Mae’r datganiad hwn yn mynd i’r afael â nifer o bwyntiau a godir gan Aelodau sy’n ymwneud â blaenoriaethau cyllid y Loteri yng Nghymru, lefel y cyllid Loteri sydd ar gael ar gyfer prosiectau yng Nghymru a chynaliadwyedd prosiectau a ariennir gan y Loteri. Mae hefyd yn mynd i’r afael â phryderon penodol ynglŷn â dyfodol Canolfannau Byw’n Iach.
Cyllid y Loteri yng Nghymru
Dan amodau Deddf y Loteri Genedlaethol ac ati 1993, fel y’i diwygiwyd, mae yna bum achos da a ariennir gan enillion y Loteri Genedlaethol. Hyd yma, mae 26,000 o brosiectau ledled Cymru wedi rhannu bron i £1 biliwn o gyllid y Loteri, a ddosbarthwyd gan y cyrff canlynol:
- Cyngor Celfyddydau Cymru;
- Cyngor Chwaraeon Cymru;
- Cronfa Dreftadaeth y Loteri;
- Y Gronfa Loteri Fawr.
Blaenoriaethau Cyllid y Loteri yng Nghymru
Wrth ddyrannu cyllid i brosiectau, mae’n ofynnol i bob dosbarthwr weithio i set o gyfarwyddiadau polisi strategol lefel uchel a gyhoeddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae cyfarwyddiadau polisi’n benodol i ddosbarthwyr ac yn ystyried y sefyllfa yng Nghymru a’r gwaith cysylltiedig sydd eisoes ar waith.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol i fynd i’r afael â’r materion sy’n ymwneud â chynhwysiant cymdeithasol, tlodi plant a ffyrdd iach o fyw ac mae dosbarthwyr y Loteri wedi ymrwymo i’r amcanion hynny. Mae angen cysoni blaenoriaethau i ryw raddau er mwyn darparu’r canlyniadau gorau i Gymru ac mae’r angen i weithio mewn ffordd drawsbynciol yn sail i’r holl gyfarwyddiadau polisi. Mae dosbarthwyr y Loteri yng Nghymru wedi ymrwymo’n llawn i agenda Creu’r Cysylltiadau ac yn gweithio’n ddiwyd i sicrhau tegwch o ran mynediad i grantiau.
Mae hyn yn bwysicach fyth o ystyried y cyhoeddiadau diweddar ar ariannu Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012. Bydd Aelodau’n ymwybodol i gyfraniad y Loteri Genedlaethol gael ei gynyddu i £2.2 biliwn ar 15 Mawrth 2007.
Ar hyn o bryd, rydym yn amcangyfrif y bydd yr effaith ar gyllid y Loteri yng Nghymru yn y dyfodol oddeutu £70 miliwn. Mae amseru’r cyhoeddiad wedi rhoi cyfle i ddosbarthwyr drefnu eu cyllid yn ofalus ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn trafod sut y byddant yn rheoli’r effaith gyda dosbarthwyr y Loteri. Rydw i hefyd yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i wneud yn siŵr na fydd rhaid i’r Loteri Genedlaethol gyfrannu rhagor o arian at Gemau 2012.
Mae’n bwysig nodi na fydd y cyhoeddiad hwn yn newid y ffordd y bydd dosbarthwyr yn asesu ymgeiswyr. Yn ôl yr arfer, bydd penderfyniadau’n seiliedig ar ba mor dda mae ceisiadau ar gyfer prosiectau’n bodloni meini prawf y rhaglen. Fel gydag unrhyw raglen ariannu, ni fydd yn bosibl ariannu pob prosiect.
Wrth ystyried y materion hyn, ni ddylid anghofio’r budd y gallai Cymru ei gael o Gemau 2012. Yn ogystal â’r cyfleoedd economaidd, bydd Gemau 2012 yn creu etifeddiaeth chwaraeon barhaus a fydd yn cyfrannu at amcanion ein strategaeth Dringo’n Uwch.
