Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i hybu datblygu cynaliadwy. Mae dyletswydd statudol arnom i wneud hynny ond mae cyfrifoldeb moesol arnom hefyd i fwrw ymlaen â’r agenda hon.
Mae gan adeiladau rôl allweddol i’w chwarae mewn datblygu cynaliadwy, yn enwedig am eu bod yn cyfrif am hyd at hanner ein gollyngiadau carbon. Ers datganoli, mae Llywodraeth y Cynulliad a’i phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat wedi bod yn gweithio i wella ansawdd a chynaliadwyedd adeiladau yng Nghymru. Mae safonau ar gyfer perfformiad adeiladu sy’n ategu cynaliadwyedd yn cael eu hyrwyddo, ac mae amrywiaeth o ddulliau’n cael eu defnyddio i sicrhau bod y safonau’n cael eu gweithredu.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dechrau gweithio ar ei hystâd ei hun, gydag agoriad y Senedd, sydd bellach wedi ei drosglwyddo i ofal y Llywydd, swyddfa Merthyr Tudful; a’r swyddfeydd sydd yn yr arfaeth yn Aberystwyth a Chyffordd Llandudno. Yr ydym hefyd wedi cefnogi datblygiadau mawr a bach a phwysig eraill.
Fodd bynnag, yng ngoleuni’r agenda newid yn yr hinsawdd, mae’n bryd inni gyflymu pethau yn awr a sicrhau newid sylweddol yng nghynaliadwyedd adeiladau Cymru, a gwneud popeth posibl i sbarduno newid. Mae Andrew Davies, Jane Davidson, Edwina Hart, Sue Essex a minnau wedi bod yn edrych ar hyn fel rhan o waith is-bwyllgor y Cabinet ar ddatblygu cynaliadwy.
Y brif nod yw mabwysiadu fframwaith safonau cyffredin, y gellir ei ddefnyddio i asesu perfformiad amgylcheddol adeiladau newydd o bob math yng Nghymru. Dylem hefyd ddisgwyl safon uchel ar gyfer adeiladau o bob math. Mae effeithiolrwydd y safonau, y ddeddfwriaeth a’r canllawiau presennol, a’r modd y maent yn cael eu gweithredu, yn cael ei adolygu. Nid yw’r adolygiad wedi ei gwblhau eto, ond credaf y byddai’n fuddiol imi amlinellu’n prif fwriadau yn awr ynghyd â’r camau y byddwn yn eu cymryd.
Yn unol â’n hagenda newid yn yr hinsawdd, yr ydym yn gobeithio y bydd pob adeilad newydd yng Nghymru yn adeilad di-garbon erbyn diwedd y Cynulliad nesaf. Ni fydd y dechnoleg angenrheidiol wedi ei masnacheiddio’n llwyr am beth amser eto, ond mae gosod y nod hon yn awr yn dangos yn glir inni sut y gallwn gyflymu’r daith tuag adeiladau heb ollyngiadau. Er mwyn helpu i gyflawni’r nod hwn, ac i ddibenion ehangach yng nghyswllt cynaliadwyedd, yr wyf am i ddull asesu amgylcheddol rhagorol gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu fod yn safon y dylai pob adeilad newydd anelu tuag ati.
Rhaid i safonau fod yn glir ac yn gyson os ydynt am fod yn llwyddiannus. Mae’r teulu BREEAM yn cael ei ffafrio oherwydd ei gydnabyddiaeth a’i hygrededd cenedlaethol. Mae’n cynnwys dulliau asesu ar gyfer gwahanol fathau o adeiladau ac yn nodi graddfeydd perfformiad. Mae arnom angen targedau gorfodol, ymestynnol yn BREEAM ar gyfer effeithlonrwydd ynni, dwr a lleihau gwastraff, er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r prif effeithiau amgylcheddol, ac yn gwireddu’r gobaith y bydd pob adeilad newydd yng Nghymru yn adeilad heb ollyngiadau carbon erbyn diwedd y Cynulliad nesaf.
