Skip to content

Llafar - Datganiad Polisi Llywodraeth Leol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Y Gweinidog Drod Gyllid, Llywodraeth Leol A Gwasanaethau Cyhoeddus
Ddydd Iau 8 Mawrth cyhoeddais y datganiad polisi llywodraeth leol, ‘Cyfrifoldeb Cyffredin’. Mae’n amlinellu’r ffordd ymlaen i lywodraeth leol i gyflawni’r ymrwymiadau a wnaethpwyd yn ein hymateb i Beecham, ‘Creu’r Cysylltiadau: Cyflawni ar Draws Ffiniau’. Mae’r egwyddorion cyffredinol yn y ddogfen honno’n ymwneud ag integreiddio gwasanaethau cyhoeddus yn well, yr angen am berfformiad mwy cysond, a rheoli perfformiad mwy effeithiol. Maent hefyd yn disgrifio’r angen am ffordd o arwain sy’n mynd yn nes at y dinasyddion. Mae’r egwyddorion hyn yn ganolog i ‘Cyfrifoldeb Cyffredin’.

Er mwyn gwella gwasanaethau’n sylweddol a gwella’r profiad a gaiff ein dinasyddion wrth eu defnyddio, mae ein datganiad polisi llywodraeth leol yn canolbwyntio ar dair prif agwedd o ddatblygiad: llywodraethu, craffu a gwybodaeth. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ceisio cael pwerau gwneud Mesurau i’r Cynulliad trwy’r Mesur Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd, sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd, er mwyn cynnig darpariaethau deddfwriaethol a fydd yn gweithredu’r rhaglen bolisi yn y tri maes yma.

O ran llywodraethu, mae’r datganiad polisi’n adeiladu ar yr argymhellion yn yr ymateb i Beecham i sefydlu byrddau gwasanaeth lleol a chytundebau gwasanaeth lleol ledled Cymru. Bydd llywodraeth leol yn cynnull pob sefydliad gwasanaeth cyhoeddus yn yr un modd i wella darpariaeth gwasanaethau lleol ac i fynd i’r afael â’n problemau trawsffiniol mwyaf dyrys. Byddwn yn cyflwyno, trwy gyfrwng ein pwerau deddfu newydd, ddyletswydd i gydweithredu a fydd yn sail i’r gweithio ar y cyd hwn.

Mae’r datganiad polisi hefyd yn amlinellu sut y byddwn yn mynd ati i alinio gwasanaethau cyhoeddus sy’n gweithredu ar sawl lefel wahanol, er mwyn symleiddio gweithgarwch cenedlaethol, rhanbarthol, isranbarthol a lleol. Ein bwriad yw creu fframwaith cenedlaethol lle bydd cynllun gofodol Cymru ar lefel genedlaethol a rhanbarthol, a’r Strategaeth Gymunedol ar lefel cyflenwi gwasanaeth yn lleol, yn cael eu cysylltu a’u halinio. Er mwyn cefnogi hyn byddwn yn argymell rhaglen i resymoli partneriaethau er mwy osgoi creu gormod o fiwrocratiaeth ac i adeiladu ar lwyddiant y gwaith i resymoli’r cynllun sydd wedi’i wneud eisoes.

Bydd rôl gynyddol byrddau partneriaeth rhanbarthol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn nodwedd bwysig o’r darlun rhanbarthol ac is-ranbarthol dros y blynyddoedd nesaf, a hoffwn dalu teyrnged i’r gwaith maent yn ei wneud yma. Dylent gefnogi cydlynu a chydweithredu rhwng awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus, a gwneud yn fawr o’r bunt Gymreig. Mae gan Werth Cymru rôl allweddol i’w chwarae i gefnogi’r datblygiad hwn, a bu’n llwyddiannus i hybu gwell caffael rhanbarthol a chenedlaethol, ond mae llawer i’w wneud o hyd i gefnogi datblygiad cydweithredu a gwasanaethau mwy a mwy uchelgeisiol ar y cyd. Byddwn, felly, yn gwahodd y Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu ar gyfer pwerau i Lywodraeth Cynulliad Cymru i hybu neu gyfarwyddo cydweithrediad rhwng darparwyr gwasanaethau.

