Skip to content

Ysgrifenedig - Gyfran-ddeiliaid Corus Gymeradwyo Cynnig Tata i’w Drosfeddiannu ar 7 Mawrth 2007

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog Dros Fenter, Arloesi A Rhwydweithiau

Ar 7 Mawrth pleidleisiodd cyfran-ddeiliaid Corus o blaid cynnig Tata Steel i brynu’r Corus Group. Ar 24 Hydref mewn Datganiad Llafar i’r Cynulliad dywedais y byddwn yn gwneud datganiad arall am y trosfeddiannu ar ôl i bethau ddod i ben. Er y bydd y drefn briodol yn cymryd rhyw fis arall i’w chwblhau, rwy’n credu y byddai datganiad nawr yn fuddiol er mwyn rhoi gwybodaeth i Aelodau’r Cynulliad sydd â buddiannau yn hyn o beth.

Mae’n fuddiol myfyrio ynghylch pam y daeth trosfeddiant Tata i fod. Ym mis Awst 2005, cyhoeddodd Corus y byddai’n edrych ar gyfleoedd allanol i wella eto ar ei safle cystadleuol mewn gwledydd lle ceid costau isel a thwf uchel. Un rheswm allweddol am hyn oedd bod marchnadoedd dur yn y blynyddoedd diwethaf wedi mynd yn fwyfwy byd-eang a bod cynhyrchwyr y byd wedi integreiddio.  Roedd ar Corus angen mynd i mewn i farchnadoedd newydd a oedd yn datblygu. Roedd arnyn nhw hefyd angen ffynonellau da, dibynadwy a fforddiadwy o ddeunyddiau crai, gan gynnwys glo golosg a mwyn haearn, er mwyn aros yn gystadleuol ym marchnadoedd y byd.  

Yn ystod y cyfnod hwn, cynhaliodd Corus drafodaethau gyda nifer o bartïon, gan gynnwys CSN o Frasil, a chwaraeodd ran o bwys yn y broses ddiweddar o wneud cynigion am Corus. Roedd yna lawer o ddyfalu hefyd y gallai cynnig anghyfeillgar gael ei wneud am Corus ac y gallai hynny arwain at ganlyniadau difrifol i’r Corus Group, a oedd bryd hynny megis dechrau gwneud elw.

Ar 17 Hydref 2006, aeth Tata Steel at Corus gyda chynnig i’w brynu 455c y gyfran. Gwnaeth CSN wrthgynnig ym mis Tachwedd, a chafwyd nifer o gynigion eraill gan CSN a Tata nes i’r Panel Trosfeddiannu yn y DU roi tan 30 Ionawr i’r ddau gynigydd newid eu cynigion eto. Cafodd cynnig llwyddiannus Tata Steel am Corus, sef 608c mewn arian parod am bob cyfran yn Corus ei gymeradwyo gan gyfran-ddeiliaid Corus ar 7 Mawrth. Yn ôl dogfen cynllun diwygiedig Tata, mae’r cynnig hwn yn gosod pris o ryw £6.2 bn ar Corus.

Y disgwyl yw y bydd y drefn briodol wedi’i chwblhau erbyn 2 Ebrill, a bryd hynny caiff Cyd-bwyllgor Strategaeth ac Integreiddio ei ffurfio i fynd â’r busnes yn ei flaen. Rwy’n deall y bydd y ddau Fwrdd yn cyfuno ar yr un pryd, ac y bydd yna bresenoldeb cryf o blith Corus – rwy’n deall y daw Cadeirydd Corus, Jim Leng, yn Ddirprwy Gadeirydd Tata Steel o dan Mr Ratan Tata. Caiff Prif Swyddog Gweithredol Corus, Philippe Varin, wahoddiad i ymuno â’r Bwrdd hefyd, gan fwriadu ei benodi yn Ddirprwy Reolwr-Gyfarwyddwr ymhen y flwyddyn.

Caiff aelodau cyfredol eraill o Fwrdd Corus wahoddiad hefyd i ymuno â’r Bwrdd newydd. Daw Corus yn is-gwmni i Tata Steel, ond rwy’n deall y bydd enw Corus yn parhau hyd y gellir ei rag-weld.