Mae rôl Llywodraeth y Cynulliad o anelu tuag at ragoriaeth yn hollbwysig. Mae angen inni wneud y defnydd gorau o bob cymhelliant sydd ar gael ac edrych ar drefniadau newydd, hefyd. Mae’r adolygiad yn dilyn llwybr deuol, gan edrych ar gamau tymor byr a hirdymor. Un cam gweithredu sydd wedi ei gymryd yn barod yw’r ymgynghoriad ar y drafft o Ddatganiad Polisi Cynllunio, ‘Planning Policy Statement: Planning and Climate Change’, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr. Mae’r datganiad yn cynnig arweiniad i awdurdodau lleol, a fydd yn dechrau dylanwadu ar y ffordd y maent yn ystyried codi safon datblygiadau gan y sector preifat yn uwch na’r rhai sydd yn y rheoliadau adeiladu presennol.
Yn ystod y chwe mis nesaf byddwn yn gosod graddfa ragorol BREEAM fel un o’r amodau ariannu ar gyfer pob prosiect a rhaglen sy’n cael cymorth ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad, ac mewn perthynas â gwerthu tir. Bydd yn un o amodau creiddiol pob cymorth ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad, ynghyd â grantiau, buddsoddiadau, mentrau ar y cyd a gwerthu tir sy’n ymwneud ag adeiladau newydd. Ni ddylid bychanu cymhelliant o’r fath—o ystyried cymaint yw gwariant Llywodraeth y Cynulliad, maent yn sylweddol. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y rhagwelwn y bydd angen gwyro oddi wrth raddfa ragorol.
Wrth gymryd y cam hwn, yr ydym am gynnig her adeiladol i’r sector sy’n cael ei ariannu’n breifat, ac i awdurdodau lleol sy’n datblygu polisïau cynllunio ar gyfer cynigion sector preifat. Dylai camau amlwg i fabwysiadu safonau adeiladu ymestynnol a chynaliadwy ar lefel genedlaethol fod yn hwb i’w cymhwyso’n lleol ac yn y sector preifat. Byddwn yn cynnwys rhanddeiliaid, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r diwydiant, yn y gwaith o gymhwyso’r safon yn ofalus.
Bydd y broses gaffael yn cael ei chryfhau. Mae angen newid y trefniadau ar gyfer caffael adeiladau. Ni ellir defnyddio’r gost gychwynnol isaf fel ffactor allweddol mwyach. Mae angen mwy o bwyslais ar y cydbwysedd rhwng cost ac ansawdd wrth ddewis partneriaid dylunio ac adeiladu. Bydd gwaith i wella swyddi, sgiliau a datblygiad busnesau yn y diwydiant adeiladu, a gychwynnwyd gan Jane Davidson ac Andrew Davies, yn sail i’r broses hon, yn ogystal â’r gwaith parhaus y mae Comisiwn Dylunio Cymru’n ei wneud ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae angen inni hefyd ystyried sefydlu gwobrau cenedlaethol i ddathlu gwaith adeiladu cynaliadwy arloesol yng Nghymru.
Credwn fod y rheoliadau adeiladu’n bwysig er mwyn hybu cynaliadwyedd adeiladau. Yn yr hirdymor, byddai pwerau datganoledig yn caniatáu inni bennu fframwaith safonau ar gyfer pob adeilad, ni waeth o ble mae’r arian yn dod ar ei gyfer, a’r fframwaith hwnnw wedi ei deilwrio’n arbennig ar gyfer Cymru. Gellid creu maes chwarae cyfartal, gorfodol ar gyfer y sector cyhoeddus a’r sector preifat ac adlewyrchu hynny’n gyson mewn deddfwriaeth gynllunio a pherfformiad adeiladau. I’r perwyl hwn, bydd fy nghyd-Aelod, Edwina Hart, yn cychwyn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ac yn edrych ar oblygiadau ehangach datganoli’r rheoliadau adeiladu i’r Cynulliad.
Gobeithiwn sicrhau y bydd pob adeilad a godir o’r flwyddyn 2011 ymlaen yn adeilad di-garbon. Mae’r camau y bwriadwn eu cymryd yn darparu’r fframwaith ar gyfer hyn, yn ogystal ag ar gyfer gwella cynaliadwyedd yr amgylchedd adeiledig yn fwy cyffredinol. Mae hwn yn gam mawr ymlaen tuag at greu Cymru wyrddach a glanach. Cymeradwyaf y camau hyn i’r Cynulliad.