Skip to content

Ysgrifenedig - Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru I Adroddiad Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal Ar Y Gwasanaethau A Ddarperir I Bobl Ifanc Anabl

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Jane Hutt, Y Trefnydd A'r Gweinidog Dros Gydraddoldebau A Phlant
Hoffwn groesawu'r adroddiad arwyddocaol hwn, a diolch i bawb a fu'n rhan o'r broses o'i gynhyrchu. Mae'r Pwyllgor Cyfle Cyfartal (EOC) wedi cydweithio'n agos â phobl ifanc anabl i nodi materion trawsbynciol ac i dynnu ein sylw atynt. Bydd yn rhaid i ni fodloni'r her y maent wedi'i chyflwyno, yn unol â'n hymrwymiad i'r gwaith o hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yn pwysleisio'r angen i roi cyfle cyfartal i bobl ifanc anabl; a'r angen i ddarparwyr gwasanaeth gynllunio ar y cyd â phobl ifanc anabl er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau a'r dewisiadau a gynigir yn eu galluogi i fyw bywydau llawn fel dinasyddion ifanc.
Mae'r adroddiad hwn yn trafod llawer o faterion ac yn gwneud nifer o argymhellion. Hyderaf y bydd fy ymateb yn rhoi syniad clir i chi o gyfeiriad polisi Llywodraeth y Cynulliad, ac yn rhoi sicrwydd i chi o'n hymrwymiad i'r gwaith o lunio polisïau a darparu gwasanaethau, a hynny gan ganolbwyntio'n gadarn ar anghenion unigolion.
Yn achos pedwar o'r argymhellion, nid oes gan Lywodraeth y Cynulliad y pwerau i weithredu yn y ffordd arfaethedig ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn eu cefnogi mewn egwyddor a byddwn yn eu cyflwyno mewn trafodaethau â'r cyrff cyfrifol perthnasol. Nodir yr argymhellion hyn yn Atodiad A.
Rydym wedi derbyn y model cymdeithasol o anabledd ers peth amser. Rydym wedi gweithio gydag Anabledd Cymru i hyrwyddo'r model hwn ar draws holl bortffolios y Gweinidogion.  Er hyn, gwn fod llawer o waith ar ôl i'w wneud er mwyn dangos ein hymrwymiad i'r model hwn. Yn ôl arolwg diweddar, prin iawn yw dealltwriaeth y cyhoedd ym Mhrydain o'r model cymdeithasol.
Mae'r model cymdeithasol yn ysgogi newid. Mae'n dangos bod rhwystrau cymdeithasol ac amgylcheddol yn cyfyngu ar y cyfleoedd sydd gan bobl anabl i chwarae rhan gyfartal yn y gymdeithas, ac weithiau'n eu hamddifadu o'r cyfleoedd yn gyfan gwbl. Hynny yw, mae'r gymdeithas yn analluogi pobl ac yn eu hatal rhag cymryd rhan mewn bywyd bob dydd. Wrth reswm felly, rhaid newid y ffordd y mae'r gymdeithas wedi'i threfnu er mwyn galluogi pobl anabl i gyfranogi. Rhaid i ni ddymchwel rhwystrau sy'n allgáu pobl (ac yn eu hanalluogi). Rhaid i ni sicrhau bod hyn yn digwydd ar draws meysydd addysg, iechyd, hyfforddiant, cyflogaeth a thrafnidiaeth, er enghraifft – ac mae pob un o'r meysydd hyn wedi'u nodi yn yr adroddiad hwn.
Mae’n amlwg felly bod gan bob un o feysydd portffolio y Gweinidogion ran bwysig i'w chwarae wrth sicrhau ein bod yn gwireddu'r ymrwymiad hwn i bobl anabl. Mae ein hymrwymiad a'n nodau wedi'u nodi yn ein Cynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl ac yn y cynlluniau gweithredu a gynhyrchir gan bob adran Weinidogol. Rydym wedi nodi ein hymrwymiad i brif ffrydio cydraddoldeb ym mhob peth a wnawn drwy ddatblygu systemau a strwythurau i sicrhau hyn. Rydym am hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl yn rhinwedd ein swydd fel cyflogwr ac fel Llywodraeth Cymru.
Rhaid i'r holl waith a wnawn gael ei fframio o gwmpas yr agenda brif ffrydio.   Y cyfan a olygir wrth brif ffrydio cydraddoldeb yw cynnwys cyfle cyfartal ym mhob cam, o ddatblygu polisïau i ddarparu gwasanaethau. Nid yw'n ôl-ystyriaeth ac nid oes a wnelo ag ymgynghori ar ôl gwneud penderfyniad. Mae'n ymwneud â deall amrywiol anghenion unigolion, a gweithio 'gyda' hwy yn hytrach na gwneud pethau 'iddynt' a darparu ar sail tegwch, cydraddoldeb, parch ac urddas i bawb.
Rwy'n falch iawn bod yr adroddiad hwn yn seiliedig ar ymgysylltu go iawn. Gwn fod y broses wedi cyfoethogi pawb a fu'n ymwneud â'r grwp cyfeirio o bobl ifanc sydd wedi gweithio gyda'r Pwyllgor. Mae honno ynddi'i hun yn neges bwysig sydd wedi deillio o'r adroddiad hwn. Dyma'r camau cyntaf ar y daith o ymgysylltu'n effeithiol â phobl anabl. Rydym wedi gwneud gwaith cychwynnol da fel rhan o'n cynllun anabledd, gan adeiladu rhwydweithiau a pherthnasau a rhannu dealltwriaeth ac arferion da. Rwyf am weld Llywodraeth Cynulliad Cymru drwyddi draw yn adeiladu ar y perthnasau cynhyrchiol hyn.
Mae ein gwaith gyda phlant a phobl ifanc ar gyfranogiad yn benodol o berthnasol i ymgysylltu â phobl ifanc. Fel rhan o'n hymrwymiad i sicrhau bod gan yr holl blant a phobl ifanc yng Nghymru gyfleoedd i gyfrannu at benderfyniadau sy'n effeithio arnynt, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi pennu gofyniad statudol i sicrhau bod gan yr holl ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig yng Nghymru gyngor ysgol erbyn 1 Tachwedd 2006.  Cymru yw'r unig ardal yn y DU lle mae deddfwriaeth o'r fath ar waith ar hyn o bryd.  Mae arweinydd prosiect cynghorau ysgol Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys y Ddraig Ffynci, Achub y Plant, y Consortiwm Cyfranogiad a phlant a phobl ifanc eu hunain i ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i ysgolion er mwyn eu helpu i ddatblygu cynghorau ysgol hynod effeithiol a modelau o gyfranogiad disgyblion.

Dyma ymateb y Llywodraeth i bob un o'r argymhellion:

Cyffredinol

Argymhelliad 1:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddatblygu polisi strategol i gynnwys yr holl wasanaethau sydd eu hangen ar bobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer byw bywyd llawn. Dylai pobl ifanc fod yn rhan o'r gwaith o ddod o hyd i'r ffordd orau o sicrhau bod hyn yn digwydd.

Argymhelliad 2: Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru lunio canllawiau ar gyfer yr holl is-adrannau polisi, yr awdurdodau lleol a'r cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru ar gyfer cynnwys pobl ifanc anabl, eu teuluoedd a'u gofalwyr, yn y broses o lunio polisïau. Dylai'r canllawiau nodi arferion da (ee, gwaith y Grwp Cyfeirio Pobl Ifanc Anabl) a phwysleisio'r angen i wrando ar bobl ifanc anabl yn mynegi'u barn yn hytrach na chanolbwyntio ar farn eu teuluoedd neu eu gofalwyr.

Argymhelliad 3: Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru roi canllawiau i holl gyrff y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau, gwaith un i un, grwpiau, prosiectau a mentrau i bobl ifanc er mwyn sicrhau eu bod mor hygyrch ag sy'n bosibl i'r holl bobl ifanc. Dylai'r canllawiau:  

sicrhau bod gwybodaeth am brosiectau yn hygyrch;
creu amgylchedd y mae'r bobl ifanc yn teimlo'n gyfforddus ynddo;
sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn cael eu deall yn llawn;
sicrhau bod pobl ifanc yn gwneud cynnydd tuag at brosiectau, ac yn eu mwynhau ac yn cael eu herio ganddynt yn ôl eu dymuniadau, tra ar yr un pryd, asesu unrhyw risgiau cysylltiedig a'u lleihau.