Mae’r trosfeddiant gan Tata wedi codi pryderon wrth gwrs ynglŷn â’r dyfodol ymhlith gweithwyr Corus a phawb sy’n gysylltiedig â gwaith Corus. Yng Nghymru, mae pryderon wedi bod ynghylch dyfodol y gwaith gwneud dur ym Mhort Talbot yn y tymor hir. Y rheswm am hyn yw bod Tata wedi dweud eu bod yn bwriadu ehangu ar eu gwaith gwneud dur yn India yn y tymor canol a’u bod wedi dweud bod yna opsiwn at y dyfodol o anfon slab o India i’w orffen mewn melinau yn Ewrop.

Mae hyn yn dal yn un mewn nifer o opsiynau yn y tymor canol, ond mae’n ddigon posibl y bydd y rhagolygon ar gyfer y galw am ddur yn India a de-ddwyrain Asia dros y degawd nesaf yn golygu y bydd llawer o waith cynhyrchu Tata yn y dyfodol yn cael ei ddefnyddio yn y marchnadoedd hyn. Mae Tata wedi dweud nad oes cynlluniau ar hyn o bryd i dorri swyddi nac i newid lleoliad prif fusnesau Corus.  

Mae Port Talbot wedi gweld dros £300 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y pum mlynedd diwethaf er mwyn codi’r dur hylifol sy’n cael ei gynhyrchu i 5 miliwn o dunellau y flwyddyn. Mae’r Ffwrnais Chwyth newydd, Rhif 5, castiwr ychwanegol, ac ailwampio llwyr ar y ffyrnau golosg a’r safle bwydo glo yn golygu erbyn hyn fod gan safle Port Talbot y dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer gwneud dur a’i fod wrthi’n cynhyrchu yn llwyddiannus. I gyd-fynd â hyn, mae yna weithlu rhagorol sy’n parhau i ddod o hyd i ffyrdd o wella effeithlonrwydd y safle er mwyn gostwng cost pob tunnell o ddur ymhellach byth.

Bydd Prif Weinidog Cymru’n cyfarfod â Rheolwr-Gyfarwyddwr Tata Steel, Mr B Muthuraman, yma yng Nghymru ar 4 Ebrill, yn fuan ar ôl i’r broses brynu gael ei chwblhau. Bydd yn estyn croeso cynnes ac yn tanlinellu’r rhan bwysig y mae gwneud dur yn dal i’w chwarae yn economi Cymru.

Fe fydd y Prif Weinidog yn pwysleisio hefyd gryfderau’r gwaith yng Nghymru, a’r nifer fawr o rinweddau sy’n perthyn i waith Corus ar safleoedd ledled Cymru, gan gynnwys Trostre, Shotton a Llanwern, yn ogystal â nifer fawr o unedau gweithgynhyrchu a busnesau eraill llai eu maint ym mhob rhan o Gymru.  Bydd yn estyn gwahoddiad agored i gyfarfod ag ef eto pan fydd yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig.

Rwy’n dal yn optimistig y bydd y cytundeb yn gwneud lles i Corus. Mae’r argoelion cynnar yn gadarnhaol iawn.

Wrth gwrs, all Tata ddim gwarantu y bydd swyddi’n gwbl ddiogel. Serch hynny, dylem gofio nad yw Corus erioed wedi bod mewn sefyllfa i wneud hynny. Ond rwy’n credu y dylem edrych ymlaen yn gadarnhaol, a hyderu y bydd gwerthoedd Tata sy’n golygu ei fod ymhlith y cwmnïau gorau ac uchaf eu parch ym myd busnes India yn dod drosodd yn ei waith yn Ewrop.

Megis dechrau mae proses y trosfeddiannu. O leiaf mae’r ansicrwydd drosodd ac rydym yn gwybod bod gan Corus berchennog newydd ar ffurf Tata Steel.  Mae sylwadau cychwynnol Tata wedi bod yn galondid mawr inni; rydym yn edrych ymlaen at gydweithio i sicrhau y gall traddodiadau cryf Cymru mewn gwneud dur barhau.

Yn y cyfamser, rydym yn parhau mewn cysylltiad agos â’r ddau gwmni, ac â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Undebau Llafur.