Carwyn Jones, Gweinidog dros Yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Mae Grwp Monsanto wedi rhedeg nifer o gyfleusterau ledled y DU er 1919 pan ddaeth y cwmni i bartneriaeth â ffatri gemegol RA Graesser yn Rhiwabon. Ar hyn o bryd mae’r grwˆ p yn gweithredu dan yr enw Solutia UK.
Gan fod y cwmni wedi bod yn gweithredu ers cyhyd yn y DU, bydd gwastraff wedi’i waredu ar nifer sylweddol o safleoedd a chan nifer fawr o weithredwyr a fu’n gweithio i’r cwmni. Nid oes asesiad wedi’i wneud o unrhyw gostau glanhau posibl yn sgil gwastraff halogedig sy’n ymwneud yn benodol â Grwˆ p Monsanto yn ystod ei gyfnod o fewn y DU. Rwyf felly wedi canolbwyntio fy natganiad ar Chwarel Brofiscin yn y Groes-faen sydd wedi denu sylw’r cyfryngau yn ddiweddar.
Defnyddid chwarel Brofiscin fel safle gwaredu gwastraff diwydiannol a chemegol rhwng 1965 a 1970. Rhoddwyd caniatâd i ollwng gwastraff yn safle Brofiscin i gwmni Industrial Waste Disposal (South Wales) Ltd ym mis Awst 1965. Nid Grwˆ p Monsanto yn unig a ddefnyddiai’r safle ac roedd yn derbyn gwastraff o fusnesau eraill yn yr ardal. Mae’r dyddodion hyn yn dyddio’n ôl i’r cyfnod cyn bodolaeth y rheolaethau rheoli gwastraff ar safleoedd adfer neu waredu gwastraff o dan y Gyfarwyddeb Wastraff Ewropeaidd. Cydnabyddir bod rheolaethau’r cyfnod yn llai trwyadl nag y maent heddiw.
Mae’r safle yn ymestyn dros ardal o ryw 1.5 hectar. Cyfyngir gwastraff i ochr orllewinol y chwarel. Islaw’r ddaear, mae’r swmp o wastraff ar ffurf lletem, hyd at 6 metr o ddyfnder yn y man dyfnaf, ar ochr orllewinol bellaf y chwarel. Deëllir bod y mathau canlynol o wastraff i’w canfod yno: ychwanegion petrolewm sy’n cynnwys Bariwm, Calsiwm a Sinc; Hydrogarbonau Clorinedig (Tricloro-ethylen, Clorid Methylen (Dicloro-methan) a Diclorid Ethylen (1,2 Dicloro-ethan)); Biffenylau Polyglorinedig Ffenol (PCBs); sbirit gwyn; gwastraff gweithgynhyrchu plastig; cyfansoddion organoffosfforws; a gweddillion distyllio sy’n cynnwys anilin a gwlychwyr. Mae mathau eraill o wastraff yn cynnwys metelau (Arsenig, Mercwri, Plwm, Copr, Fanadiwm, Cromiwm VI, Sinc, Manganîs, Bariwm, Calsiwm ac Alwminiwm).
Cynhaliwyd astudiaethau yn y 70au a’r 80au i ddechrau, ac yna ymchwiliwyd ymhellach er 2001, er mwyn nodi’r llygredd posibl ar y safle. Y prif ffocws fu canfod a yw rhywfaint o’r gwastraff a ollyngwyd yn y chwarel yn ystod y 60au a’r 70au yn mynd i mewn i ddwˆ r wyneb, dwˆ r daear, yr awyr neu’n effeithio ar iechyd pobl. Mae ymchwil hefyd yn parhau ynghylch pa gwmnïau a/neu unigolion a ollyngodd y gwastraff.
Ceir crynodeb o adroddiadau o ymchwiliadau yn y tabl isod.
1978 Gorffennaf Adroddiad y Ganolfan Ymchwil Dwˆ r ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Rhaglen Ymchwil ar Ymddygiad Gwastraff Peryglus mewn Safleoedd Tirlenwi. Safle Tirlenwi Brofiscin: Astudiaeth o Lygredd Dwˆ r Posibl gan Drwytholchion 3 thwll turio dwfn i’r gogledd o’r chwarel. Nodwyd halogiad.
