Skip to content

Ysgrifenedig - Rhesymeg dros gomisiynu llai o leoedd i fyfyrwyr

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 6,000 o nyrsys ychwanegol, 400 o ddoctoriaid ychwanegol a 2000 o weithwyr iechyd eraill erbyn 2010.  Rydym ar drywydd cyflawni’r targedau hyn.

Er mwyn gweithredu’r agenda iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer y dyfodol, bydd yn rhaid edrych ar y sgiliau sydd ar gael a defnyddio sgiliau arbenigol gweithwyr proffesiynol i gyflawni’r swyddogaethau hynny y maent yn gymwys i’w gwneud.

Mae’r ffigurau sy’n nodi nifer y gweithwyr sydd eu hangen yn y dyfodol wedi’u pennu gan GIG Cymru ac asiantaethau pwysig eraill.  Daeth ffigurau’r nyrsys comisiwn oddi wrth Fwrdd Rhanddeiliaid Uned Datblygu’r Gweithlu. Bydd y ffigurau comisiynu amodol yn cael eu cyflwyno i Fforwm Partneriaeth gyda chynrychiolwyr yr undebau llafur, cyflogwyr y GIG a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn aelodau ohono er mwyn iddynt gynnig eu sylwadau arnynt.

Mae nifer y nyrsys comisiwn o dan hyfforddiant wedi cynyddu dros y tair blynedd diwethaf o 1,230 yn 2004; 1,250 yn 2005 a 1,292 yn 2006. Mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu’r nifer sydd ei angen i lenwi’r swyddi comisiwn sy’n brin a hefyd i ddiwallu ar gyfer y dyfodol.  Dros yr un cyfnod mae nifer y nyrsys sydd wedi rhoi’r gorau i’w cwrs wedi gostwng o 17% (dros gyfnod o dair blynedd) i 4% bob blwyddyn. Mae mwy o fyfyrwyr yn hyfforddi dros gyfnod o dair blynedd nag erioed.  Yn 2005 a 2006 roedd nifer y graddedigion newydd mewn nifer o broffesiynau, gan gynnwys nyrsio a bydwreigiaeth, yn uwch na nifer y swyddi cyntaf a oedd ar gael o fewn GIG Cymru.  Mae’n bwysig bod nifer y lleoedd hyfforddi yn cyfateb i ofynion tebygol y dyfodol.  Fel arall, mae perygl y bydd gormod o staff, neu ddim digon o staff, i lenwi’r swyddi, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

Yn unol â’r Cynllun Oes a’r angen i ddarparu gwasanethau mwy arbenigol yn y gymuned, mae’n hanfodol ein bod yn hyfforddi nyrsys yn unol â’r gofynion newydd hyn.  Bydd adolygiad o hyfforddiant Nyrsys Cymunedol, gan gynnwys y nifer sy’n cael swyddi comisiwn, yr addysg bresennol a gofynion y dyfodol, yn cael ei gynnal maes o law. Pe byddai’r adolygiad hwnnw’n dangos bod angen mwy o nyrsys cymunedol i gyd-fynd â’r Cynlluniau ar gyfer y Gweithlu, gallai nifer y lleoedd hyfforddi traddodiadol gynyddu yn 2008.  Bydd yr adolygiad hefyd yn nodi pa raglenni addysgu a hyfforddi ychwanegol, sy’n seiliedig ar batrymau gofal yn y dyfodol ac yn canolbwyntio ar anghenion cleifion/cwsmeriaid, sydd eu hangen.