Andrew Davies, Y Gweinidog Dros Fenter, Arloesi A Rhwydweithiau
Rwyf yn gwneud y datganiad hwn o dan Reol Sefydlog 21.20 ynghylch Trafodiad Hysbysadwy yr wyf yn bwriadu ei awdurdodi mewn perthynas ag ariannu Bae Caerdydd.
Bydd Aelodau’r Cynulliad yn ymwybodol bod Cyngor Sir Caerdydd (“y Cyngor”) wedi derbyn y cyfrifoldeb oddi wrth gyn Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd am gyflawni swyddogaethau penodol yn neu o dan Ddeddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993, ym Mawrth 2000. Derbyniodd y Cyngor hefyd y cyfrifoldeb am reoli a chynnal a chadw eiddo cysylltiedig penodol a rhwymedigaethau dan gontract. Nodwyd y trefniadau mewn cytundeb a luniwyd rhyngddynt dan adran 165 Deddf Cynllunio a Thir Llywodraeth Leol (fel y’i diwygiwyd) (“y Cytundeb”).
Ddyddiau’n ddiweddarach trosglwyddodd Gorchymyn (OS 2000 Rhif 996 (W.53)) a wnaed dan adran 165A Deddf 1980 unrhyw hawliau a rhwymedigaethau a oedd yn deillio o’r Cytundeb ac a freiniwyd i Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd i’r Cynulliad Cenedlaethol. Roedd hyn yn cynnwys y rwymedigaeth i roi cyllid i’r Cyngor er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau, cynnal a chadw a rheoli’r eiddo a chyflawni ymrwymiadau cysylltiedig dan gontract yn unol â’r Cytundeb.
Roedd y Cytundeb yn nodi’r trefniadau cyllid sy’n yn seiliedig yn y bôn ar ddarparu swm sefydlog blynyddol ar gyfer rhwymedigaethau mesuradwy (yn amodol ar rai amodau a chyfyngiadau). Darperir cyllid ar sail y gost wirioneddol ar gyfer rhwymedigaethau y gellir eu nodi ond nad yw’n rhesymol eu mesur (ar yr amod nad yw’n amhriodol a/neu’n afresymol). Dyma’r rhwymedigaethau gwirioneddol. Ceir rhwymedigaeth wrth gefn hefyd i ariannu costau (ar yr amod nad ydynt yn amhriodol a/neu’n afresymol) sy’n gysylltiedig â risgiau heb eu mesur a digwyddiadau annisgwyl.
Bydd Aelodau’r Cynulliad yn ymwybodol bod y Pwyllgor Datblygu Economaidd, fel yr oedd ar y pryd, wedi archwilio’r trefniadau arfaethedig gyda Chyngor Caerdydd yn drwyadl ym 1999 a 2000, a bod y Pwyllgor hwnnw a’r rhai a’i holynodd wedi’u hystyried o bryd i’w gilydd ers hynny. Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru dri adroddiad hefyd yn ymwneud â dirwyn Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd i ben ac fe’u hystyriwyd gan y Pwyllgor Archwilio rhwng 2000 a 2003. O dro i dro, trwy gyfrwng ymatebion i Gwestiynau’r Cynulliad ac adroddiadau i’r Pwyllgorau er enghraifft, darparwyd gwybodaeth ychwanegol. Mae’r ymrwymiad i dalu nifer o rwymedigaethau wrth gefn na ellir eu mesur, a etifeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o ganlyniad i ddirwyn Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd i ben, yn ymddangos fel rhwymedigaeth wrth gefn yng nghyfrifon y Cynulliad Cenedlaethol.
Bydd Aelodau’r Cynulliad hefyd yn ymwybodol: (i) bod y rhwymedigaethau sy’n gysylltiedig â chyflawni swyddogaethau dan Ddeddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993 yn rhai parhaol a rheolaidd (hyd yn oed os caiff y Cytundeb ei amrywio, os yw’n parhau dan y telerau presennol neu os caiff ei derfynu); (ii) bod y Cytundeb yn cynnwys darpariaeth ar gyfer adolygu’r trefniadau sydd ynddo a’u diwygio, os yw hynny’n briodol, neu fod y naill ochr neu’r llall yn rhoi hysbysiad i’w terfynu ar ôl cyfnod cychwynnol; ac (iii) o Ddatganiadau blaenorol y Cabinet a’i adroddiadau i’r Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth, bod yr adolygiad o’r Cytundeb ar y gweill ar hyn o bryd gyda’r nod o’i gwblhau er mwyn i drefniadau diwygiedig ddod i rym ar 1 Ebrill 2007.
Mae’r adolygiad yn mynd rhagddo’n dda ac mae fy swyddogion a swyddogion y Cyngor wedi dod i gytundeb ynglŷn ag egwyddorion ariannu yn y dyfodol, a nodir mewn ‘Gweithred Amrywio’ i’r Cytundeb. Mae swyddogion y Cyngor yn ystyried drafft o’r ‘Weithred’ hon ar hyn o bryd cyn ei chyflwyno i Bwyllgor Gweithredol y Cyngor ar 8 Mawrth i’w chymeradwyo. Dyma’r prif egwyddorion:
• Y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn darparu’r cyllid angenrheidiol i’r Cyngor i sicrhau y gall gyflawni ei swyddogaethau yn neu o dan Ddeddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993, i’w alluogi i gynnal a chadw’r eiddo (a drosglwyddwyd iddo dan y Cytundeb gwreiddiol) a chyflawni unrhyw rwymedigaethau cysylltiedig eraill dan gontract.