1983 Rhagfyr Adroddiad y Ganolfan Ymchwil Dwˆ r ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Ymchwiliad i Lygredd mewn Dwˆ r Daear o dan Safle Tirlenwi Brofiscin, De Cymru Monitro tyllau turio blaenorol
2000/01 Comisiynu ymgynghorwyr amgylcheddol Komex. Cyhoeddi adroddiadau amrywiol ddechrau 2001:
• Arolwg o Nodweddion y Dwˆ r
• Arolwg o Anwedd y Pridd
• Astudiaeth o Drothwyon Anwedd
• Adroddiad o Asesiad Amgylcheddol Cam 1 Rhan IIA – casglu’r wybodaeth sydd ar gael – dealltwriaeth gychwynnol o’r cyd-destun amgylcheddol a phob elfen gysylltiol a allai fod yn llygru.
2001 Gorffennaf Rhan IIA o Gyfundrefn Tir Halogedig Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Asiantaeth yr Amgylchedd i roi cymorth technegol i’r awdurdod lleol gyda dyfroedd a reolir. Yr Asiantaeth yn gyfrifol am adfer safleoedd a ddynodwyd yn safleoedd arbennig.
2002 Medi Cyhoeddi Adroddiad CELTIC; Cam 2 o’r Asesiad Amgylcheddol. Drilio tyllau turio i’r swmp o wastraff o fewn y chwarel. Llunio rhestr o gyfansoddion cemegol y ffynhonnell ar hyn o bryd.
2004 Ionawr Atkins yn mapio toriadau’r graig ar wyneb y chwarel. Adroddiad; Dadansoddiad o Doriadau’r Graig Deall llwybrau anwedd posibl drwy’r graig.
2004 Mawrth Adroddiad Atkins; Asesiad o’r Model Cysyniadol a’r Elfennau Cysylltiol sy’n Llygru Adolygu a chasglu’r holl wybodaeth flaenorol i lunio rhestr o’r holl elfennau cysylltiol a allai fod yn llygru.
2005 Mawrth Cofnod o Benderfyniad a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Pennu’r safle yn dir halogedig yn sgil llygru’r dyfroedd a reolir (hy dyfroedd daear a’r wyneb) ac yna’i ddynodi’n safle arbennig gan Rhondda Cynon Taf. Asiantaeth yr Amgylchedd yn dod yn brif reoleiddiwr y safle, yn gyfrifol am ddiogelu’r gwaith adfer.
Mae’r astudiaethau wedi cynnwys: asesu’r swmp o wastraff; astudiaethau o iechyd pobl i asesu’r effaith bosibl drwy ddod i gysylltiad uniongyrchol â llygredd neu drwy unrhyw anwedd neu lwch a gynhyrchir o’r safle; ac arolygon i asesu’r effaith ar ddwˆ r daear a dwˆ r wyneb.
Er 2005/06 mae Llywodraeth y Cynulliad (y Gangen Polisi Gwastraff) wedi darparu £383,000 ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd (Rhaglen Prosiectau Cyfalaf Tir Halogedig) i gynnal ymchwiliadau (£274K yn 2005/06 a £109K yn 2006/07).
Hyd yma, mae’r ymchwiliadau hyn wedi cadarnhau nad oes unrhyw niwed amlwg na pherygl uniongyrchol i iechyd pobl. Mae’r astudiaethau a’r monitro yn cadarnhau rhywfaint o lygredd yn y dwˆ r daear dwfn a’r dwˆ r wyneb, er nad yw wedi’i fesur. Mae’r dwˆ r wyneb halogedig wedi’i gyfyngu i fisoedd gwlypach y gaeaf, pan fydd lefelau dwˆ r daear y chwarel yn codi ac yn llifo ar hyd ffosydd draenio. Ar hyn o bryd, nid oes effaith fesuradwy yn y dwˆ r wyneb ar y prif gwrs dwˆ r agosaf.
O dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol gyfredol, yr awdurdod lleol sydd â’r brif ddyletswydd statudol i ymchwilio i dir a allai fod yn halogedig. Ym mis Mawrth 2005, gwnaed Asiantaeth yr Amgylchedd yn brif awdurdod gorfodi unwaith y dynodwyd y safle’n ‘safle arbennig’ gan yr awdurdod lleol o dan Ran IIA o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Oherwydd natur y ddaeareg a’r halogiad a oedd yn bresennol y dynodwyd y safle felly yn hytrach na graddau’r halogiad.
Ers dod yn brif awdurdod gorfodi, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ceisio deall yn llawn y peryglon i ddyfroedd daear a wyneb ar hyn o bryd a phenderfynu ar y ffordd fwyaf cost-effeithiol o ddiogelu’r amgylchedd lleol yn y dyfodol ac adfer costau oddi wrth y bobl berthnasol. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd, yr Awdurdod Lleol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf), y Bwrdd Iechyd, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru a’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi bod yn cydweithio.
Mae Cyfundrefn Tir Halogedig y DU yn edrych ar bosibilrwydd sylweddol o niwed sylweddol yng nghyd-destun defnydd tir. Mae'r gyfundrefn yn ei gwneud yn ofynnol cael cysylltiad (llwybr) rhwng unrhyw elfen sy’n lllygru (ffynhonnell) a derbynnydd (person neu’r amgylchedd). O fethu â chanfod cyswllt, mae’n anodd cyfiawnhau gwaith diangen i adfer y sefyllfa. Hyd yma, nid oes cysylltiad wedi’i ganfod, ac felly rydym yn canolbwyntio ar ymchwilio a modelu.
Mae’r astudiaethau cyfredol yn edrych ar i ba raddau y mae’r dwˆ r daear wedi’i halogi o dan y chwarel ac, fel yr esboniwyd uchod, unrhyw elfennau cysylltiedig sy’n llygru’n sylweddol o fewn y dwˆ r daear a wyneb. Bydd yr ymchwiliad hwn, y mae’r Asiantaeth yn gobeithio rhoi adroddiad arno yn ystod Gwanwyn 2007, yn tynnu ynghyd yr holl ganlyniadau monitro hyd yma a rhoi dehongliad o’r hyn sy’n digwydd ar y safle. Bwriad yr adroddiad yr llywio’r broses benderfynu o ran y dull adfer mwyaf priodol.
Mae’r sylw diweddar yn y wasg wedi canolbwyntio ar y ffaith y gallai’r costau adfer gael eu talu o bwrs y cyhoedd. Bydd y costau yn dibynnu ar y peryglon a nodir ar y safle. Er nad yw’r rhain wedi’u nodi’n llawn yn achos Brofiscin (bydd y rhain yn dibynnu ar ganfyddiadau’r ymchwiliad cyfredol), mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhagweld y byddant yn sylweddol is na’r senarios a ddyfynnwyd gan y cyfryngau (dros £100 miliwn).
Yn unol ag Egwyddor y Llygrwr sy’n Talu, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ceisio enwi’r bobl y mae’n briodol iddynt wneud y gwaith adfer (hy pwy sy’n gyfrifol am y costau adfer). O ran yr achos o fethdalu yn UDA yn erbyn Solutia Inc, mae’r Asiantaeth yn dweud bod ei chyfreithwyr wedi bod yn ceisio canfod pwy sy’n gyfrifol am lygru’r safle a bod gohebiaeth wedi’i hanfon i lys methdalu UDA yn Efrog Newydd. Mae’r ohebiaeth hon yn gofyn i ddarpariaeth benodol gael ei gwneud am unrhyw gyfrifoldeb a dadogir i Solutia UK Ltd (Monsanto gynt).
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi neilltuo atebolrwydd posibl wrth gefn o £20 miliwn ar gyfer gwaith adfer ar y safle. Bydd y gofynion penodol yn dibynnu ar ganlyniad yr astudiaethau ymchwilio.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn parhau i gydweithio’n agos â chyrff eraill y sector cyhoeddus ac i roi gwybodaeth reolaidd i’r trigolion lleol. Bydd yr Asiantaeth yn trefnu cyfarfod cyhoeddus gyda’r trigolion lleol a’r carfanau sydd â diddordeb unwaith y caiff yr adroddiad diweddaraf ei gwblhau.