Skip to content

Ysgrifenedig - Datganiad Polisi Lywodraeth Leol 2007

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Y Gweinidog Drod Gyllid, Llywodraeth Leol A Gwasanaethau Cyhoeddus

Heddiw rwyf wedi cyhoeddi Datganiad Polisi Llywodraeth Leol “Rhannu Cyfrifoldeb”.  Mae’r datganiad polisi’n amlinellu’r ffordd ymlaen i lywodraeth leol wireddu’r ymrwymiadau a wnaed yn ‘Creu’r Cysylltiadau: Cyflawni ar draws Ffiniau’, sef ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i adolygiad Beecham, ‘Ar draws Ffiniau’.  Mae egwyddorion bras Creu’r Cysylltiadau: Cyflawni ar draws Ffiniau yn ymwneud ag integreiddio gwasanaethau cyhoeddus yn well, yr angen am fwy o gysondeb yn eu perfformiad ac felly rheolaeth fwy effeithiol ar berfformiad. Maent yn disgrifio hefyd yr angen am arddull arwain fwy uniongyrchol o du Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Mae’r egwyddorion hyn wedi’u datblygu ymhellach yn Rhannu Cyfrifoldeb.

Er mwyn sicrhau gwelliant wrth gyflwyno gwasanaethau, mae ein datganiad polisi ar lywodraeth leol yn hoelio sylw ar dri maes allweddol: trefn lywodraethu, craffu a dull gwell o arfarnu perfformiad a gwybodaeth.

Er mwyn datblygu’r tri maes allweddol hwn, mae angen inni greu’r amodau i ddatblygu ymagwedd newydd at drefn lywodraethu leol er mwyn cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus ar ffurf Byrddau Gwasanaethau Lleol a Chytundebau Gwasanaethau Lleol. Bydd angen inni hefyd hoelio sylw ar ddatblygu ar y cyd â hynny fodel traws-sectoraidd bywiog ac effeithiol ar gyfer gwaith craffu, gan gyfuno’r dull cyfranogi a’r dull cynrychioli democrataidd. Er mwyn gwneud hyn, rhaid inni gynhyrchu gwybodaeth leol a chenedlaethol ragorol am foddhad dinasyddion ac am berfformiad yr awdurdodau lleol.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gofyn am bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud mesurau a hynny drwy gyfrwng Mesur Llywodraeth Leol ac Ymglymiad y Cyhoedd mewn Iechyd, er mwyn cynnig darpariaethau mewn deddfwriaeth a fydd yn rhoi’r rhaglen bolisi hon ar waith.

Trefn lywodraethu

O ran y drefn lywodraethu, mae’r datganiad polisi’n adeiladu ar argymhellion Creu’r Cysylltiadau: Cyflawni ar draws Ffiniau y dylid sefydlu Byrddau Gwasanaethau Lleol a Chytundebau Gwasanaethau Lleol ledled Cymru.  Bydd llywodraeth leol yn cynnull sefydliadau yn y gwasanaethau cyhoeddus ar sail gyfartal â’i gilydd er mwyn gwella gwaith i gyflwyno gwasanaethau lleol a mynd i’r afael â’n problemau trawsffiniol mwyaf dyrys. Bydd gallu’r awdurdodau lleol i weithredu fel arweinwyr cymunedol gwirioneddol ac fel cynullwyr sensitif i’r gwasanaethau cyhoeddus lleol yn ganolog i’n llwyddiant dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’r datganiad polisi hefyd yn amlinellu sut y byddwn yn rhoi sylw i gydlynu gwasanaethau cyhoeddus sy’n gweithredu ar sawl lefel wahanol, er mwyn i weithgarwch cenedlaethol, rhanbarthol, isranbarthol a lleol gael ei alinio a’i symleiddio.  Y bwriad sydd gennym yw creu fframwaith cenedlaethol lle bydd yna gysylltiad rhwng Cynllun Gofodol Cymru ar y lefel genedlaethol a rhanbarthol a’r Strategaeth Gymunedol ar lefel y gwasanaethau lleol. Caiff y broses alinio hon ei chyflawni drwy ddeialog gyson, dysgu cyson a gweithredu cyson.

Bydd rôl esblygol Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn nodwedd bwysig ar y darlun rhanbarthol ac isranbarthol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.  Dylent helpu i gyfuno a sicrhau cydweithredu rhwng awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus.  Dylent hefyd helpu Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r gwasanaethau cyhoeddus i wneud y gorau o’r bunt Gymreig a sicrhau bod y dinesydd yn cael y lefel wasanaeth orau posibl gan y darparwr.  Mae gan Gwerth Cymru rôl allweddol wrth ategu’r datblygiad hwn.  Mae wedi bod yn llwyddiannus wrth gataleiddio gwell dulliau caffael rhanbarthol a chenedlaethol, ond mae llawer mwy i’w wneud i helpu i ddatblygu cydweithio ehangach, mwy uchelgeisiol a rhannu gwasanaethau.

Rhaid inni sicrhau hefyd ein bod yn gwrando ar safbwyntiau pobl ac yn ymateb iddynt wrth i’n rhaglen bolisi ddatblygu ei heffaith ar gynllunio, dylunio ac integreiddio gwasanaethau mewn ffordd well. Mae gan y sector gwirfoddol/trydydd sector ran hanfodol i’w chwarae mewn cysylltu pobl â darparwyr gwasanaethau, ac felly hefyd y cynghorau tref a chymuned – dylent ddarparu cyfathrebu cryf a chanolbwyntio ar faterion ansawdd bywyd lleol iawn, yn ogystal â chyflwyno opsiynau ar gyfer cyflwyno gwasanaethau.

