Skip to content

Mynediad At Driniaethau A Meddyginiaethau Modern

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae sicrhau mynediad cyflym i drigolion Cymru at feddyginiaethau newydd sy'n ddiogel ac yn effeithiol yn flaenoriaeth gan y Llywodraeth hon.

Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yn darparu cyngor i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar faterion strategol sy'n ymwneud â rheoli meddyginiaethau, gan gynnwys cymeradwyo meddyginiaethau newydd a goblygiadau cost sicrhau bod y meddyginiaethau hyn ar gael yng Nghymru.  Hyd yn hyn, mae proses arfarnu AWMSG wedi canolbwyntio ar feddyginiaethau cost-uchel (hy y rheini sy'n costio >£2000 fesul claf bob blwyddyn).

Rwyf wedi cyflwyno mesurau i atgyfnerthu'r gwaith o reoli'r broses o gyflwyno meddyginiaethau i'r GIG yng Nghymru.  Bydd proses gymeradwyo gyfredol AWMSG yn cael ei hymestyn i gwmpasu mwy o feddyginiaethau newydd, neu feddyginiaethau sydd eisoes yn bodoli gyda mynegiannau trwyddedu newydd.  

Rwyf wedi sefydlu felly, o fis Ebrill 2007, y bydd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yn cynyddu ei allu ymarferol i adolygu hyd at gyfanswm o 32 o feddyginiaethau newydd bob blwyddyn.  Bydd hyn yn cynnwys arfarnu meddyginiaethau newydd ar gyfer canser a'r galon yn ogystal â meddyginiaethau cost-uchel.  

Cynigir y bydd y rhwydweithiau clinigol ledled Cymru yn helpu i lywio rhaglen waith AWMSG drwy gefnogi gwaith i chwilio'r gorwelion, cynghori ar flaenoriaethu arfarniadau, a darparu'r cyngor clinigol arbenigol i AWMSG.

Bydd rhaglen waith AWMSG yn parhau i weithio law yn llaw â NICE.  Bydd yn ystyried rhaglen NICE yn y dyfodol, gan gynnwys y broses Asesu 'Single Track' newydd, cyn cynnwys cynnyrch i'w arfarnu.  Fel rheol, ni fydd AWMSG yn ystyried arfarnu cynnyrch os yw NICE yn bwriadu cyhoeddi arfarniad terfynol o'r un cynnyrch o fewn 18 mis.  Ystyrir bod canllawiau AWMSG yn fesur interim i ganllawiau NICE, os caiff hwn ei gyhoeddi wedi hynny.