Skip to content

Ysgrifenedig - Bom yn Ffrwydro Mewn Parsel yn Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), Abertawe

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Prif Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ffrwydrodd parsel a oedd yn cynnwys bom yn Ystafell y Post, y DVLA yn Abertawe fore heddiw. Yn sgil hyn, gorfu i bedwar o bobl fynd i’r ysbyty. Drwy lwc, ni chredir bod yr anafiadau hyn yn rhai difrifol. Mae gan dri ohonynt anafiadau sy’n ymwneud â’u clyw ac mae gan y pedwerydd fân-losgiadau. Rwy’n cydymdeimlo’n fawr â phob un yr effeithiodd y digwyddiad hwn arno yn ogystal â chydweithwyr a theuluoedd y bobl hyn.

Aeth y gwasanaethau brys ac uned difa bomiau’r Weinyddiaeth Amddiffyn i’r safle. Roedd y safle wedi’i ddiogelu gan yr Heddlu yn gynnar y bore ond maent yn parhau i fod yn bresennol ar y safle tra’n cynnal eu hymchwiliadau. Am y tro, erys hwn yn ddigwyddiad byw.

Mae digwyddiadau tebyg wedi codi yn ystod y dyddiau diwethaf sy’n golygu y gall patrwm ddatblygu. Mae’n rhy gynnar i allu dweud yn bendant bod y digwyddiad diweddaraf wedi’i gysylltu â’r gweddill ond bydd yr Heddlu’n parhau i ymchwilio i unrhyw gysylltiad posibl ar lefel leol a chenedlaethol. Mae Heddlu De Cymru yn gweithio gyda lluoedd eraill i sicrhau ymchwiliad ac ymateb cydgysylltiedig. Y flaenoriaeth allweddol ar hyn o bryd yw diogelwch staff swyddfa’r DVLA a’r gymuned yn ehangach.

Drwy gydol y digwyddiad hwn, mae’r mesurau diogelwch wedi cael eu hasesu’n barhaus. Penderfynwyd y dylai pob aelod o staff adael Ystafell y Post. Mae’r ystafell hon yn gymharol bell oddi wrth y prif swyddfeydd, ac felly roedd y gwaith o asesu’r ardaloedd hyn yn golygu nad oedd angen i aelodau eraill o staff adael. Erys ystyriaethau am ddiogelwch staff yn ganolog tra pery’r sefyllfa hon.

Mae’r Heddlu yn gofyn i gwmnïau, sefydliadau ac unigolion gymryd gofal ychwanegol wrth ddelio â phost. Rwy’n cynghori pobl yn gryf i wrando ar y cyngor hwn a pharhau’n wyliadwrus. Os bydd unrhyw un yn amheus o unrhyw bost, ni ddylent ei gyffwrdd na’i agor - dylent gysylltu â’r Heddlu ar unwaith.