Skip to content

Ysgrifenedig - Grantiau i Ddisgyblion lle nad Saesneg yw eu Hiaith Gyntaf

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog Dros Addysg, Dysgu Gydol Oes A Sgiliau
Rwy'n croesawu'r cyfle i wneud y Datganiad hwn ar addysgu Saesneg fel Iaith Ychwanegol (EAL) mewn ysgolion yng Nghymru ac i nodi i ba raddau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu Awdurdodau Addysg Lleol (AALlau) i gefnogi'r ddarpariaeth hon.

Mae disgyblion y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt yn cael cymorth ac yn cael eu tiwtora gan athrawon Saesneg fel Iaith Ychwanegol (EAL) sy'n arbenigo yn y maes a chan gynorthwywyr addysgu amlieithog a gyflogir gan yr Awdurdodau Addysg Lleol (AALlau). Mae profiad wedi dangos bod hyn yn gweithio orau pan na chaiff y disgyblion eu tynnu'n ôl o brif weithgareddau’r cwricwlwm ond yn hytrach, pan fydd yr addysgu EAL yn ategu pynciau'r prif ffrwd a'i fod yn berthnasol i'r cwricwlwm. Bydd cynorthwywyr addysgu sy'n rhugl ym mamiaith y dysgwyr yn cyfieithu, cyfieithu ar y pryd / dehongli ac yn cynnig cymorth cyffredinol iddynt yn eu lleoliad diwylliannol a'u hysgol newydd.

Mae'n hanfodol bod y disgyblion hyn yn caffael sgiliau Saesneg cymdeithasol ac academaidd er mwyn eu cynnwys yng nghymuned yr ysgol ac i ryddhau eu potensial. Dyma pam fod darpariaeth EAL yn ganolog i'r agenda cyrhaeddiad lleiafrifoedd ethnig - rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i'r agenda hon. Mae cyllid sylweddol gan Lywodraeth y Cynulliad yn ategu'r ymrwymiad hwn ac yn 2006-07, mae ein Grant Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig (EMAG) werth £5 miliwn ac fe gaiff ei rannu rhwng y 22 AALl i'w cefnogi i wella cyrhaeddiad lleiafrifoedd ethnig, yn enwedig ymysg y plant hynny y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt. Mae cyfran helaeth iawn o'r cyllid hwn wedi'i ymrwymo'n benodol i gyflogi athrawon iaith Saesneg arbenigol a chynorthwywyr iaith.

Mae cyllid y Grant Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig (EMAG) wedi cynyddu o £3.85m yn ystod 2003-04 i adlewyrchu'r nifer cynyddol o ddisgyblion cymwys sef 19,315 ar hyn o bryd.   Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn darparu grant blynyddol i gefnogi AALlau sy'n addysgu plant sy'n ceisio lloches. Defnyddir y grant i fodloni costau cymorth canolog a'u hanghenion arbennig, gan gynnwys caffael sgiliau iaith Saesneg.  Mae'r Grant Addysg i Geiswyr Lloches werth £2.4 miliwn yn ystod 2006-07 ac fe gaiff ei rannu rhwng yr wyth AALl a ymgeisiodd; mae'n debyg y bydd yn cynyddu i £3.1 miliwn yn ystod 2007-08.  (Mae grant pellach gan Lywodraeth y Cynulliad i AALlau, gwerth £900,000 bob blwyddyn, yn cefnogi'r gwaith o addysgu plant Sipsiwn-Teithwyr, sy'n grŵp lleiafrifol penodol).

Rwy'n cydnabod bod y niferoedd cynyddol o weithwyr mudol o'r UE sy'n ymgartrefu yng Nghymru gyda'u teuluoedd yn golygu y rhoddir pwysau ychwanegol ar nifer o ysgolion, yn enwedig wrth ddarparu ar gyfer anghenion ieithyddol y plant. Maent hefyd yn ychwanegu'n sylweddol at nifer y disgyblion sy'n gymwys ar gyfer y Grant Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig (EMAG) a dyma un o'r prif resymau pam yr wyf wedi gofyn i swyddogion adolygu grantiau cyrhaeddiad lleiafrifoedd ethnig y Cynulliad. Y nod yw gwneud y mwyaf o'r arian y gall ysgolion ei ddefnyddio i addysgu Saesneg fel iaith ychwanegol ac i gynnig darpariaeth ar wahân ar gyfer plant gweithwyr mudol am y tro cyntaf. Roeddwn hefyd am weld system grant sy'n ymateb i unrhyw gynnydd yn nifer y plant hyn sy'n cofrestru mewn ysgolion yn y dyfodol - rhywbeth sy'n anodd i'w ragweld.

