Skip to content

Ysgrifenedig - Darparu ac Ariannu Gwasanaethau Gofal Lliniarol yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cefndir

Mae gofal lliniarol yn berthnasol i bob maes arbenigol ac yn rhan hanfodol o’r pecyn cyfan o ofal i gleifion sy’n dioddef o gyflyrau hirdymor sy’n gwaethygu’n raddol neu nad oes modd eu gwella. Gall gael ei ddarparu mewn nifer o leoliadau gan gynnwys yr ysbyty, y cartref, cartref gofal yn ogystal â hosbis fel claf mewnol. Disgwylir i Fyrddau Iechyd Lleol asesu’r angen am wasanaethau gofal lliniarol ymhlith eu poblogaethau lleol a chynllunio, trefnu a darparu gwasanaethau i ddiwallu’r angen hwnnw. Drwy wneud hynny, byddant yn gweithio’n agos ag asiantaethau eraill gan gynnwys y rheini yn y sector gwirfoddol. Mae polisi cyffredinol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer gofal lliniarol, Cyfeiriad Strategol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Lliniarol yng Nghymru yn cadarnhau bod rhan bwysig i hyblygrwydd ac ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan y sector gwirfoddol wrth ddiwallu anghenion cleifion.

£10 miliwn ar ffurf cyllid anghylchol

Er mwyn cydnabod y rôl bwysig sydd i’r sector gwirfoddol wrth ddarparu gofal lliniarol, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sicrhau bod £10m ar gael fel cyllid anghylchol am gyfnod o bedair blynedd er mwyn hybu datblygu a gwella gwasanaethau a ddarperir gan nifer o’r cyrff hyn. Nid bwriad y cyllid anghylchol hwn oedd talu costau cynnal craidd ac anogwyd y cyrff hyn o’r dechrau’n deg i weithio’n agos â Byrddau Iechyd Lleol, drwy’r Rhwydweithiau Canser, er mwyn asesu’r anghenion am y gwasanaeth yn y dyfodol a sefydlu trefniadau ariannu cynaliadwy.

Adolygiad sylfaenol o wasanaethau

Mae gwasanaethau gofal lliniarol yn amrywio rhwng gwahanol rannau o Gymru ac maent wedi datblygu ar hap, gan ymateb yn aml i’r galw yn lleol ac ymgyrchoedd codi arian yn lleol. Er mwyn deall yn well sut y mae’r gwasanaethau hynny yn cael eu darparu ac ym mha le, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi comisiynu adolygiad o’r gwasanaethau gofal lliniarol ledled Cymru. Pwrpas yr adolygiad yw:

  • canfod ac ymchwilio i’r ddarpariaeth gyfan o ofal lliniarol yng Nghymru a ddarperir gan y GIG, darparwyr preifat a’r sector gwirfoddol.  
  • canfod pa ddarpariaeth sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion cleifion, pa fylchau sydd yn y ddarpariaeth honno a sut y gellir eu llenwi orau gan y GIG a’r sectorau preifat a gwirfoddol.
  • canfod cyfanswm y gwariant presennol a’r gwariant sy’n ofynnol ar ofal lliniarol yng Nghymru gan y GIG a’r sectorau preifat a gwirfoddol.
  • canfod ffynonellau ariannu ac a ddylid eu defnyddio’n well er mwyn diwallu anghenion cleifion.
  • canfod pa gamau penodol y dylid eu cymryd a chan bwy er mwyn i bob rhanddeiliad (y GIG a’r sectorau preifat a gwirfoddol) weithio’n integredig ar gynllunio, trefnu a darparu gofal lliniarol.

Yn sgil canfyddiadau’r adolygiad, bydd adroddiad yn cael ei lunio ar y gwasanaethau a ddarperir gan y GIG, mudiadau preifat a’r sector gwirfoddol ym mhob un o’r tair ardal ranbarthol sef Gogledd Cymru, y Canolbarth a De-orllewin Cymru, a De-ddwyrain Cymru. Bydd rhestr o argymhellion ar gyfer y rhanbarthau hyn yn cael ei llunio hefyd. Bydd yr adolygiad yn edrych ar wasanaethau i oedolion a phlant fel ei gilydd.

£2 miliwn ar ffurf cyllid refeniw cylchol

Wrth i’r rhaglen ariannu £10 miliwn ddod i’w therfyn, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod bod angen parhau â’r cymorth a roddir i’r gwasanaethau gofal lliniarol. Bydd £2 filiwn ar gael felly ar ffurf cyllid cylchol yn 2007-08 ar gyfer y sector gwirfoddol. Wrth roi cyllid cylchol neilltuedig yn rhan o’r gyllideb am y tro cyntaf rydym yn cydnabod y bydd y cyrff hynny sy’n darparu gofal safonol i ddiwallu anghenion cleifion yn elwa’n sylweddol o’r diogelwch a geir o wneud trefniadau ariannu cynaliadwy hirdymor. Ni ddylid ystyried fodd bynnag y golyga hynny y gall y sector gwirfoddol gwtogi ar ei ymdrechion i godi arian. Ni ddylid ystyried ychwaith y golyga y bydd yn darparu arian yn lle’r Byrddau Iechyd Lleol tuag at ganolfannau hosbis. Dylai’r Byrddau Iechyd Lleol barhau i weithio, drwy’r Rhwydweithiau Canser Rhanbarthol, gyda’r sector gwirfoddol i wella trefniadau comisiynu cynaliadwy.

Bydd canlyniad yr adolygiad, a ddisgwylir ddiwedd mis Ebrill, yn helpu’r broses o ddyrannu’r £2 filiwn. Bwriedir i’r broses hon o ddyrannu’r arian, a fydd yn cael ei gwneud cyn gynted ag y bo modd, sicrhau bod yr arian yn cael ei dargedu at wasanaethau gofal lliniarol o safon uchel sydd eu hangen i ddiwallu anghenion penodol cleifion.