Skip to content

Llafar-Ymateb Llywodraeth y Cynulliad i Adroddiad y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio: Adolygiad o Ddigartrefedd ymhlith Pobl Ifanc

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Edwina Hart, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
 Fel y gwyr yr Aelodau, bu mynd i’r afael â digartrefedd yn un o flaenoriaethau pennaf Llywodraeth y Cynulliad, felly croesawaf yn fawr yr adroddiad hwn a’r cyfle i drafod yn y Cyfarfod Llawn yr hyn yr ydym yn ei wneud i fynd i’r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad o waith caled cyn-aelodau ac aelodau cyfredol y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio wrth gasglu’r dystiolaeth a chyflwyno’r canfyddiadau.
Mae’r argymhellion a geir yn yr adroddiad yn cydweddu’n dda â’n cyfeiriad polisi cyfredol ac yr wyf yn falch fy mod yn gallu derbyn y rhan fwyaf ohonynt yn eu cyfanrwydd. Mae angen ystyried rhai ymhellach ond cefnogaf ddiben y camau gweithredu a gynigir a chredaf y dylid cymryd camau i’w gyflawni.
Mae cael undod ynglyn â’r hyn sydd angen ei wneud i gyflawni ein strategaeth genedlaethol ar ddigartrefedd yng Nghymru o ran pobl ifanc yn hanfodol er mwyn inni gyflawni’r amcanion cyffredin hyn. Gallwn yn awr ddatblygu ein strategaeth ar sail dealltwriaeth gyffredin o’r problemau a’r anawsterau a wynebir gan bobl ifanc.
Wrth dderbyn yr argymhellion, yr wyf yn falch o allu nodi bod y gwaith ar weithredu llawer ohonynt yn mynd rhagddo fel y disgwylir yn ein strategaeth. Bu digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn ganolog i’n polisi yn y maes hwn o’r cychwyn cyntaf. Canolbwyntiwn ar fynd i’r afael â digartrefedd drwy ei atal lle bynnag y bo modd. Felly, efallai y byddai’n fuddiol gosod yr argymhellion a’m hymateb yng nghyd-destun ein polisïau ynglyn â hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiant cymdeithasol i bobl ifanc.
Mae ein rhaglen ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ‘Creu’r Cysylltiadau—Cyflawni Ar draws Ffiniau’, yn nodi’r ffordd y byddwn yn gwella gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion ac sydd wedi’u cydgysylltu ar draws ffiniau lleol a ffiniau gwasanaethau. Yr ydym yn ymgynghori ar ganllawiau ar gyfer y cynlluniau newydd i blant a phobl ifanc, a fydd yn ganolog i’r gwaith o gynllunio gwasanaethau i bobl ifanc ym mhob maes gwasanaeth, gan gynnwys tai. Bydd hyn yn rhoi’r fframwaith cynllunio lleol i’w gwneud yn bosibl i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd gydgysylltiedig er mwyn gwneud mwy i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Drwy’r mecanweithiau hyn disgwyliwn i awdurdodau lleol a’u partneriaid ddatblygu polisi lleol yn unol â’n fframwaith polisi cenedlaethol.
Mae mynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol ymhlith pobl ifanc yn ganolog i’n cenhadaeth i greu Cymru well. Yr ydym yn disgrifio hyn ymhob un o’n dogfennau polisi, gan gynnwys y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc, a’r papur newydd ar wasanaethau cymdeithasol, ‘Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol’. Drwy Ymestyn Hawliau, yr ydym yn cefnogi cydweithio lleol i ddiwallu anghenion tai pobl ifanc a’u hanghenion eraill, ac i’w cynnwys yn y gwaith cynllunio lleol.
Yr ydym yn adolygu ein polisi ar ddarparu gwasanaethau i’r rhai sy’n gadael gofal a’n nod yw rhoi mwy o gymorth i adsefydlu’r grwp hwn. Yn benodol, dengys ein rhaglen ar gyfer dileu tlodi ymhlith plant ein hymrwymiad i roi’r mater hwn ar frig ein hagenda. Cydnabyddwn fod digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn gysylltiedig yn amlach na pheidio â nifer o ddangosyddion sy’n gysylltiedig ag amddifadedd, ac mae angen torri’r cylch o anfantais o un genhedlaeth i’r llall.
Ni allwn gyflawni ein hamcanion ar dlodi ac allgáu cymdeithasol ar ein pennau ein hunain. Mae angen i Lywodraeth y Cynulliad weithio gyda Llywodraeth y DU, llywodraeth leol a’r sector preifat a’r sector gwirfoddol, er mwyn inni lwyddo i gyflawni ein nodau. Adlewyrchir hyn yn yr adroddiad, ac mae llawer o’i argymhellion yn gofyn i sefydliadau eraill sydd y tu hwnt i’n rheolaeth gymryd camau pwysig, ond byddwn yn gweithio gyda hwy i wella’r ffordd y dyrennir ein hadnoddau cenedlaethol i fynd i’r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc a’u heffeithiolrwydd.
Drwy ein strategaeth genedlaethol ar ddigartrefedd, yr ydym eisoes yn neilltuo adnoddau sylweddol i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc, sy’n cynnwys prosiectau i ddysgu pobl ifanc i osgoi dod yn ddigartref, gwaith allgymorth a chyngor ataliol ymhlith pobl ifanc, datblygu pecyn cymorth i weithwyr ieuenctid, a chyfryngu i helpu pobl ifanc i gael cymorth gan eu teuluoedd. Yr ydym wedi comisiynu darn pwysig o ymchwil i’r modelau tai mwyaf effeithiol ar gyfer pobl ifanc ddiamddiffyn, a gaiff ei gwblhau yn yr hydref. Mae arian ar gyfer Cefnogi Pobl yn ei gwneud yn bosibl i gefnogi cannoedd o bobl ifanc yn y gymuned, fel y gallant yn y pen draw fyw yn annibynnol. Fodd bynnag, mae llawer mwy i’w wneud. Fy nod yn y pen draw yw sicrhau bod pob person ifanc yn byw mewn cartref diogel a chefnogol. Byddai hynny’n sylfaen gadarn ar gyfer dileu allgáu cymdeithasol ac amddifadedd, ac i alluogi ein pobl ifanc i gyflawni eu potensial mewn bywyd.
Byddwn yn parhau i adolygu effeithiolrwydd ein strategaeth genedlaethol ar ddigartrefedd i helpu i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Bydd yr adroddiad hwn a’r dystiolaeth a gyflwynwyd pan oedd yn cael ei baratoi, yn rhoi gwybodaeth hanfodol i’n helpu yn ystod y broses honno. Diolchaf i’r pwyllgor unwaith eto am ei gefnogaeth i fynd i’r afael â’r agenda hon.