Wedi ystyried achos manwl, yn ddiweddar rwyf wedi cymeradwyo newidiadau i'r gyfundrefn grantiau cyrhaeddiad lleiafrifoedd ethnig a fydd yn golygu mwy o hyblygrwydd a chyllid ychwanegol i AALlau ar gyfer darpariaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol (EAL). Bydd hefyd yn creu darpariaeth newydd a phenodol ar gyfer plant gweithwyr mudol. Rwyf wedi cymeradwyo cynnig i uno'r Grant EMAG a'r Grant Addysg i Geiswyr Lloches i greu Grant newydd sef y MEAG, gwerth £8.1 miliwn, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2007. Bydd AALlau yn gallu gwneud cais am y grant hwn ar gyfer disgyblion hyd at 18 oed, gan roi terfyn ar y gwahaniaeth rhwng y Grant EMAG, a oedd wedi'i gyfyngu i blant o oedran ysgol gorfodol, a'r Grant Addysg i Geiswyr Lloches, a oedd yn gymwys i blant hyd at 18 oed. Bydd y grant newydd yn parhau i gydnabod anghenion arbennig plant sy'n ceisio lloches y gall ysgolion ddarparu trafnidiaeth, gwisgoedd ysgol, prydau bwyd ac ati ar eu cyfer, heb sôn am eu hanghenion dysgu. Rydym wedi ymgynghori ag ystod o ymarferwyr addysg sydd wedi cefnogi'r trefniadau newydd hyn.

Fel gyda'r EMAG, bydd dyraniadau'r MEAG yn cael eu pennu drwy ddefnyddio fformiwla a gaiff ei phwysoli yn unol ag oedran y disgyblion; Cyfnod Allweddol a gallu ieithyddol. Bydd dau bwysoliad newydd yn cael eu hychwanegu a bydd plant sy'n ceisio lloches yn cael y pwysoliad uchaf posibl drwy gydol eu hamser yn yr ysgol. Bydd y pwysoliad "newydd" uchaf nesaf ar gyfer 'plant newydd gyrraedd' - sef plant gweithwyr mudol yn bennaf - sy'n newydd i'r iaith Saesneg a bydd yn berthnasol am flwyddyn. Byddant yn cael eu cynnwys gyda disgyblion Saesneg fel Iaith Ychwanegol (EAL) eraill. Bydd niferoedd y 'disgyblion newydd gyrraedd' yn cael eu ceisio ddwywaith y flwyddyn er mwyn i'r grant adweithio i unrhyw fewnlifiad o ddisgyblion newydd. Bydd y canlyniad cyffredinol yn fwy o lawer, ac yn hyblyg, gan ariannu cronfeydd i'r AALlau eu defnyddio i fodloni blaenoriaethau lleol.

Rwy'n hyderus y bydd y newidiadau yr wyf wedi'u disgrifio yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r gwasanaethau hyn a ddarperir ledled Cymru. Un o nodweddion allweddol y MEAG newydd yw y bydd modd neilltuo llawer mwy o arian ar gyfer EAL, nid yn unig gan fod disgwyl i'r cyllid cyffredinol gynyddu o £700,000 yn ystod 2007-08, ond gan na fydd y trefniadau newydd mor bendant am sut y bydd yn rhaid i'r cyllid gael ei rannu rhwng grwpiau o gleientiaid ac felly, bydd yn rhyddhau mwy o arian ar gyfer EAL.

Nid oes amheuaeth bod hon yn agenda allweddol lle byddaf yn gofyn i swyddogion geisio tystiolaeth bellach o raddfa a natur y costau cysylltiedig. Mae’r Gweinidog Cyllid eisoes wedi cydnabod pwysigrwydd y mater drwy ddyrannu £500,000 yn ychwanegol i awdurdodau lleol y flwyddyn nesaf yn y Gyllideb Derfynol. Bydd pob awdurdod ar ei ennill diolch i’r cyllid ychwanegol hwn sydd wedi’i gynnwys yn y Grant Cynnal Refeniw. Mae cynllun y Grant MEAG yn flaenoriaeth, felly byddaf yn parhau i gadw golwg fanwl ar lefel yr arian sydd ar gael wrth i’r flwyddyn fynd heibio.