Derbyn

Yn unol â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005, mae'n ofynnol bod gan yr holl gyrff cyhoeddus Gynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl sy'n mynd i'r afael â'r argymhellion hyn. Wrth baratoi ein cynllun, rydym wedi ceisio cynnig esiampl ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru o ran ymgysylltu â phobl anabl a gwrando ar eu barn. Cynaliasom ddigwyddiadau ledled Cymru mewn cydweithrediad ag Anabledd Cymru a'r EOC. Rhoddwyd adroddiad cryno o'r rhain i randdeiliaid allweddol a'r Comisiwn Cyfle Cyfartal yn ystod hydref 2006. Y bwriad yw bod y digwyddiadau hyn yn rhan o ddeialog parhaus â phobl anabl a'u cynrychiolwyr, er mwyn llywio'r polisïau a gaiff eu llunio yn y dyfodol.  

Rydym yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer eu defnyddio'n fewnol gan Lywodraeth y Cynulliad, yn trafod cynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o ddatblygu polisïau sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae'r canllawiau hyn yn ategu pwysigrwydd gweithredu mewn dull cynhwysol, a'r angen i gynnwys plant a phobl ifanc o grwpiau diddordeb arbennig ac anodd eu cyrraedd.  Yn ogystal, mae Consortiwm Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Cymru yn cyhoeddi canllawiau ("It's not Rocket Science") ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru.    
 
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn ategu ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Mae Deddf Plant 2004 yn atgyfnerthu trefniadau partneriaeth lleol ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Cyhoeddwyd canllawiau ar ddyletswyddau lleol i gydweithredu sy'n dwyn y teitl “Partneriaethau Cryfach i Wella Canlyniadau" ym mis Medi 2006.

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau drafft ar Gynlluniau Plant a Phobl Ifanc, ac yn ymgynghori arnynt. Bydd angen i'r cynlluniau cyntaf fod yn eu lle erbyn 2008.   Bydd y cynlluniau'n cynnwys yr holl wasanaethau i blant a phobl ifanc, o'u genedigaeth hyd nes eu bod yn 18 oed: ac yn achos y rheini sy'n gadael gofal a gwasanaethau cefnogi ieuenctid, hyd nes eu bod yn 25 oed.  Bydd y cynlluniau'n dod yn lle'r Cynlluniau Addysg Sengl, Cynlluniau Plant y gwasanaethau cymdeithasol ac elfennau strategol y Cynlluniau Pobl Ifanc.

Dyma fydd rhai o egwyddorion allweddol gofynion y cynllun:

• rhoi'r flaenoriaeth uchaf i blant a phobl ifanc sydd â'r angen mwyaf
• ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd wrth ymgynghori ar gynlluniau ac asesu'r ddarpariaeth
• rhannu'r gwaith o gynnal asesiad o anghenion lleol
• comisiynu ac ariannu gwasanaethau ar y cyd yn seiliedig ar flaenoriaethau yn y cynllun.

Bydd angen Partneriaethau arnom i gysylltu'r camau yn eu cynlluniau â'r gwaith o ddarparu 7 nod creiddiol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer plant a phobl ifanc; ac â pholisi Ymestyn Hawliau sy'n nodi fframwaith ar gyfer cefnogi pobl ifanc rhwng 11 - 25 oed a darparu gwasanaethau iddynt, er mwyn eu helpu i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant, i wneud y mwyaf o gyfleoedd cyflogaeth ac i gymryd rhan ym mywydau eu cymunedau. Mae Ymestyn Hawliau yn berthnasol i bob person ifanc.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth

Argymhelliad 6:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru lunio polisi fframwaith cydgysylltiedig, holistig ar gyfer darparu gwasanaethau a chymorth cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg cyn-16 ac ôl-16 (hyd at 25 mlwydd oed o leiaf).

Dylai'r polisi fframwaith gynnwys darparu gwasanaethau, asesu a dull cynnar o adnabod er mwyn pennu'n glir y rolau aml-asiantaeth a'r protocolau ar gyfer rhannu gwybodaeth, a darparu gwasanaethau.

Derbyn

Cynlluniau Fframwaith Plant a Phobl Ifanc cyfredol (a'r cynlluniau Plant a Phobl Ifanc sy'n eu holynu) yw'r prif gyfrwng ar gyfer polisi fframwaith.  Mae'r cynlluniau'n cynnwys dull cynnar o adnabod, asesu a darparu gwasanaethau ar sail aml-asiantaeth.

Cymeradwywyd set o fesurau i hwyluso'r gwaith o gynllunio'r cyfnod pontio ac i sicrhau darpariaeth breswyl arbenigol ar gyfer dysgwyr ag anawsterau dysgu a/neu anableddau (LLDD) gan Is-bwyllgor y Cabinet ar Blant a Phobl Ifanc ym mis Tachwedd 2006.  Mae'r mesurau'n canolbwyntio ar gydweithredu rhyng-asiantaethol o Flwyddyn 9 ymlaen, gan arwain at wella'r trefniadau ar gyfer sicrhau lleoliadau preswyl ôl-16 arbenigol, a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth y Cynulliad ac asiantaethau eraill.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, mewn cydweithrediad â Grŵp 'Transition in Action', sy'n cynnwys rhanddeiliaid allanol o'r sector cyhoeddus a'r sector gwirfoddol, yn cynnal cynhadledd yn ddiweddarach yn 2007 er mwyn i bobl ifanc anabl ystyried y cyfnod pontio o fod yn bobl ifanc i fod yn oedolion. Mae'r gynhadledd yn cael ei dylunio gyda mewnbwn oddi wrth bobl ifanc anabl. Caiff adroddiad cynhadledd ei ddosbarthu er mwyn ei gwneud yn bosibl i rannu arferion da.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau bod £20,000 ar gael i ddatblygu canllaw pontio ar gyfer pobl ifanc, gwefan ar y cyfnod pontio ar gyfer pobl ifanc anabl a phecyn cymorth ar gyfer pobl broffesiynol ym maes cynllunio'r cyfnod pontio, gan gynnwys enghreifftiau o arferion da. Bydd y gwaith o ddatblygu'r adnoddau hyn yn tynnu ar ddeunydd y gynhadledd a bydd yn ymwneud â phobl ifanc anabl.

Goblygiadau Ariannol – Dim arian ychwanegol ar ben yr sydd eisoes yn y gyllideb.

Argymhelliad 7: Llywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu'r systemau asesu ac ariannu ar gyfer cefnogi gwasanaethau i helpu pobl ifanc anabl i symud o addysg a hyfforddiant i gyflogaeth. Dylai'r adolygiad ganolbwyntio ar ddarpariaeth sy'n seiliedig ar waith, a sicrhau ei bod yn rhoi pwyslais ar ganlyniadau cyfartal o safbwynt swyddi a chynnydd, yn hytrach na'r cymwysterau a enillir.

Derbyn

Mae'r Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (AADGOS) yn gweithio tuag at fethodoleg cyllid sengl ar gyfer yr holl ddarpariaeth LLDD ôl-16 er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cyfredol ar draws darpariaeth ôl-16.  

Nod y Cynllun Gwella Dysgu Seiliedig ar Waith (WBLIP) y cytunodd y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau arno ym mis Ionawr 2006 yw gwella rhaglenni dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Rhoddir ffocws newydd i'r rhaglenni pob oed hyn, er mwyn darparu yn erbyn y ddau yrrwr polisi allweddol, sef cyflogadwyedd (mynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd) a'r gweithlu presennol (sgiliau). Y bwriad yw hwyluso mynediad ar gyfer dysgwyr o bob oed a phob gallu, gan roi'r sgiliau priodol iddynt fynd i mewn i'r farchnad lafur, ac aros yno.

Caiff yr argymhelliad hwn ei gyflwyno fel rhan o'n hadolygiad ar Adeiladu Sgiliau.

Goblygiadau Ariannol – Dim

Argymhelliad 8: Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod yr holl gyngor a chefnogaeth ar addysg, hyfforddiant a gyrfaoedd, boed yn gyngor ar lafar neu'n gyngor ysgrifenedig, yn cael ei gynnig drwy gyfrwng y Gymraeg ac ieithoedd ethnig lleiafrifol ac ar fformatau hygyrch. Dylai hyn gynnwys sicrhau bod yr holl wasanaethau gwybodaeth a gaiff eu hariannu gan y Cynulliad ar gael ar-lein.

