Skip to content

Ysgrifenedig - Hawliau Datblygu A Ganiateir Ar Gyfer Microgynhyrchu I Ddeiliaid Cartrefi

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Gweinidog dros Yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

Yn y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cabinet ar Newid yn yr Hinsawdd a gyhoeddwyd ar 13 Rhagfyr 2006, dynodais fy mwriad i gyflwyno hawliau datblygu a ganiateir, cyn gynted â phosibl, i ganiatáu i ddeiliaid cartrefi osod offer microgynhyrchu domestig. Ar drywydd fy menter bolisi, cefnogodd Llywodraeth y Cynulliad gynnig Michael German ynglŷn â gosod, addasu neu adnewyddu technolegau microgynhyrchu mewn neu ar dŷ annedd a gefnogwyd yn y Sesiwn Lawn ar 17 Ionawr 2007 (NDM3399). Mae’r Datganiad Ysgrifenedig Cabinet hwn yn disgrifio’n fwy manwl y materion a’r broses a ddilynir i ddod â deddfwriaeth eilaidd briodol yn ei blaen.

Fel rhan o’r sail dystiolaeth ar gyfer yr hawliau datblygu a ganiateir newydd comisiynodd Llywodraeth y Cynulliad ymchwil ar y cyd gyda Chymunedau a Llywodraeth Leol. Mae’r ymchwil wedi adolygu darpariaethau presennol y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir mewn perthynas â gosod a gweithredu pob technoleg microgynhyrchu. Roedd yr ymchwil yn cynnwys argymhellion hefyd ynghylch sut y gellir diwygio’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir i hwyluso gosod offer microgynhyrchu, gan ofalu ar yr un pryd nad yw amwynder cymdogion a’r gymuned ehangach yn cael ei beryglu’n annerbyniol.

Ar hyn o bryd, o ran cynhyrchu solar a ffotofoltäig, mae gosod llawer o’r mathau arbennig hynny o ynni’n wedi’i gynnwys yn barod o dan ddatblygu a ganiateir. Anfonwyd llythyr at awdurdodau lleol yn 2003, a chafodd ei ailadrodd ar 1 Chwefror 2006, yn datgan y dylid ystyried paneli solar a phaneli ffotofoltäig nad ydynt yn ymestyn ymhell y tu hwnt i do yn ddatblygiad a ganiateir fel arfer. Yn yr un modd, fel arfer, byddai cyfnewidwyr gwres a bwyleri biomas yn cael eu cynnwys o fewn datblygiad a ganiateir. Yng nghyswllt tyrbinau gwynt bach y byddai fy nghynigion yn cael yr effaith fwyaf.

Ar hyn o bryd, mae swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried sut y gellir trosi fy menter bolisi a’r argymhellion ymchwil yn ddeddfwriaeth eilaidd glir a chryno. Wrth lunio’r ddeddfwriaeth eilaidd, bydd rhaid ymdrin â nifer o faterion. Er bod arnaf eisiau sicrhau bod y ddeddfwriaeth mor ganiataol ag y gallwn ei gwneud yn rhesymol, yn arbennig lle nad oes effaith y tu hwnt i’r eiddo ble mae’r offer, mae’n hanfodol bod y system gynllunio’n parhau i reoli datblygiadau sy’n effeithio’n annerbyniol ar eraill. Bydd y posibiliadau o ran effaith yn amodol ar y dechnoleg a ddefnyddir. Er enghraifft, gallai tyrbinau gwynt a phympiau gwres o’r aer domestig greu trafferthion sŵn a dirgrynu i eiddo cyfagos os byddent wedi’u lleoli mewn man amhriodol. Yn yr un modd, gallai pibellau tanddaearol sy’n gysylltiedig â phympiau sy’n codi gwres o’r ddaear amharu ar weddillion archeolegol. Bydd rhaid ystyried effeithiau gweledol cronnol yn ogystal.

Mae hawliau datblygu a ganiateir presennol yn cydnabod pwysigrwydd amddiffyn rhai ardaloedd penodol, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ac ardaloedd cadwraeth. Mae hawliau datblygu a ganiateir yn fwy cyfyng o fewn yr ardaloedd sensitif hyn. O dderbyn yr angen diwrthdro i leihau gollyngiadau Carbon, rwy’n ystyried peidio â chynnig cyfyngiadau ychwanegol ar hawliau datblygu a ganiateir i osod offer microgynhyrchu domestig mewn ardaloedd sensitif ar hyn o bryd, heblaw am ardaloedd cadwraeth o bosibl. Bydd angen caniatâd adeilad rhestredig o hyd i osod offer microgynhyrchu ar adeilad rhestredig.

Bydd angen i’r ddeddfwriaeth fod yn ddigon manwl i roi sicrwydd i ddeiliaid cartrefi am yr hyn sy’n/nad yw’n ddatblygiad a ganiateir ar gyfer pob technoleg, maint a graddfa’r offer a ganiateir, ei leoliad mewn perthynas ag eiddo cyfagos a lefelau sŵn derbyniol. Hefyd, mae angen sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn caniatáu ar gyfer technolegau microgynhyrchu newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg.  Mae’n rhaid sicrhau nad yw deiliaid cartrefi yn penderfynu peidio â buddsoddi yn y dechnoleg ac nad yw cymdogion yn gwrthdaro.

Mae papur ymgynghori’n cael ei baratoi i’w gyhoeddi’n gynnar yn yr haf, yn amodol ar gydsyniad y Llywodraeth sy’n dyfod i mewn. Bydd y papur ymgynghori’n cynnwys cynigion am ran newydd o’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir fydd yn ymdrin yn benodol â gosod offer microgynhyrchu domestig. Bydd canllaw drafft i ddeiliaid cartrefi ar osod offer microgynhyrchu domestig yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori ar yr un pryd. Bydd unrhyw newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno, o ganlyniad i’r ymgynghori, yn golygu y bydd angen diwygiadau i ddeddfwriaeth eilaidd yn ddiweddarach eleni. Yr wyf hefyd yn bwriadu edrych ar y posibiliadau o ran  newid yr hawliau datblygu a ganiateir i adeiladau annomestig yn yr un modd. Byddai’r cynnig hwn hefyd yn destun ymgynghoriad.