Skip to content

Ysgrifenedig - Amseroedd Aros Damweiniau ac Achosion Brys

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd yn dangos bod perfformiad Cymru Gyfan ar gyfer Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn 90.9% ddiwedd mis Rhagfyr 2006 o’r gymharu â’r targed o 95%. Mae hynny’n golygu bod naw o bob deg person yn cael ei weld o fewn y targed o bedair awr, er gwaetha’r ffaith bod mwy na 52,000 o bobl wedi mynychu Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys fawr ym mis Rhagfyr. Mae’r ffigur ar gyfer mis Rhagfyr ychydig yn is na’r 91.4% ar gyfer mis Tachwedd 2006. Er hynny, cyrhaeddodd 5 o’r 13 adran Damweiniau ac Achosion Brys fawr yng Nghymru y targed o 95% ym mis Rhagfyr 2006.

Yn yr un cyfnod, Rhagfyr 2006, fe wnaeth 97.5% o’r cleifion a fynychodd Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys lai neu uned mân anafiadau dreulio llai na 4 awr rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu’u rhyddhau. Felly, cafodd 92.6% o’r holl gleifion a aeth i gyfleusterau gofal brys eu gweld o fewn 4 awr, er gwaetha’r ffaith bod bron i 70,000 o bobl wedi’u mynychu yn ystod mis Rhagfyr.  

Yn nechrau 2005, roedd y ffigur yn tua 85%, ac er bod y diffiniadau o ddamweiniau ac achosion brys wedi’u tynhau fis Mai diwethaf, gan ostwng y ffigurau perfformiad ar lefel Cymru gyfan, roedd y ffigurau ar gyfer Amseroedd Aros adrannau damweiniau ac achosion brys uwchlaw 90% yn gyson, ac maent yn parhau i wella.

Mae yna bwysau tymhorol disgwyliedig ar Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yr adeg hon o’r flwyddyn, ac mae achosion o ddolur rhydd a chwydu wedi creu problemau capasiti sydd wedi cael effaith andwyol ar lefelau perfformiad rhai ysbytai. Os nad yw’r perfformiad wedi cyrraedd y targed, mae’r uwch reolwyr yn parhau i ganolbwyntio ar gyrraedd y targed hwn. Mae’r Swyddfeydd Rhanbarthol a’r Uned Cyflenwi a Chymorth yn parhau i gydweithio’n agos â’r cyrff hynny lle nad yw’r perfformiad yn cyrraedd y targed. Mae’r Arweinydd Gofal Brys yn parhau i gydgysylltu ymateb dyddiol y GIG i bwysau, gan gydweithio’n agos â’r gwasanaeth ambiwlans ac ymddiriedolaethau ysbytai i sicrhau bod modd lleddfu pwysau sy’n datblygu mewn un lle drwy gydweithio rhwng ysbytai.

Un o’r prif heriau y mae’r GIG yng Nghymru yn eu hwynebu yw sut i ddarparu’r ystod gyfan o wasanaethau sydd heb eu trefnu a gofal brys yn y dyfodol. Bydd y system Darparu Gwasanaethau Gofal Brys (DECS) newydd yn sicrhau bod pobl yn cael eu hasesu ac wedyn yn gweld y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol ar yr amser mwyaf priodol. Dim ond y bobl hynny sydd angen mynd i’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys fydd yn cyrraedd yno. Trafodwyd hyn yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 30 Tachwedd 2006.