Derbyn

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn llwyr ymroddedig i’r gwaith o ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg, a baratowyd yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Deddf Llywodraeth Cymru 2006, yn nodi sut y byddwn yn darparu gwasanaethau iaith Gymraeg i'r cyhoedd.

Mae Iaith Pawb, ein cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer Cymru wirioneddol ddwyieithog, yn nodi bod darparu AAA yn Gymraeg ac yn ddwyieithog yn fater o gyfle cyfartal. Mae'n cydnabod hawliau disgyblion ag anghenion addysgol arbennig i gael darpariaeth yn eu dewis iaith. Yn unol â hyn, mae un prosiect sy'n deillio o Iaith Pawb yn canolbwyntio ar ddarparu therapi iaith a lleferydd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Gyrfa Cymru wedi cytuno ar Gynllun Iaith Gymraeg gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae'r holl gwmnïau yn cyflogi staff Cymraeg eu hiaith i roi cyngor a chyfarwyddyd i bobl ifanc mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ar gyfer eu holl gleientiaid yn ôl y galw. I gefnogi hyn, mae Gyrfa Cymru yn darparu ystod o ddeunyddiau gwybodaeth dwyieithog am y farchnad lafur ac am yrfaoedd, a hynny ar ffurf copi caled a thrwy wefan Gyrfa Cymru Ar-lein. Mae copïau caled o wybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth a chyfleoedd dysgu hefyd ar gael mewn ieithoedd ethnig lleiafrifol amlwg, cyn belled ag y bo hynny'n briodol o dan yr amgylchiadau a chyhyd â bo hynny'n rhesymol ymarferol.

Nod Gyrfa Cymru yw gwella cynnwys a fformat Gyrfa Cymru Ar-lein (CWO), a sicrhau ei fod yn addas at ei ddibenion, ar gyfer cleientiaid ag ystod o anghenion arbennig. Mae wedi blaenoriaethu cynnwys ar gyfer cleientiaid ag anghenion arbennig yn ystod Cam 3 y broses o ddatblygu Gyrfa Cymru Ar-lein, ac mae wedi anfon Rheolwr Anghenion Arbennig Gyrfa Cymru ar secondiad i weithio ar y prosiect. Datblygwyd manyleb fanwl yn seiliedig ar adborth gan gleientiaid, partneriaid a staff. Mae hyn wedi deillio yn rhannol o grwpiau ffocws a chleientiaid ag anghenion arbennig, rhieni cleientiaid sydd ag anghenion arbennig, athrawon anghenion arbennig a sefydliadau gwirfoddol. Disgwylir y rhoddir prawf ar gynnwys y safle sydd wedi'i dargedu at gleientiaid AAA sydd ag anghenion addysgol arbennig, ac y bydd ar gael yn ystod y cyfnod rhwng Medi 07- Mawrth 08.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 9:  Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod gan yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru systemau ar waith i sicrhau bod yr holl bobl ifanc, er gwaethaf unrhyw amhariad, yn cael cymorth priodol drwy'r broses bontio.

Argymhelliad 10: Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod cymorth un i un ar gael i bobl ifanc anabl fel rhan o'r gwasanaethau addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Derbyn yn rhannol

Mae'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a'r Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru yn nodi safonau penodol ar gyfer cyrff cyhoeddus i sicrhau y cynigir ystod o wasanaethau aml-asiantaeth cydgysylltiedig i bobl ifanc anabl sydd angen gwasanaethau parhaus, yn unol â'r angen a aseswyd, er mwyn pontio'n effeithiol o fod yn blant i fod yn oedolion. Mae'r egwyddorion allweddol yn y strategaeth 10 mlynedd hon yn cynnwys yr angen i sicrhau bod system rhyng-sefydliadau ar waith i nodi plant sydd angen pontio i wasanaethau oedolion yn ystod y flwyddyn cyn eu pen-blwydd yn 14 oed (ym mlwyddyn 8) - fel yr amlinellwyd yng Nghod Ymarfer AAA Cymru.  Mae'r cod hwn yn llywio prosesau cynllunio strategol yr holl sefydliadau.

Mae'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn mynnu ymhellach bod gweithiwr pontio allweddol yn cael ei benodi i'r holl bobl ifanc anabl sydd angen dau wasanaeth neu fwy yn 14 oed. Cyfrifoldeb y gweithiwr allweddol yw sicrhau bod y bobl ifanc, eu teuluoedd a'r holl asiantaethau perthnasol yn chwarae rhan briodol yn y broses gynllunio. Mae'r gweithiwr pontio allweddol yn cydgysylltu'r broses o gynllunio a darparu'r gwasanaethau, a hynny cyn, yn ystod ac ar ôl y broses bontio, a bydd yn parhau i fonitro a chysylltu â'r person ifanc tan ei fod yn 25 oed.  

Mae Offeryn Archwilio Hunan-Asesu (SAAT) wedi'i ddatblygu fel rhan o'r system rheoli perfformiad ar gyfer y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant. Mae Partneriaethau Fframwaith Plant a Phobl Ifanc yr Awdurdodau Lleol yn defnyddio data'r SAAT i fonitro'r cynnydd a wneir wrth roi Camau Allweddol y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar waith.  Mae'r SAAT hefyd yn hwyluso'r broses o rannu arferion da.

Mae Deddf Dysgu a Medrau 2001 yn rhoi dyletswydd ar Lywodraeth y Cynulliad i wneud trefniadau ar gyfer asesu pobl ifanc o dan 19 oed â datganiadau anghenion addysgol arbennig, lle mae'n credu eu bod yn debygol o adael yr ysgol a pharhau ag addysg neu hyfforddiant ôl-16 neu fynd ymlaen at addysg uwch. Rhaid cynnal yr asesiad yn ystod blwyddyn olaf yr addysg orfodol a dylai nodi anghenion dysgu unigolyn a'r ddarpariaeth sydd ei hangen i'w bodloni.  

Mae'r Ddeddf hefyd yn rhoi'r pŵer i Lywodraeth y Cynulliad asesu unrhyw berson ifanc o dan 25 mlwydd oed lle'r ymddengys bod ganddynt anawsterau dysgu a lle maent yn ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant ôl-16, neu’n debygol o wneud hynny, neu fynd ymlaen at addysg uwch. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i gynnal asesiadau lle mae pobl ifanc sy'n parhau â'u haddysg neu eu hyfforddiant ôl-16, yn datblygu anawsterau dysgu ychydig cyn neu ar ôl gadael yr ysgol, ac felly na fyddai ganddynt ddatganiad AAA. Mae'r pŵer hon yn berthnasol o safbwynt pobl hyd at 25 oed, er mwyn sicrhau bod yr asesiadau yn berthnasol drwy gydol y cwrs dysgu. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn arfer y dyletswydd hwn drwy ei chontract blynyddol â chwmnïau Gyrfa Cymru, ac eithrio lle mae person ifanc eisoes yn mynychu cwrs Addysg Uwch yng Nghymru. O dan yr amgylchiadau hyn, gofynnir i'r sefydliad AU perthnasol drefnu'r asesiad – naill ai drwy ei Wasanaeth Gyrfaoedd ei hun neu drwy law Gyrfa Cymru.  

Mae'r trefniadau asesu a ddisgrifir uchod yn nodi p'un a yw cefnogaeth un i un yn angenrheidiol i berson ifanc anabl, ac i ba raddau. Bydd cefnogaeth o'r fath bob amser yn cael ei hystyried, er hyn, ni fydd bob amser yn briodol, neu'n briodol drwy'r amser.

Goblygiadau Ariannol – Dim

Argymhelliad 11: Llywodraeth Cynulliad Cymru i asesu effaith y gwasanaethau addysg, hyfforddiant a chyflogaeth a ddarperir drwy fesur pa mor hygyrch yw'r gwasanaethau i bobl ifanc anabl, p'un a yw'r gwasanaethau yn diwallu anghenion unigol a faint o bobl ifanc anabl rhwng 16-25 oed sydd mewn swydd neu sydd mewn swydd o'u dewis.

Argymhelliad 12: Llywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu ar ganlyniadau yr asesiad o'r gwasanaethau addysg, hyfforddiant a chyflogaeth er mwyn eu gwneud yn fwy effeithiol.

