Skip to content

Ysgrifenedig - Ymchwiliad Annibynnol i edrych ar y prosesau ar ymgynghori a Gweithredu'r Gwaith o Ailgyflunio'r Gwasanaethau Llawfeddygol Cyffredinol yn Sir Gaerfyrddin

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ar 1 Chwefror 2007, cyhoeddais y byddai Ymchwiliad Annibynnol yn cael ei sefydlu i edrych ar y prosesau ar ymgynghori a gweithredu'r gwaith o Ailgyflunio'r Gwasanaethau Llawfeddygol Cyffredinol yn Sir Gaerfyrddin, ac yn arbennig y penderfyniad i gau'r gwasanaethau llawfeddygol brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, Sir Gaerfyrddin (yr Adolygiad o Wasanaethau Llawfeddygol).  

Trafodwyd y mater ymhellach mewn Dadl gan y Pleidiau Lleiafrifol brynhawn 6 Chwefror 2007 pan benderfynwyd, ymysg pethau eraill, y dylwn gyhoeddi'r Cylch Gorchwyl; fe'i nodir isod.

Ar 19 Mawrth 2007, dyfarnodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gontract ar gyfer y gwaith hwn i gwmni GoodwinHannah Cyf; Bydd Dr Neil Goodwin, un o gyfarwyddwyr GoodwinHannah Cyf yn arwain yr Ymchwiliad.  

Ysgolhaig ac ymgynghorydd ar arweinyddiaeth yw Dr Goodwin, ac mae ei gefndir proffesiynol yn golygu ei fod yn gymwys i gynnal yr adolygiad hwn. Yn y gorffennol, mae wedi:

  • mynd ar drywydd newid strategol lleol, arloesedd a buddsoddiad cyfalaf mawr ar gyfer nifer o sefydliadau'r GIG;
  • cynrychioli'r GIG mewn adolygiad o arweinyddiaeth y gwasanaethau cyhoeddus, a arweiniwyd gan Weinidogion;  a 
  • gweithredu fel aelod o grwpiau cynghori gweinidogion ar gyfer gwasanaethau patholeg a dewis i gleifion.

Bydd Dr Goodwin yn dechrau gweithio ar y prosiect hwn ar unwaith a bydd ei Adroddiad Terfynol ar gael ar gyfer y Weinyddiaeth a fydd yn dod i mewn.

Y Cylch Gorchwyl

Bydd yr Ymchwiliad yn:

(i) Ystyried ymddygiad a chamau rhanddeiliaid allweddol yn ystod yr Adolygiad o'r Gwasanaethau Llawfeddygol, yn benodol:

  • Y Gweithgor a sefydlwyd gan BILl Sir Gaerfyrddin yn ystod hydref 2005 (gan gynnwys Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin, y Gwasanaeth Ambiwlans, Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin, Ymddiriedolaeth GIG Abertawe, cynrychiolwyr o faes Gofal Sylfaenol, Cyngor Sir Caerfyrddin, y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, a chynrychiolwyr o'r Sector Gwirfoddol a'r Gymuned Leol);
  • Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin (yr Ymddiriedolaeth);
  • Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin (y BILl);
  • Cyngor Iechyd Cymunedol Sir Gaerfyrddin (y CHC);
  • Cyngor Sir Caerfyrddin (y Cyngor); ac
  • Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru;

(ii) Ystyried cydymffurfio ag Adran 11 o Ddeddf  Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 a Rheoliad 18 o Reoliadau Cyngor Iechyd Cymuned 2004;

(iii) Cynnwys archwiliad o unrhyw gyfraniad a wnaed gan swyddogion yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o safbwynt y penderfyniad i gau'r gwasanaethau llawfeddygol brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip;  

(iv) Ystyried:

  • sut y lluniwyd y cynigion ar gyfer newid y gwasanaethau llawfeddygol brys a ddarperir yn Ysbyty'r Tywysog Philip;
  • sut y cynhaliwyd y broses ymgynghori ar y cynigion hyn;
  • sut y daethpwyd i gasgliad yr ymgynghoriad hwnnw, gan gynnwys rôl y CHC; a
  • sut y lluniwyd y cynlluniau ar gyfer rhoi'r canlyniad hwnnw ar waith;

(v) Sefydlu p'un a gynhaliwyd ymarfer ymgynghori gydag Ymddiriedolaethau/Byrddau Iechyd Lleol cyfagos, yn benodol Bwrdd Iechyd Lleol Castell-nedd Port Talbot, Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe, ac Ymddiriedolaeth GIG Abertawe, fel rhan o'r Arolwg o'r Gwasanaethau Llawfeddygol;

(vi) Adolygu'r broses o weithredu Cylchlythyr Iechyd Cymru (2004) 084: LLUNIO GWASANAETHAU IECHYD YN LLEOL:  Canllawiau ar gyfer Cynnwys ac Ymgynghori ar Newidiadau i'r Gwasanaethau Iechyd (y Canllawiau), gan gyfeirio'n benodol at eu defnyddio yn y broses ymgynghori a gweithredu'r Adolygiad o'r Gwasanaethau Llawfeddygol;

(vii) Nodi unrhyw feysydd lle ceir gwrthdaro rhwng y gwaith o weithredu'r Canllawiau a chynnal yr Adolygiad o'r Gwasanaethau Llawfeddygol yn effeithiol;

(viii) Cyflwyno cynigion penodol ar gyfer diwygio'r Canllawiau, lle bo angen, a'r ddeddfwriaeth lle yr ystyrir bo hynny'n briodol, er mwyn goresgyn unrhyw broblemau a nodir;

(ix) Rhoi gwybod i'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am eu canfyddiadau ac argymhellion, a hynny ar ffurf Adroddiad ysgrifenedig cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol yn unol â chynnig a basiwyd gan Gyfarfod Llawn y Cynulliad ar 6 Chwefror 2007, i'w gwneud yn bosibl i'r ymateb gael ei ystyried yn un o Gyfarfodydd Llawn y Cynulliad yn ystod tymor cyfredol y Cynulliad.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyhoeddi canfyddiadau ac argymhellion yr Ymchwiliad.