Canolfannau Byw’n Iach
Gofynnodd Aelodau’n benodol am wybodaeth am Ganolfannau Byw’n Iach. Nod y rhaglen Canolfannau Byw’n Iach oedd lleihau anghydraddoldebau iechyd, gyda chanolfannau’n defnyddio dull cyfannol o hybu iechyd a mynd i’r afael ag achosion sylfaenol afiechyd. Sefydlodd y rhaglen, sy’n werth £18.5 miliwn, 29 o ganolfannau mewn cymunedau ledled Cymru ac, er bod buddsoddiad y Gronfa Loteri Fawr yn dirwyn i ben, mae nifer o’r canolfannau wedi gallu parhau â’u gwaith drwy ddulliau eraill.
Nid oedd bwriad i’r Gronfa Loteri Fawr ddarparu cyllid i’r Canolfannau gydol eu hoes. Nid oedd Llywodraeth y Cynulliad chwaith wedi ymrwymo i ddarparu cyllid parhaus. Caiff y penderfyniad i barhau i ariannu canolfannau byw’n iach ei wneud yn lleol, nid gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae hyn yn sicrhau bod penderfyniadau’n seiliedig ar anghenion lleol ac yn unol â strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles.
Mae natur cyllid y Loteri’n golygu y darperir grantiau am gyfnod penodol at ddiben penodol. Pe bai dosbarthwyr yn ariannu pob prosiect yn barhaus, ni fyddai arian ar gael ar gyfer datblygiadau newydd ac mae’n ddyletswydd ar y rheini sy’n derbyn grant y Loteri i geisio sicrhau ffynonellau cyllid amgen yn ôl yr angen. Esbonnir hyn i ymgeiswyr yn gynnar yn y broses a chynigir help iddynt i nodi ffynonellau amgen o gyllid parhaus, yn enwedig gan Ganolfan Iechyd Cymru sy’n rheoli’r rhwydwaith o Ganolfannau Byw’n Iach.
Yn ogystal â hyn, mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi penodi cwmni o’r enw Momenta i weithio gyda Chanolfan Iechyd Cymru i gynorthwyo canolfannau yng Nghymru. Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael gan y Gronfa Loteri Fawr i alluogi canolfannau i sicrhau cyngor cymorth busnes un-i-un ar eu cynaliadwyedd hirdymor.
Cyllid y Loteri a’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
Mae’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol (VCS) yng Nghymru’n rhanddeiliad allweddol mewn perthynas â materion cyllid y Loteri. Fel y nodwyd gan Aelodau, mae’r sector yn arloesol ac yn datblygu nifer o fentrau cymunedol newydd a chyffrous, gyda llawer ohonynt yn derbyn eu cyllid cychwynnol gan y Loteri Genedlaethol. Mae’r ffaith nad yw cyllid y Loteri’n cynnwys arian y llywodraeth yn ei galluogi i wneud y buddsoddiadau hyn a chymryd risgiau ar brosiectau arloesol, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr a’i ddatblygu ymhellach.
Bydd Aelodau am nodi bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau na fydd y sector yn derbyn llai o gyllid gan y Gronfa Loteri Fawr o ganlyniad i gyfraniad y Loteri Genedlaethol at Gemau 2012. Bydd y Gronfa Loteri Fawr yn parhau i ddarparu 60-70% o gyllid y sector ac yn sicrhau bod cynnal y gyfran honno o gyllid yn flaenoriaeth. Bydd hyn, ynghyd â gwaith pellach, yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor prosiectau.
Cyllid i’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol yng Nghymru
Yn 2005/6, darparodd Llywodraeth y Cynulliad gyllid o £162 miliwn i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru. Mae’r ffigur hwn wedi cynyddu’n raddol o £28 miliwn yn 2001/2 pan ddechreuwyd casglu’r data hwn.
Mewn ymgynghoriad â’r sector gwirfoddol a chymunedol, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi datblygu Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Cynllun y Sector Gwirfoddol. Mae’r Cynllun Drafft yn cynnwys cynigion ar gyfer ariannu’r sector gwirfoddol yn y dyfodol, gan gynnwys cyflwyno cronfa i gynyddu gallu’r sector, yn ogystal â phrif ffrydio’r dull adennill costau.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar y Cynllun Gweithredu Strategol drafft tan 3 Ebrill ac fe’i cyflwynir i Lywodraeth newydd y Cynulliad ar ôl yr etholiadau ym mis Mai.