Derbyn

Mae gan ysgolion ac awdurdodau addysg lleol ddyletswydd statudol i baratoi cynlluniau a strategaethau hygyrchedd er mwyn:

• cynyddu faint o ran y gall disgyblion anabl ei chymryd yng nghwricwlwm yr ysgol;
• gwella amgylchedd ffisegol ysgolion er mwyn cynyddu i ba raddau y gall disgyblion anabl fanteisio ar addysg a gwasanaethau cysylltiedig mewn ysgolion; a
• gwella'r broses o sicrhau bod disgyblion anabl yn cael yr un wybodaeth ysgrifenedig a ddarperir i ddisgyblion nad ydynt yn anabl.

Yn fuan, bydd Estyn yn cyhoeddi adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a fydd yn rhoi cyngor ar sut y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru ei hun, yr awdurdodau lleol, ysgolion a darparwyr addysg eraill werthuso'r canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn benodol, bydd yn rhoi cyngor ar sut i asesu p'un a yw dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol yn cyflawni cymaint ag y medrent ac i ba raddau y mae eu darpariaeth ychwanegol yn cynnig gwerth am arian.

Wrth ddefnyddio grant gwella adeiladau ysgol Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod adeiladau newydd ac adeiladau sy'n cael eu hadnewyddu'n sylweddol yn hygyrch i bobl anabl.
Rydym yn cydweithio'n agos â'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r Ganolfan Byd Gwaith sy'n monitro mynediad pobl ifanc anabl at gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth drwy eu Gwasanaeth Cynghori ar Anabledd a'r Fargen Newydd, yn benodol y Fargen Newydd ar gyfer Pobl Anabl (NDDP). Rydym wedi cydweithio'n agos â'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r Ganolfan Byd Gwaith wrth ddatblygu, dylunio a darparu'r rhaglen Llwybrau at Waith a'r rhaglen a weithredir ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru / y Ganolfan Byd Gwaith, sef Yn Awyddus i Weithio.  Mae'r ddwy raglen yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth wedi'u cefnogi ar gyfer pobl ifanc anabl.

Bydd mwy o waith ymchwil yn cael ei gynnal yn y maes hwn yn ystod 2007/08.  

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 13:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru a darparwyr gwasanaeth adolygu'r gwasanaethau cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor a ddarperir i bobl ifanc ar berthnasau, rhywioldeb ac iechyd rhywiol, a hynny yn yr ysgol ac y tu allan i'r ysgol, mewn ymgynghoriad llawn â phobl ifanc anabl eu hunain.
Dylai unrhyw ganllaw arferion da sy'n deillio o hyn gael ei ddarparu mewn ffordd sy'n ddealladwy i blant a phobl ifanc ag amhariadau.

Derbyn

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi'r ail Brosiect Cyngor a Gwybodaeth Cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-25 oed, sef ‘Clic Ar-lein’.  Mae'n ofynnol i'r contractwyr ddarparu gwybodaeth mewn ystod o fformatau, gan gynnwys fersiynau awdio i bobl ifanc sydd â nam ar eu golwg.  

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi comisiynu Estyn i gynnal arolwg o'r addysg a ddarperir ar gyfer hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol a pharch at eraill. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar 14 Chwefror 2007. Bydd ei ganfyddiadau a'i argymhellion yn cael eu hystyried wrth adolygu'r canllawiau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu rhoi i ysgolion ac awdurdodau lleol.

Mae proses ymgynghori ar y Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol ar y gweill ar hyn o bryd fel rhan o'r adolygiad cyffredinol o'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Bydd y fframwaith terfynol a'r canllawiau cysylltiedig ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion yn ystyried materion sy'n ymwneud â hygyrchedd.

Cyhoeddwyd canllawiau arferion gorau ar ddarparu gwasanaethau cyngor ar atal cenhedlu ac iechyd rhywiol i bobl ifanc yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru ym mis Gorffennaf 2001. Roedd y cylchlythyr hwn yn amlygu'r angen i wasanaethau fod yn hygyrch i bobl ifanc ag anawsterau dysgu ac anableddau corfforol. Roedd yn annog darparwyr gwasanaethau i ymgynghori â'r holl bobl ifanc wrth gynllunio a gwerthuso eu gwasanaethau.

Goblygiadau Ariannol – Dim

Argymhelliad 15:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru roi mesurau ychwanegol ar waith, yn rhai ymarferol ac ariannol, megis cymhellion i gyflogwyr ac arian i weithwyr cymorth, i sicrhau bod lleoliadau profiad gwaith ystyrlon yn cael eu cynnig i bobl ifanc anabl.

Derbyn mewn Egwyddor

Rydym wedi penodi Tasglu Cyfranogiad Cyflogwyr 14-19.  Mae ei gylch gorchwyl yn cynnwys rhoi cyngor ar leoliadau profiad gwaith i bobl ifanc anabl. Mae disgwyl i'r Tasglu gyflwyno adroddiad erbyn diwedd mis Mawrth 2007.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 16:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru weithio gyda'r sector Gwirfoddol a'r sector Cymunedol i nodi ffyrdd i sefydliadau gwirfoddol chwarae mwy o ran yn y broses o ddarparu mentrau â'r nod o helpu pobl ifanc anabl i gael gwaith cynaliadwy.

Derbyn

Rydym yn cydweithio'n agos â'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r Ganolfan Byd Gwaith sydd yn eu tro yn gweithio gyda'r Sector Gwirfoddol i gynnig cyfleoedd a chefnogaeth er mwyn i bobl ifanc anabl gael gwaith parhaus o dan raglenni O Fudd-dâl i Waith, gan gynnwys NDDP.

Rydym hefyd yn gweithredu rhaglen dair blynedd i hyrwyddo mwy o wirfoddoli ymysg pobl ifanc 16-25, mewn ymateb i argymhellion Comisiwn Russell.  Mae'r profiad gwaith a geir drwy wirfoddoli yn gam gwerthfawr tuag at gyflogaeth. Rydym yn cyfrannu at waith Llywodraeth y DU sydd â'r nod o ddymchwel y rhwystrau sy'n atal pobl ifanc ag anableddau rhag gwirfoddoli. Mae'r gwaith yn debygol o gynnwys archwiliadau anabledd sy'n arwain at gynlluniau gweithredu trefniadol, hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd i staff a gwirfoddolwyr ac adnewyddu strwythurol i wneud adeiladau yn fwy hygyrch.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 17: Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gyflwyno sylwadau i'w chydweithwyr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar y canlynol: yr angen i oresgyn yr anghymhellion i weithio o fewn y system fudd-daliadau bresennol y mae pobl anabl yn eu hwynebu;
yr angen i ymgorffori digon o hyblygrwydd yn yr Asesiad o Gapasiti Personol (PCA) er mwyn cael ystyried cyflyrau meddygol sy'n amrywio;
yr angen i'r PCA fod ar gael drwy gyfrwng sy'n briodol i bob unigolyn.

Argymhelliad 18: Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau gydweithio'n agos i ddatblygu ffyrdd o ddefnyddio cyllidebau a'r system fudd-daliadau yn greadigol er mwyn sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael eu cefnogi gan Adrannau Whitehall.

Derbyn

Rydym yn cydweithio â'r Adran Gwaith a Phensiynau i ddatblygu'r Mesur Diwygio Lles, i ddylunio'r system fudd-daliadau newydd a rhaglenni'r dyfodol, ac i sicrhau eu bod yn cwmpasu polisïau Llywodraeth y Cynulliad ac yn diwallu anghenion pobl Cymru.  

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 19:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod ei strategaeth i wella'r gwasanaethau BSL, gan gynnwys dehonglwyr, yng Nghymru yn cyflawni ei hamcanion drwy ddefnyddio prosesau monitro ac adolygu rheolaidd.

Derbyn

Cydnabu Llywodraeth Cynulliad Cymru Iaith Arwyddion Prydain fel iaith yn ei rhinwedd ei hun ym mis Ionawr 2004.  Ers hynny, rydym wedi:

• darparu £1.6 miliwn i BSL Futures, sef menter bartneriaeth gwerth £2.7 miliwn a gefnogir hefyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Bydd BSL Futures yn cynyddu capasiti dysgu BSL ac yn hyfforddi mwy na 30 o ddehonglwyr newydd; ac
• ymgynghori ar ganllawiau drafft ‘Delivering in BSL:  Advice for Public Service’ – y mae disgwyl ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2007.
Rydym hefyd yn sefydlu Gweithred i sicrhau bod yr argymhellion yn y Ddogfen Gynghori yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol.
Mae Bwrdd BSL Futures yn cyfarfod yn rheolaidd bob tri mis i fonitro cynnydd, ac i lunio adroddiad ar y cynnydd i Lywodraeth Cynulliad Cymru.  