• Darperir y cyllid yn bennaf ar ffurf cyllideb sefydlog ar gyfer rhestr estynedig o weithgareddau sefydlog (yn amodol ar amodau a chyfyngiadau) dros gyfnod o dair blynedd. Telir costau annisgwyl neu gostau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a nodwyd na ellir yn rhesymol eu mesur ar sail eu cost wirioneddol;
• Sefydlir Cronfa Ychwanegiadau i hwyluso, yn y bôn, ariannu gwariant i wella ac ehangu’r seilwaith neu’r gwasanaethau yn y Bae neu o’i gwmpas a fydd yn weithgareddau neu’n ddatblygiadau ychwanegol fel rheol. Gellir ei defnyddio hefyd er mwyn i’r Cyngor gyflawni ei swyddogaethau dan y Ddeddf Morglawdd, ar gyfer yr eiddo neu ymrwymiadau penodol dan gontract os yw’n gwario mwy na’r gyllideb cost sefydlog ar gyfer gwneud hynny. Cyfrif yn nwylo’r Cynulliad Cenedlaethol fydd hwn, ar ffurf credyd i’r Cyngor. Caiff unrhyw arbedion y bydd y Cyngor yn eu sicrhau ar y gyllideb sefydlog (yn cynnwys unrhyw gredyd heb ei ddefnyddio a ddygir ymlaen o’r ‘gyllideb arbedion’ bresennol) eu defnyddio ar gyfer y Gronfa Ychwanegiadau, ynghyd ag incwm sy’n deillio o weithgareddau yn y Bae. Nid arian ychwanegol yw hwn. Mae angen cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn gwario arian o’r gronfa hon ac eithrio lle y bwriedir ei wario ar swyddogaethau craidd, eiddo a hawliau contractiol a rhwymediaethau a drosglwyddir iddo a lle y gellir talu amdano o fewn cyfanswm y gwariant y cytunwyd arno o’r Gronfa Ychwanegiadau;
• Bydd darpariaeth er mwyn i’r Cynulliad Cenedlaethol allu ariannu prosiectau ehangu neu wella eraill yn y Bae neu o’i gwmpas neu mewn perthynas ag eiddo, a hynny’n llwyr neu’n rhannol, os yw’n dewis gwneud hynny; a
• Bydd darpariaeth ar gyfer ariannu, ar sail y costau gwirioneddol, adnewyddu asedau a ddefnyddir mewn perthynas â swyddogaethau ac eiddo’r Ddeddf Morglawdd. Llunnir cynllun adnewyddu asedau a chytunir ar gyllideb ddangosol ar gyfer pob cyfnod busnes tair blynedd.
Cytuno ar gyllidebau manwl a manylion gweithredol eraill fydd y cam nesaf, a nodir mewn atodlenni i’r ddogfen sy’n amrywio’r Cytundeb. Bydd cyllidebau ar gyfer yr elfen cost benodedig (y rhwymedigaeth wirioneddol) yn seiliedig ar brofiad sydd wedi’i ennill dros y chwe blynedd diwethaf a dealltwriaeth llawer gwell o’r risgiau, y rhwymedigaethau a’r costau a gysylltir â hwy. Ar hyn o bryd ni allaf fod yn fanwl gywir ond mae fy swyddogion yn ystyried cynigion y Cyngor ar gyfer y cyfnod busnes tair bynedd cyntaf sydd yn rhyw £10m y flwyddyn, ac sy’n cydymffurfio yn fras â’r cyllidebau y cytunwyd arnynt ar gyfer y fwyddyn bresennol ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cytunir hefyd ar broffil o wariant ar raglen adnewyddu asedau ac o’r Gronfa Ychwanegiadau. Telir am y rhain, ynghyd â’r gyllideb costau penodedig, o fewn BELs presennol ‘CBDC i lywodraeth leol’. Nid oes modd meintioli costau rhwymedigaethau wrth gefn.
Ni fydd yr amrywiad yn newid rhwymedigaeth sylfaenol y Cynulliad Cenedlaethol i ariannu pob rhwymedigaeth annisgwyl p’un a yw’r hen ymgymeriad CBDC yn cael ei gario ymlaen gan y Cyngor, gan drydydd parti arall neu gan y Cynulliad Cenedlaethol ei hun, ond bydd y diwygiadau arfaethedig yn darparu mwy o eglurdeb, hyblygrwydd a sicrwydd o ran y rhwymedigaethau rhagweladwy. Yn ddarostyngedig i gytuno ar yr Atodlenni i’r Weithred ac i gytunedb yr uchod gan ac ar ran Gweithrediaeth y Cyngor, disgwyliaf fod mewn sefyllfa i awdurdodi Gweithred Amrywio i’r Cytundeb rywbryd y mis nesaf.
Fel y nodir uchod mae’r rhwymedigaethau gwironeddol ac wrth gefn yn yr achos hwn yn rhai parhaus.