Craffu

Bydd diwygio gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn arwain at gynnydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf mewn gwasanaethau sy’n cael eu cyflwyno drwy bartneriaethau o ddau neu fwy o awdurdodau lleol a chan awdurdodau lleol a fydd yn cydweithredu â sefydliadau eraill.  Mae’n sicr y bydd ar y Byrddau Gwasanaethau Lleol angen model ehangach o waith craffu yn null y gwasanaethau cyhoeddus

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gofyn am bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud mesurau a hynny drwy gyfrwng Mesur Llywodraeth Leol ac Ymglymiad y Cyhoedd mewn Iechyd, er mwyn cynnig darpariaethau mewn deddfwriaeth a allai newid sut mae strwythurau gwleidyddol yn gweithio, gan gynnwys gwaith craffu.

Bydd model craffu diwygiedig yn sicrhau bod gweithgarwch ar draws gwasanaethau yn cael ei herio mewn ffordd effeithiol ac arbenigol.  Mae’r datganiad polisi yn datblygu rôl newydd i’r aelodau anweithredol (“aelodau meinciau cefn”) wrth arwain ymagwedd at waith craffu sy’n torri ar draws gwasanaethau, sy’n adeiladol, sy’n sicrhau ymglymiad a chyfranogiad, sy’n arbenigol yn ogystal ag yn gynrychioliadol.  Rydym am i’n haelodau anweithredol fod yn amddiffynwyr i’r bobl hawsaf eu niweidio yn ein cymdeithas, i’w harwain at y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen, gan herio’r gwasanaethau cyhoeddus i fod yn symlach ac yn well.

Gwybodaeth

Mae cynhyrchu gwell gwybodaeth am foddhad y dinasyddion ac am berfformiad yr awdurdodau lleol yn hanfodol ar gyfer gwelliant.  Rhaid i’n rhaglen bolisi gael ei hategu â gwell gwybodaeth am berfformiad sy’n ystyrlon i’r dinasyddion ac yn ennyn eu diddordeb; ac sy’n rhoi hwb i wella i’r gwasanaethau cyhoeddus.  Bydd Perfformiad Cymru yn rhoi rhywfaint o’r wybodaeth sylfaenol hon. Bydd yn cynhyrchu adroddiadau a fydd yn hoelio sylw ar y dinasyddion, gan y Byrddau Gwasanaethau Lleol a’r Cytundebau Gwasanaethau Lleol, wedi’u seilio’n bennaf ar fframweithiau perfformiad sectoraidd, a phroffiliau perfformiad lleol.  Byddwn yn datblygu’r Fframwaith Mesur Perfformiad, gan gydweithio â’n partneriaid lleol a chenedlaethol, i sicrhau bod yna sylw cynhwysfawr i wasanaethau’r awdurdodau lleol heb greu baich amhriodol. Byddwn hefyd yn cyhoeddi set gychwynnol o safonau gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau allweddol, er mwyn i’r dinasyddion weld pa wasanaethau craidd y mae ganddynt hawl i’w cael, ble bynnag y bônt yn byw.

Cyllid a’r gweithlu


Mae yna hanfodion eraill a fydd yn sail i ddatblygiadau yn ein rhaglen bolisi o ran y drefn lywodraethu, craffu a gwybodaeth.
Rydym yn disgwyl i adolygiad Lyons gael ei gyhoeddi ar gyllid llywodraeth leol, ond rydym wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod cyllid llywodraeth leol yn cael ei ddeall yn ehangach.  Rydym wedi ymrwymo i roi dyraniadau refeniw a chyfalaf tair-blynedd ar waith i ganiatáu i lywodraeth leol wella’u cynlluniau ariannol; ac rydym yn dymuno arddel ymagwedd fwy strategol at fuddsoddiadau cyfalaf cenedlaethol a lleol ac at gyfuno cyllidebau.

Rhaid i rôl allweddol y gweithlu wrth wireddu’r rhaglen bolisi hon fod yng nghanol ein syniadau hefyd. Mae angen inni adeiladu ar ymdrechion Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru drwy eu hamrywiol fforymau a ffrydiau gwaith.  Yn benodol, bydd partneriaeth â’r undebau llafur yn parhau’n allweddol, a byddwn yn mynd ar drywydd hyn drwy gyfrwng Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru a thrwy barhau i ddatblygu’n fforwm i weithlu’r gwasanaethau cyhoeddus.

Casgliad

Mae’r rhaglen bolisi hon yn her i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac i lywodraeth leol Cymru. Bydd yn gofyn am arweinyddiaeth gyson gan y gwleidyddion a’r rheolwyr ar bob lefel. Drwy gydweithio, bydd Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru yn rhoi’r gefnogaeth i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i bawb sy’n rhan o’r gwaith o fwrw ymlaen â’r model hwn yng Nghymru.

Rydym wedi cyflawni llawer yng nghymuned llywodraeth leol dros y pum mlynedd diwethaf.  Mae gennyn ni bartneriaid rhagorol yn y gwasanaeth cyhoeddus ehangach. Mae’r partneriaid hyn wedi ymrwymo gymaint â ninnau i wireddu’r rhaglen bolisi hon ac i fynd ar drywydd y nod o sicrhau bod Cymru’n dod yn enghraifft ryngwladol o sut y dylai gwasanaethau cyhoeddus hygyrch gael eu cynllunio a’u cyflwyno mewn gwlad fach.