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 20:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru weithio gyda chyflogwyr yn y sector cyhoeddus ac yn y sector preifat a chydag Undebau Llafur i roi strwythurau yn eu lle sy'n annog cyflogwyr i gyflogi pobl anabl.

Derbyn mewn egwyddor

Nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru y pwerau cyfreithiol i gyflwyno’r argymhelliad hwn. Fodd bynnag, rydym yn cydweithio'n agos â'r Adran Gwaith a Phensiynau, y Ganolfan Byd Gwaith, yr Undebau Llafur a'r sector preifat a’r sector gwirfoddol i annog cyflogwyr i gyflogi pobl anabl.   Ar hyn o bryd, rydym yn cefnogi consortia braenaru Cities Strategy yng Nghymru, wrth ddatblygu eu cynlluniau busnes ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau. Nod y rhain yw rhoi llwybr i grwpiau dan anfantais, gan gynnwys pobl anabl, at gyflogaeth, drwy ddull holistig o weithio mewn partneriaeth.

Goblygiadau Ariannol – Dim

Argymhelliad 21: Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru weithio gyda llywodraeth y DU i sicrhau bod opsiynau ar gyfer cyflogaeth dan gymorth i bobl anabl yn cael eu cynnal.

Derbyn

Rydym eisoes yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn.  Yn benodol, rydym mewn cysylltiad rheolaidd o ran y broses gyfredol o adolygu gweithrediadau Remploy, sy'n canolbwyntio ar foderneiddio ei fusnesau, gwella gwerth am arian o safbwynt y ddarpariaeth, a gwella ystod y ddarpariaeth sydd ar gael i helpu pobl anabl i gael gwaith.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 22:   Llywodraeth Cynulliad Cymru i weithio gydag Anabledd Cymru, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a sefydliadau cyflogwyr eraill i ddatblygu ffyrdd o annog pobl ifanc anabl i ystyried hunan-gyflogaeth fel llwybr gyrfa yn y dyfodol.  

Derbyn

Rydym wedi cydweithio'n agos â'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r Ganolfan Byd Gwaith i ddatblygu a dylunio Llwybrau at Waith ac Yn Awyddus i Weithio.  Mae'r ddwy raglen yn cynnig cymorth, cyngor, cyfarwyddyd a chefnogaeth ariannol i bobl ifanc anabl sydd am fod yn hunan-gyflogedig.  Mae rhaglenni y Fargen Newydd hefyd yn cynnig opsiwn hunan-gyflogaeth.  

Mae Gyrfa Cymru yn cynnig gwasanaeth diduedd sy'n canolbwyntio ar y cleient i'r holl bobl ifanc gan gynnwys y rheini ag anableddau, i'w helpu i wneud dewisiadau dysgu a gyrfa sy'n addas ar eu cyfer hwy. Mae'r gefnogaeth hon yn cynnwys darparu gwasanaethau eiriolaeth lle bo angen, a chyfeirio at ffynonellau pellach o wybodaeth a chyngor ar yr holl lwybrau dysgu a chyflogaeth, gan gynnwys hunan-gyflogaeth.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Trafnidiaeth

Argymhelliad 24:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru weithio gyda darparwyr gwasanaethau trafnidiaeth i sicrhau bod gwybodaeth am hygyrchedd gwasanaethau trafnidiaeth i bobl anabl ar gael mewn fformat hygyrch.

Derbyn yn rhannol
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth am hygyrchedd y gwasanaethau trafnidiaeth ar gael yn eang. Rydym eisoes yn gweithio gyda Traveline Cymru i sicrhau bod gwybodaeth briodol ar gael ar gyfer teithwyr anabl yng Nghymru. Mae awdurdodau lleol a gweithredwyr trenau a bysiau megis Arriva yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i deithwyr anabl ar amryw fformatau.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 26:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru weithio gyda gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus a'r sector gwirfoddol i lunio canllawiau er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant a roddir i yrwyr a gardiaid ar anghenion a hawliau pobl anabl sy'n defnyddio'r system drafnidiaeth yn briodol ac yn cael ei roi yn rheolaidd. Dylid ei ddatblygu mewn cydweithrediad â phlant a phobl ifanc a dylid monitro ei effeithiau.

Derbyn yn rhannol

Mae GoSkills yn darparu hyfforddiant ac yn datblygu sgiliau. Mae'r sefydliad eisoes yn gweithio gydag Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu hyfforddiant wedi'i dargedu ar gyfer gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol hefyd yn darparu hyfforddiant o dan y rhaglen MIDA ar gyfer gyrwyr trafnidiaeth gymunedol.  

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 27:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod hyfforddiant ar gael i gefnogi pobl ifanc anabl ymhob cwr o Gymru sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Derbyn

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu tua 5,800 o ddysgwyr i ddilyn cyrsiau Sgiliau Byw yn Annibynnol bob blwyddyn. Mae cyrsiau o'r fath, sydd ar gael yn eang ledled y sector Addysg Bellach, yn darparu ystod o hyfforddiant i gefnogi dysgwyr ag anawsterau dysgu a/neu anableddau.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 28:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru weithio gyda darparwyr trafnidiaeth a'r sector gwirfoddol i sicrhau bod digon o gefnogaeth a gwybodaeth ar gael i rieni a'r rheini sy'n gofalu am bobl ifanc anabl er mwyn iddynt fod yn ddigon hyderus i ganiatáu i'w pobl ifanc ddefnyddio'r system drafnidiaeth.

Derbyn yn rhannol

Rydym yn gweithio gyda Traveline Cymru i wella’r wybodaeth sydd ar gael i rieni a'r rheini sy'n gofalu am bobl ifanc anabl.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Byw yn Annibynnol

Argymhelliad 29:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ei gwneud yn ofynnol i'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru gynnal asesiadau rheolaidd o anghenion o ran tai ymysg pobl ifanc ag ystod o amhariadau. Dylid defnyddio'r rhain i lywio polisi tai gyda'r nod o sicrhau bod anghenion pobl ifanc anabl o ran tai yn cael eu diwallu.

Derbyn

Mae asesiadau eisoes yn ofynnol yn unol â'r 'Canllaw Asesu Tai Lleol' a roddwyd i'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru ym mis Ebrill 2006.  Mae'r Canllaw hwn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol bennu'r gofynion cyfredol a'r gofynion sy'n debygol o godi yn y dyfodol. Mae paragraff 3.17 y Canllaw, 'Data ar grwpiau ag anghenion llety penodol' yn cyfeirio'n benodol at 'gartrefi ag anableddau… er mwyn llywio polisi tai a chynllunio yn y dyfodol'.  Rhaid i'r asesiadau gael eu cynnwys yn Strategaeth Tai Lleol pob awdurdod, er mwyn eu cyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad ym mis Ebrill 2007.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 30:  Llywodraeth Cynulliad Cymru i'w gwneud yn ofynnol i'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru weithio gyda'r sector cyhoeddus, y sector preifat, y sector annibynnol a'r sector gwirfoddol i nodi a chynyddu argaeledd llety a gaiff ei rentu sy'n briodol ar gyfer pobl ifanc anabl.

Derbyn

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol, cyrff sy’n cynrychioli landlordiaid preifat, yr holl landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r sector gwirfoddol i ddarparu llety a addaswyd yn briodol ar gyfer pobl anabl yng Nghymru.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 31: Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru lunio canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar anghenion pobl ifanc anabl o ran tai, gan gynnwys eu hanghenion o safbwynt cefnogaeth, addasiadau a'r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwneud unrhyw waith angenrheidiol.

Derbyn

Cafodd y prawf modd ar gyfer y Grant Cyfleusterau i’r Anabl (DFG) i rieni plant anabl ei ddiddymu ym mis Medi  2005 ar ôl adolygu addasiadau a DFGau.  Mae Llywodraeth y Cynulliad wrthi'n diwygio'r canllawiau ar DFGau, gan gynnwys y newid o ran y prawf modd.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 32: Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru weithio gydag awdurdodau lleol wrth ddatblygu dull mwy cydgysylltiedig o ddarparu taliadau uniongyrchol. Byddai hyn yn cynnwys yr angen am fwy o gyhoeddusrwydd o ran taliadau uniongyrchol a'r gefnogaeth a roddir i bobl anabl drwy gydol y broses ymgeisio.