Rhaid inni sicrhau hefyd ein bod yn clywed llais y dinasyddion wrth i’n rhaglen bolisi ddatblygu a bod hyn yn cael effaith wirioneddol ar gynllunio, dylunio ac integreiddio gwasanaethau. Mae angen cysylltiad rhwng y lefel leol a gweithio rhanbarthol ac is-ranbarthol, fel bod llais y dinasyddion yn gallu gwrthbwyso yn ei erbyn. Byddwn yn argymell sefydlu grwpiau rhanddeiliaid byrddau gwasanaeth lleol i gefnogi cydweithredu rhwng sefydliadau lleol ac yn deddfu ar gyfer dyletswydd ehangach i ymgynghori a chynnwys dinasyddion wrth ddatblygu strategaethau cymunedol. Byddwn hefyd yn cefnogi nifer o gynlluniau peilot i annog dinasyddion ledled Cymru i fod yn gysylltiedig â’r cynlluniau, gan gynnwys cyllidebu cyfranogol.

O ran craffu ac arfarnu perfformiad, bydd diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn arwain at gynnydd, dros y blynyddoedd nesaf, mewn gwasanaethau a fydd yn cael eu darparu trwy bartneriaeth rhwng dau neu fwy o awdurdodau lleol a chan awdurdodau lleol a fydd yn cydweithredu â sefydliadau eraill. Mae’n sicr y bydd datblygu byrddau gwasanaeth lleol yn gofyn am fodel craffu cyhoeddus ehangach. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ceisio cael pwerau gwneud Mesurau er mwyn cynnig darpariaethau deddfu, a allai newid y ffordd y mae strwythurau gwleidyddol, gan gynnwys craffu, yn gweithredu. Yr ydym hefyd yn ceisio deddfu ar gyfer pwyllgorau gwasanaethau cyhoeddus ar y cyd ac ar gyfer cyd-opsiynau gwasanaethau cyhoeddus, gyda hawliau pleidleisio yn y pwyllgorau hyn i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i roi pwyslais ar ganlyniadau ar y cyd.

Bydd model craffu neu arfarnu perfformiad newydd yn sicrhau bod gweithgarwch ar draws gwasanaethau’n cael ei herio’n effeithiol ac mewn modd deheuig. Mae’r datganiad polisi’n datblygu rôl newydd ar gyfer yr aelod anweithredol—y cyfeirir ato’n aml fel y meinciwr cefn—wrth arwain dull o graffu, sy’n un traws wasanaeth, adeiladol ac ysgogol. Yr ydym am i aelodau anweithredol weithredu fel amddiffynwyr y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, eu cyfeirio at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt a herio’r system i fod yn symlach ac yn well trwy arfarnu perfformiad y fwy trylwyr.

O ran gwybodaeth, mae cynhyrchu gwybodaeth well am fodlonrwydd y dinesydd a pherfformiad awdurdodau lleol yn hanfodol i sicrhau gwelliant. Rhaid i’n rhaglen bolisi gael ei hategu gan well gwybodaeth am berfformiad sy’n golygu rhywbeth i bobl, ac sy’n cyfrannu ac yn cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i wella. Bydd Perfformiad Cymru’n darparu peth o’r wybodaeth hon: bydd yn arwain at adrodd sy’n canolbwyntio ar y dinesydd gan fyrddau gwasanaeth lleol a chytundebau gwasanaeth lleol, a fydd yn seiliedig yn bennaf ar fframweithiau perfformiad dethol, a phroffiliau perfformiad lleol. Byddwn, felly, yn datblygu fframwaith rheoli perfformiad, mewn cydweithrediad â’n partneriaid lleol a chenedlaethol, i sicrhau sylw cynhwysfawr i wasanaethau awdurdodau lleol. Am y tro cyntaf, byddwn yn cyhoeddi set gychwynnol o safonau gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau allweddol, er mwyn i bobl o bob cwr o Gymru’n gallu gweld pa wasanaethau craidd y mae ganddynt hawl i’w derbyn.

Yr ydym wedi cyflawni llawer yn y gymuned llywodraeth leol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae gennym bartneriaid rhagorol yn y gwasanaeth cyhoeddus ehangach, yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac ym mhob awdurdod lleol. Mae’r partneriaid hyn mor ymrwymedig â ninnau i gyflawni’r rhaglen bolisi uchelgeisiol hon ac i gyflawni’r nod o wneud Cymru—fel y dywed Jeremy Beecham—yn esiampl ryngwladol o lywodraethu mewn gwlad fechan. Bydd ein polisi’n rhoi’r fframwaith a’r arfau i sicrhau llywodraeth leol fodern yng Nghymru.