Skip to content

Ysgrifenedig - Darparu Brachytherapi Dos Isel I Drin Canser Cyfyngedig Y Prostad, Yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Darparu Gwasanaeth Brachytherapi Dos Isel yng Nghymru i Drin Canser Cyfyngedig y Prostad

Y Cefndir
Er bod nifer o driniaethau llai cyffredin ar gael i drin canser cyfyngedig y prostad, dyma'r prif opsiynau sydd ar gael ar hyn o bryd:

• Prostadectomi radical
• Radiotherapi pelydr llydan allanol
• Brachytherapi
• Cadw llygaid ar y canser cyn penderfynu beth i'w wneud

Math o radiotherapi yw brachytherapi dos isel (LDR) sy'n golygu mewnosod rhwng 60 a 120 o hadau ymbelydrol yn y prostad o dan gyfarwyddyd uwchsain.  

Mae gan brachytherapi sawl mantais dros lawdriniaethau sef bod yn llai ymyrrol, a gellid ei gynnig fel triniaeth achos dydd mewn un sesiwn naill ai o dan anesthesia cyffredinol neu sbinol.   O'i gymharu â radiotherapi pelydr allanol, mae'n gynt o lawer a gall gynnig dos llawer uwch o ymbelydredd i brostad a hynny gyda mwy o gywirdeb na'r radiotherapi pelydr allanol. Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu ei fod yn ddull diogel ac effeithiol o drin y math hwn o ganser (o safbwynt marwolaeth, afiachusrwydd a sgil-effeithiau) a bod modd cymharu ei ganlyniadau â thriniaethau amgen ond nad yw ddim gwell na'r rheini.

Nodir bod brachytherapi yn wasanaeth arbenigol a'i fod yn rhan o gyfrifoldeb comisiynu Comisiwn Iechyd Cymru.  Cynhaliodd Comisiwn Iechyd Cymru adolygiad o'r driniaeth hon yn ystod 2006 ac ym mis Mehefin, cadarnhaodd y byddai'n comisiynu'r gwasanaeth hwn ar gyfer cleifion yng Nghymru ac y byddai'n gweithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Felindre i ddatblygu gwasanaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, yn ystod mis Awst 2006, yng ngoleuni costau cynyddol am y driniaeth hon gan ganolfannau yn Lloegr a blaenoriaethau a phwysau cystadleuol eraill, penderfynodd Comisiwn Iechyd Cymru mai dim ond ar gyfer cleifion y mae eu triniaethau wedi'u hatal dros dro yn amodol ar yr adolygiad ac o dan amgylchiadau eithriadol y bydd yn ariannu'r driniaeth hon. Mae'r opsiynau eraill o ran triniaeth sef prostadectomi radical a radiotherapi pelydr llydan yn rhan o gylch gwaith comisiynu'r Byrddau Iechyd Lleol. Fodd bynnag, bu Comisiwn Iechyd Cymru yn parhau i gynnal trafodaethau â rhanddeiliaid o safbwynt darparu'r gwasanaeth hwn yn ystod 2007-2008.

Gwasanaeth yng Nghymru

O ganlyniad i'r trafodaethau hyn, cytunwyd y bydd Comisiwn Iechyd Cymru yn comisiynu gwasanaethau brachytherapi dos isel yng Nghymru ar gyfer canser cyfyngedig y prostad o Ymddiriedolaeth GIG Felindre.  Bydd hyn yn golygu y bydd cleifion yng Nghymru sydd â chanser cyfyngedig y prostad yn cael mynediad at y math hwn o driniaeth yn ogystal â'r ddau ddull effeithiol arall o drin y cyflwr hwn, sef radiotherapi pelydr llydan a llawdriniaeth.

Mae llythyr yn datgan bwriad sy'n cynnig cyllid refeniw i Ymddiriedolaeth GIG Felindre i'r perwyl hwn eisoes wedi'i gyhoeddi. Rwyf wedi gofyn i'r gwasanaeth gael ei sefydlu cyn gynted ag sy'n bosibl.  Unwaith y bydd y trefniadau cychwynnol wedi'u cwblhau, bydd y gwasanaeth ar gael cyn diwedd yr haf.

Ein bwriad yw i Felindre gynnig gwasanaeth i gleifion o bob cwr o Gymru. Gellir darparu triniaeth brachytherapi i gleifion allanol, gyda'r profion asesu a'r gofal dilynol ar gael yn ardal leol y claf. Mae newidiadau diweddar i reolau Llywodraeth y Cynulliad yn golygu y gellir hawlio costau teithio yr eir iddynt ar gyfer triniaethau canser.

Bydd cleifion o Ogledd Cymru yn cael eu hasesu gan eu clinigydd gartref a gellir eu cyfeirio i dderbyn triniaeth naill ai yn Felindre neu gyda darparwr arall.

Bydd cyllid ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn ar gael o ddechrau blwyddyn ariannol 2007/08. Bydd Comisiwn Iechyd Cymru yn adolygu'n unigol y cleifion hynny y mae eu hangen am driniaeth yn codi cyn i wasanaeth Felindre fod ar gael a bydd yn comisiynu yn unol â hynny. Yn y cyfamser, ni fydd un claf heb driniaeth am ei ganser gan fod y ddau fath arall o driniaethau effeithiol ar gael sef radiotherapi pelydr llydan a llawdriniaethau.