Argymhelliad 33: Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygu'r mecanweithiau cyfredol ar gyfer asesu pa mor gymwys yw pobl ar gyfer taliadau uniongyrchol gyda'r nod o sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael mynediad cyfartal.  

Derbyn mewn egwyddor

Mae'n bosibl bod y grwpiau canlynol sy'n derbyn gwasanaethau o dan Adran 17 o Ddeddf Plant 1989 neu Adran 2(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 yn gymwys i gael trefniant taliadau uniongyrchol:

• unigolyn â chyfrifoldeb rhiant am blentyn anabl;
• unigolyn anabl â chyfrifoldeb rhiant am blentyn;
• plentyn anabl 16 neu 17 mlwydd oed; a
• gofalwyr rhwng 16 ac 17 mlwydd oed.

Mae'r broses o ddatblygu'r cynllun taliadau uniongyrchol yng Nghymru wedi digwydd dros nifer o flynyddoedd. Ers 2004, mae dyletswydd ar Wasanaethau Cymdeithasol i gynnig trefniant taliadau uniongyrchol i'r holl bobl a allai fod yn gymwys. Mae hyn wedi dod yn lle'r sefyllfa flaenorol, lle'r oedd trefniadau uniongyrchol yn cael eu gwneud yn ôl disgresiwn awdurdodau lleol.

Yn 2006, cynhaliodd swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru arolwg o drefniadau hyrwyddo taliadau uniongyrchol neu drefniadau gwybodaeth eraill pob un o'r 22 o awdurdodau lleol. Dangosodd yr arolwg fod gan awdurdodau lleol a'u cynlluniau cefnogaeth lleol wybodaeth am daliadau uniongyrchol oddi ar y we a ffurfiau eraill o ddeunyddiau am y taliadau ar CD, DVD, fideo ac mewn taflenni/llyfrynnau (mewn ystod o ieithoedd a fformatau).

Roedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn darparu pecyn gwybodaeth i bobl a allai fod yn gymwys tua adeg yr asesiad gofal neu'r ail-asesiad gofal, ac yn dilyn hyn, roeddent yn trafod â staff y cynlluniau cymorth lleol a/neu staff y gwasanaethau cymdeithasol. Mae gan nifer o sefydliadau eraill, gan gynnwys Plant yng Nghymru, Anabledd Dysgu Cymru, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, SCOPE ac Anabledd Cymru, wybodaeth hyrwyddo a gwybodaeth arall am daliadau uniongyrchol yn seiliedig ar y we ac ar fformatau eraill.

Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol unigol yw gweithredu'r cynllun taliadau uniongyrchol. Er hyn rydym wedi ceisio sicrhau cysondeb drwy gyfrwng ein Canllawiau Arferion a Pholisi Taliadau Uniongyrchol a gyhoeddwyd yn 2004; a thrwy hwyluso'r broses o sefydlu Fforwm Taliadau Uniongyrchol Awdurdodau Lleol Cymru a Rhwydwaith Cynlluniau Cymorth Taliadau Uniongyrchol Cymru. Mae'r Fforwm a'r Rhwydwaith yn tynnu ynghyd ymarferwyr o bob un o'r 22 ardal awdurdod lleol i rannu gwybodaeth, syniadau ac arferion.

Yn ôl pob tebyg, mae'r cyfeiriad at gymhwysedd yn Argymhelliad 33 yn ymwneud â'r gofyniad bod y person a allai fod yn gymwys yn cydsynio i drefniant taliadau uniongyrchol ac yn dangos eu bod yn gallu ymdopi â threfniant taliadau uniongyrchol. Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw penderfynu a oes gan unigolyn y gallu i gydsynio i drefniant taliadau uniongyrchol, neu ei reoli. Cynghorwn awdurdodau lleol i ystyried materion sy'n ymwneud â chapasiti ar sail unigol yn unol â'r egwyddorion a'r dulliau a nodir yn y Ddeddf Galluedd Meddyliol a fydd yn dod i rym yng Nghymru ym mis Hydref 2007.

Fel rhan o'n gwaith datblygu parhaus, rydym yn comisiynu ymchwil annibynnol i nodi'r rhesymau dros y materion canlynol, ac i geisio dod o hyd i atebion lleol a chenedlaethol y gellid eu mabwysiadu i fynd i'r afael â hwy:

• nifer cyffredinol y rheini sy'n manteisio ar y trefniant taliadau uniongyrchol;
• yr amrywiant sydd i'w weld yn y nifer sy'n manteisio arno mewn gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol; a'r
• amrywiant sydd i'w weld yn y nifer sy'n manteisio arno ymysg grwpiau cymwys posibl.

Bydd yr adroddiad ymchwil ar gael yn ddiweddarach yn 2007. Bydd yn llywio datblygiad y cynllun taliadau uniongyrchol yn y dyfodol, gan gynnwys materion sy'n ymwneud â chyhoeddusrwydd a deunyddiau hyrwyddo.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 34:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ei gwneud yn ofynnol i'r holl gyrff gwirfoddol a chyhoeddus sy'n darparu gofalwyr i bobl ifanc anabl ddangos sut y gall pobl ifanc anabl fod yn rhan o'r broses o benderfynu ar y sawl a fydd yn gweithio gyda hwy, a sut y maent yn sicrhau bod hynny'n digwydd.

Cytuno mewn egwyddor

Mae'n fanteisiol sicrhau parhad o safbwynt y rheini sy'n gofalu am bobl ifanc anabl, ond gall trosiant uchel yn y gweithlu gofal cymdeithasol arwain at newid y gofalwr. Ar gyfer pobl ifanc anabl sy'n 16 neu 17 mlwydd oed, mae opsiwn y taliadau uniongyrchol yn caniatáu i'r person ifanc ddewis ei ofalwr / cynorthwy-ydd personol. Pan fo rhieni plant anabl iau yn manteisio ar opsiwn y taliadau uniongyrchol, mae'n bosibl i'r person ifanc ddylanwadu ar y penderfyniad am ba ofalwr i'w ddewis.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 35:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ei gwneud yn ofynnol i'r holl awdurdodau lleol sicrhau bod gan yr holl ddarparwyr gwasanaethau gofal a chefnogaeth i bobl ifanc anabl fecanweithiau yn eu lle er mwyn adolygu perfformiad eu staff a bod yr arolygiadau hynny yn cynnwys y bobl ifanc y maent yn gweithio gyda hwy.

Derbyn mewn egwyddor

Cyfrifoldeb y cyflogwr yw sicrhau bod adolygiad o berfformiad gweithwyr gofal cymdeithasol unigol a staff gwasanaethau cymorth yn cael ei gynnal, boed hynny yn y sector statudol, y sector gwirfoddol neu'r sector preifat. Fel mater o arferion da, byddai Llywodraeth y Cynulliad yn disgwyl i ddarparwyr geisio barn cleientiaid ar y gwasanaeth a ddarperir. Mae prosesau asesu angen a'r gwasanaethau a ddarperir gan staff gofal cymdeithasol yn destun adolygiad ac mae'r canllawiau'n mynnu bod plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys mewn adolygiadau o'r fath.

Goblygiadau Ariannol – Dim

Argymhelliad 36:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru fynnu bod gan adrannau’r gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau gwirfoddol sy'n gweithio gyda phobl ifanc anabl weithdrefn gwyno glir a dealladwy, wedi'u hysbysu'n eang ac ar gael i'r holl ddefnyddwyr gwasanaethau.

Derbyn

Mae'n ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i sefydlu a chyhoeddi gweithdrefnau cwyno, ac mae'n rhaid bod y gweithdrefnau hyn ar gael i ddefnyddwyr gwasanaethau, a hynny yn rhad ac am ddim ac ar unrhyw ffurf y gofynnir amdani, ynghyd â manylion cyswllt swyddog cwynion yr awdurdod. Gall cwynion gael eu gwneud hefyd yn erbyn eraill sy'n gweithio ar ran awdurdod, gan gynnwys sefydliadau gwirfoddol.

