfer Plant yng Nghymru ar hyn o bryd tan 2 Chwefror.   Bydd y ddwy set o Ganllawiau yn pwysleisio pwysigrwydd canfod diabetes math 2 yn gynnar a'r angen i fonitro cleifion sydd â risg uchel.  Rhagwelir y bydd Holl Ganllawiau Cymru yn cael eu cyhoeddi ddechrau haf 2007 a byddant yn gyson â'r rhai sy'n cael eu datblygu gan y PSC ar gyfer rheoli risg fasgwlaidd.