Rydym wedi cynnig canllawiau i awdurdodau lleol ynghyd â 'Your Rights to Complain: A Quick Guide to Complaints Procedures for Children and Young People'.   Mae'r ddau yn nodi hawl y person ifanc:

• i gael gwybodaeth y gallant ei deall ynghylch sut i wneud cwyn ac â phwy y dylent gysylltu
• i gael gweithdrefn gwyno glir sy'n hawdd ei defnyddio
• i wneud cwyn, hyd yn oed am rywbeth a ddigwyddodd peth amser yn ôl
• i ddewis rhywun arall i wneud cwyn ar eu rhan
• i gael eu trin ag urddas a pharch
• i'w pryderon gael eu cymryd o ddifrif ac yr eir i'r afael â hwy yn briodol - beth bynnag fo eu hanghenion cyfathrebu
• i gael gwybod beth sy'n digwydd o ran eu cwyn ac i gael y newyddion diweddaraf
• i dynnu eu cwyn yn ôl ar unrhyw bryd

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 37:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sefydlu system eiriolaeth ar gyfer yr holl bobl ifanc anabl, waeth beth yw eu hamhariad, a hynny'n annibynnol o ddarparwyr gwasanaeth, yn hygyrch i bob defnyddiwr ac yn gynaliadwy.

Derbyn

Ar hyn o bryd, mae gan bob plentyn anabl (mewn angen ac sy'n derbyn gofal) yr hawl i gael mynediad at wasanaethau eiriolaeth annibynnol wrth wneud sylwadau neu gŵyn wrth wasanaethau cymdeithasol neu mewn lleoliad gofal eilaidd megis ysbyty. Mae awdurdodau lleol yn contractio darparwyr eiriolaeth annibynnol (sefydliadau sector gwirfoddol) i ddarparu gwasanaethau o'r fath. Mae trefniadau cymorth tebyg yn berthnasol mewn gwasanaethau iechyd drwy wasanaethau Eiriolwyr Cwynion Annibynnol a ddarperir gan Gynghorau Iechyd Cymunedol.

Gweledigaeth hirdymor Llywodraeth y Cynulliad yw y dylai fod gan bob plentyn fynediad at wasanaethau eiriolaeth mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. Yn ddiweddarach y mis hwn,  byddwn yn ymgynghori ar fodel integredig o ddarparu eiriolaeth a fydd yn annibynnol o'r darparwyr gwasanaeth ac a fydd yn fwy hygyrch i blant a phobl ifanc. Caiff y model newydd ei lywio gan argymhellion yr adroddiadau ar eiriolaeth i blant a barn y plant eu hunain. Mae'r ymgynghoriad yn cynnig y dylai Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc gomisiynu gwasanaethau eiriolaeth;  ac y dylid datblygu gwasanaethau eiriolaeth arbenigol i gefnogi plant a phobl ifanc anabl.  

Goblygiadau Ariannol – Bydd costau ychwanegol ar Lywodraeth y Cynulliad a'r asiantaethau statudol yn sgil ymestyn gwasanaethau eiriolaeth i gynnwys yr holl blant a phobl ifanc mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol a dysgu gydol oes. Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys trafodaeth am gostau.  


Argymhelliad 38:  Llywodraeth Cynulliad Cymru a Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad i sicrhau bod y model cymdeithasol o anabledd yn cael ei integreiddio'n llawn i'w swyddogaethau, y darperir eu hyfforddiant perthnasol a phriodol ar gyfer staff a'r busnes a gynhelir, a rhoi eu Cynlluniau Cydraddoldeb i Bobl Anabl ar waith yn effeithiol.

Derbyn

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi derbyn y model cymdeithasol o anabledd. Rydym yn gweithio gydag Anabledd Cymru ar brosiect tair blynedd i gefnogi'r gwaith o gymhwyso'r model. Rydym yn darparu £50,000 y flwyddyn tuag at y prosiect dros y cyfnod 2005 - 2008.  Yr amcanion yw hyrwyddo dealltwriaeth o'r model cymdeithasol o anabledd, a'r gwaith o'i fabwysiadu a'i roi ar waith ar draws Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Mae'r prosiect wedi helpu i gynhyrchu Cynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl Llywodraeth Cynulliad Cymru. Nodwyd y blaenoriaethau ar gyfer gweithredu drwy ymgynghori â phobl anabl.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wedi sefydlu rhwydwaith o ‘gyfeillion beirniadol’ o bobl anabl a sefydliadau sy'n eu cynrychioli, a fydd yn rhoi cyngor a chefnogaeth ar y gwaith o weithredu a datblygu'r cynllun ac yn darparu cymorth.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 39:  Llywodraeth Cynulliad Cymru i archwilio hygyrchedd yr holl westai a chyfleusterau cynhadledd ledled Cymru, gyda'r nod o lunio rhestr gyhoeddus o leoliadau hygyrch a fydd yn annog lleoliadau i gyflawni safonau uwch o hygyrchedd.

Derbyn mewn egwyddor

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn arwain prosiect Lleoliadau Hygyrch mewn partneriaeth â'r Comisiwn Hawliau Anabledd, Cyngor Cymru i'r Deillion, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall ac Anabledd Cymru. Yn 2006, lansiodd y prosiect ganllawiau ar-lein ar gyfer darparwyr lleoliadau a threfnwyr digwyddiadau yn rhoi cyfarwyddiadau cam wrth gam i sicrhau bod lleoliadau yn hygyrch.
Cam nesaf y prosiect yw ystyried sut i greu rhestr o westai hygyrch a lleoliadau cynhadledd yng Nghymru. Bydd pobl anabl yn cael eu cynnwys yn y gwaith hwn.  

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Argymhelliad 40:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru annog, drwy'r system gynllunio, y rheini sydd am ganiatâd cynllunio i adeiladu adeiladau masnachol a chyhoeddus newydd, i gynnwys toiledau Changing Places yn eu cynlluniau, â'r nod o sefydlu, yn yr achos cyntaf, un cyfleuster ym mhob ardal awdurdod lleol.

Derbyn

Ym mis Rhagfyr 2006, cyhoeddodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad ei fwriad i gyflwyno is-ddeddfwriaeth ar gyfer datganiadau cynllunio i ategu'r ddeddfwriaeth a gymeradwywyd ar 13 Rhagfyr, sy'n ymwneud â datganiadau mynediad. Byddwn yn ymgynghori ar ganllawiau manwl ar gyfer datblygwyr ac awdurdodau cynllunio lleol.  Bydd y canllawiau hyn yn nodi'r gofynion i gyflwyno datganiadau cynllunio a mynediad gyda cheisiadau cynllunio yn ddiweddarach eleni. Wrth baratoi'r canllawiau drafft, byddwn yn ystyried cynnwys toiledau Changing Places. Mae cyfleusterau o'r fath yn debygol o ychwanegu at gostau'r datblygwyr. Byddwn yn edrych ar gyfradd debygol y costau ychwanegol yn ystod yr ymgynghoriad.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

ATODIAD A

Yn achos y pedawr argymhelliad sy'n dilyn, nid oes gan Lywodraeth y Cynulliad y pwerau i weithredu yn y ffordd arfaethedig ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn cefnogi'r argymhellion mewn egwyddor a byddwn yn eu cyflwyno wrth drafod â'r cyrff perthnasol.
Nodir isod fanylion y gwaith sydd ar y gweill a'r camau a gymerwyd eisoes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â'r argymhellion penodol hyn.

Argymhelliad 4: Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sefydlu adolygiad o'r hyfforddiant ar gydraddoldeb i bobl anabl a roddir i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc anabl a chyflogwyr. Dylai canlyniadau'r adolygiad gyfrannu at y broses o ddatblygu hyfforddiant proffesiynol sy'n cynnwys rhoi cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ar berthnasoedd, rhywioldeb ac iechyd rhywiol, yn ogystal â chyngor ar addysg a gyrfaoedd.

Argymhelliad 5: Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar sut i sicrhau bod hyfforddiant cydraddoldeb i bobl anabl yn cael ei ddarparu gan bobl sydd â phrofiad a hyfforddiant priodol a digonol o'r materion sy'n wynebu pobl anabl.

Dyletswydd y cyflogwyr yw cydymffurfio â deddfwriaeth ar gydraddoldeb a darparu hyfforddiant ar gydraddoldeb i bobl anabl.  Yn achos rhai staff, bydd yn rhan o'u hyfforddiant proffesiynol. Yn achos staff eraill, megis staff Llywodraeth Cynulliad Cymru, rhaid i'r cyflogwr sicrhau ei fod yn cyflawni ei gyfrifoldeb drwy godi ymwybyddiaeth a darparu hyfforddiant i'r staff. Mae Llywodraeth y Cynulliad wrthi'n cynnal adolygiad o'r hyfforddiant cydraddoldeb y mae'n ei ddarparu'n fewnol a bydd, maes o law, yn dylunio gwell rhaglen hyfforddi i ddiwallu anghenion staff a nodir.
Yn gynnar yn ystod 2006, comisiynodd Llywodraeth y Cynulliad Estyn i adolygu arferion ysgolion ac awdurdodau addysg lleol wrth gyflanwi eu dyletswyddau. Mae'r adroddiad wedi dod i law. Mae ei argymhellion yn cael eu hystyried yng nghyd-destun canllawiau ar gyfer ysgolion ac Awdurdodau Addysg Lleol, y bwriedir eu cyhoeddi yn ystod Tymor yr Haf yn 2007.
Anfonwyd cylchlythyr (WHC (2006) 084) at holl gyflogwyr y GIG ym mis Rhagfyr 2006, yn eu hatgoffa o'u dyletswydd i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl mewn perthynas â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005.  Rhoddwyd canllawiau tebyg i'r holl gyflogwyr ym maes addysg ym mis Ionawr 2007.

Argymhelliad 14:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod telerau ac amodau yr holl staff sy'n gweithio gyda phobl ifanc anabl mewn ysgolion, gan gynnwys cynorthwywyr cymorth dysgu, yn caniatáu iddynt gael hyfforddiant addas er mwyn iddynt allu cefnogi pobl ifanc anabl yn llawn.

Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am delerau ac amodau cyflogaeth. Cyfrifoldeb y cyflogwr yw telerau ac amodau cyflogaeth, a hynny mewn ymgynghoriad â chymdeithasau cyflogwyr ac undebau llafur perthnasol.  Mae'r ymateb i argymhellion 4 a 5 yn mynd i'r afael â'r dyletswydd sydd ar gyflogwyr i sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant priodol. Fodd bynnag, o fewn y cyfyngiadau hyn, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod staff yr ysgol yn cael hyfforddiant priodol er mwyn iddynt allu cefnogi pobl ifanc anabl yn llawn.

Caiff athrawon sawl cyfle da yn ystod eu hyfforddiant, i ddatblygu a chynnal y sgiliau sydd eu hangen i'w helpu i gefnogi pobl ifanc anabl yn llawn.

Yn ystod hyfforddiant cychwynnol athrawon, rhaid i hyfforddeion ddangos eu bod yn bodloni'r safon ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC).  Mae'r safonau newydd sy'n berthnasol i hyfforddeion o fis Medi 2007 ymlaen yn golygu y bydd disgwyl i hyfforddeion gael dealltwriaeth o faterion sy'n ymwneud ag amrywiaeth mewn amryw gyd-destunau.

Ymysg pethau eraill, bydd y Safonau SAC newydd yn mynnu bod hyfforddeion:-
• yn deall anghenion dysgu amrywiol disgyblion, ac yn ceisio darparu'r addysg orau bosibl er mwyn gwneud y mwyaf o'u potensial, beth bynnag fo eu dyheadau unigol, eu hamgylchiadau personol neu eu cefndiroedd diwylliannol, ieithyddol, crefyddol ac ethnig
• yn deall sut y gall datblygiad emosiynol, diwylliannol, cymdeithasol, ieithyddol a chorfforol disgyblion effeithio ar eu haddysg
• yn ystyried ac yn cefnogi amrywiol anghenion disgyblion er mwyn i ferched a bechgyn, o bob grwp ethnig, wneud cynnydd da
• yn dewis a pharatoi adnoddau, gan ystyried diddordebau disgyblion a'u cefndiroedd ieithyddol a diwylliannol
• sefydlu amgylchedd dysgu pwrpasol lle rhoddir gwerth ar amrywiaeth a lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn hyderus
• yn cydnabod ac ymateb yn effeithiol i faterion sy'n ymwneud â chyfle cyfartal a chynhwysiant cymdeithasol wrth iddynt godi yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys herio safbwyntiau ystrydebol, a herio bwlio neu aflonyddu, gan ddilyn y polisïau a'r gweithdrefnau perthnasol.

Ar ôl i athrawon ennill eu cymhwyster, maent yn dilyn rhaglen sefydlu sydd ag arian ac amser wedi'i neilltuo ar gyfer datblygu proffesiynol ychwanegol. Ar ddiwedd y rhaglen hon, rhaid i athrawon newydd gymhwyso ddangos eu bod wedi bodloni'r safon sefydlu. Mae'r safon hon (ymysg pethau eraill) yn mynnu bod yr unigolyn yn "dangos ymrwymiad at gyfle cyfartal, cyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiant”, a hefyd yn cynllunio'n effeithiol i ddiwallu anghenion dysgu yr holl ddisgyblion, gan gynnwys y rheini sydd ag anghenion Addysgol Arbennig.

Yn dilyn y flwyddyn sefydlu, ceir dwy flynedd o ddatblygiad proffesiynol cynnar, lle dyrennir £1,000 y flwyddyn i athrawon newydd gymhwyso er mwyn iddynt wella eu datblygiad proffesiynol eu hunain. Gallant ddefnyddio'r cyllid hwn i ganolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud â chefnogi plant anabl.

Ar ôl y tair blynedd cychwynnol hyn yn y proffesiwn dysgu, gall athrawon unigol wneud cais i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru am gyllid Datblygiad Proffesiynol Parhaus sy'n canolbwyntio ar unigolion. Cyfrifoldeb yr athro unigol yw penderfynu ar gynnwys y cyfle datblygu y byddant yn dewis ei ddilyn. Efallai y byddant yn dewis canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud â chefnogi plant anabl. Yn 2006-07, mae bron i £3 miliwn o gyllid wedi darparu dros 4,000 o gyfleoedd datblygu.
 
Mae ystod o gyfleoedd datblygu ar gael i staff cymorth ysgolion. Gall y cyfleoedd hyn gael eu hariannu drwy'r Gronfa Ysgolion Gwell, drwy AALlau neu o gyllidebau ysgolion eu hunain. Yn yr ysgolion gorau, mae hyfforddiant a datblygiad y staff cymorth yn cael ei gynnal ochr yn ochr â hyfforddiant a datblygiad athrawon ac maent hefyd yn cymryd rhan yn ystod lawn yr hyfforddiant HMS a hyfforddiant yr AALl.  

Argymhelliad 23:  Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru fonitro'r broses o weithredu'r cod ymarfer statudol ar drafnidiaeth ledled Cymru.

Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw'r ddeddfwriaeth gyfredol sy'n llywodraethu mynediad i bobl anabl at drafnidiaeth.   Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau a'i deialog â Llywodraeth y DU i gefnogi'r gwaith o roi'r Cod Statudol ar waith. Ceir ymrwymiad i ddarparu mynediad i holl aelodau'r cyhoedd at drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r Cod Statudol yn darparu canllawiau cyffredinol ac arferion da i weithredwyr bws a thrên ar sicrhau bod cerbydau yn fwy hygyrch i bobl anabl. Mater i'r gweithredwyr, ac nid i Lywodraeth Cynulliad Cymru, yw cydymffurfio.

Mae Rheoliadau Hygyrchedd Gwasanaethau Cyhoeddus 2000 ar gyfer Cymru a Lloegr yn nodi gofynion hygyrchedd technegol manwl ar gyfer eu holl fysiau a choetsys newydd. Mae'r rheoliadau yn mynd i'r afael â'r ystod ehangaf bosibl o bobl anabl. Bu'n rhaid i'r holl fysiau a choetsys newydd ar gyfer mwy na 22 o deithwyr a ddefnyddir ar wasanaethau lleol a gwasanaethau rheolaidd fod yn hygyrch ers 31 Rhagfyr 2000. Erbyn 2020 fan bellaf, rhaid i'r holl gerbydau trafnidiaeth gyhoeddus fodloni'r rheoliadau hygyrchedd priodol. Mae'r ddeddfwriaeth gyfredol yn mynnu bod cerbydau rheilffordd newydd yn hygyrch i bobl anabl ac mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod yn rhaid i holl gerbydau rheilffordd i deithwyr gydymffurfio â’r Rheoliadau Hygyrchedd erbyn 2020.

Argymhelliad 25:  Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer y broses dendro sy'n mynnu bod awdurdodau lleol dim ond yn cynnig fentrau neu gontractau i weithredwyr sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd cymeradwy.

Nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru y pwerau i roi'r argymhelliad hwn ar waith.  Yn unol ag adrannau 89 a 90 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985, cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw penderfynu ar ba sail y gwahoddir ac y derbynnir tendrau ar gyfer gwasanaethau â chymhorthdal. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried ymhellach sut i wella’r trefniadau cyfredol.