Skip to content

Ysgrifenedig - Adolygiad Polisi'r Llywodraeth O'r Ffordd Y Caiff Gwastraff Ymbelydrol Lefel Is Ei Reoli

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Gweinidog dros Yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

Rwy'n falch o gyhoeddi bod yr adolygiad gan y Llywodraeth (Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig) o'r ffordd y caiff gwastraff ymbelydrol lefel isel solet y DU ei reoli yn y tymor hir wedi'i gwblhau a bod y datganiad polisi diwygiedig yn cael ei gyhoeddi heddiw.  Mae copïau o'r datganiad polisi wedi'u rhoi yn Llyfrgell yr Aelodau.

Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar yr adolygiad o bolisi rheoli gwastraff lefel isel solet ar 28 Chwefror 2006.  Mae'n ategu ac yn cyfateb i waith y mae'r Llywodraeth eisoes yn ei wneud ar y polisi ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol lefel uwch o dan ein rhaglen Rheoli Gwastraff Ymbelydrol yn Ddiogel, yn sgil yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor ar Reoli Gwastraff Ymbelydrol (CoRWM) ym mis Gorffennaf 2006.  

Fel y gwnaeth yr ymgynghoriad yn glir, yn annebyg i wastraff lefel uwch, mae'r llwybrau ar gyfer rheoli a chael gwared ar wastraff lefel isel yn y tymor hir eisoes yn bodoli, ond roeddem yn cydnabod bod angen mynd i'r afael â phroblemau o ran yr isod:

  • gan fod rhaglen ddadgomisiynu a glanhau yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear eisoes yn mynd rhagddi, bydd mwy o wastraff ymbelydrol lefel isel yn digwydd dros y degawdau i ddod, ac mae hyn eisoes yn dechrau digwydd;
  • ni fydd digon o gapasiti ar safle gwaredu gwastraff lefel isel cenedlaethol y DU ger Drigg yn Swydd Cumbria i ymdrin â'r gwastraff hwn, ac mae capasiti'r safle hwn i wneud hynny yn y dyfodol hefyd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.
  • er bod llwybrau gwaredu eraill wedi'u defnyddio ar gyfer rhai mathau o wastraff lefel isel (ee drwy eu gwaredu ar safle ffynhonnell y gwastraff neu'n agos ato, drwy ei llosgi neu ei gladdu mewn safle tirlenwi dan reolaeth neu heb ei reoli), mae llai o'r llwybrau eraill hyn ar gael yn y blynyddoedd diweddar;
  • mae'n fwyfwy anodd dod o hyd i lwybrau trin a gwaredu'r gwastraff ymbelydrol lefel isaf ar raddfa fach yn y sectorau di-niwclear (ysbytai, sefydliadau ymchwil a datblygu a'r diwydiant olew a nwy).

Mae'r polisi diwygiedig yn cydnabod mai ychydig iawn o ymbelydredd sydd mewn llawer o wastraff lefel isel a bod modd ei waredu mewn amryfal ffyrdd, gan mai prin yw’r perygl i iechyd pobl neu'r amgylchedd.  Bydd y polisi diwygiedig:

  • yn golygu y gellir rheoli'r ystod eang o wastraff lefel isel sy'n bodoli eisoes, a hynny mewn ffordd fwy hyblyg, a bydd yn deillio yn y dyfodol o weithgareddau'r Awdurdod Digomisiynu Niwclear a gwastraff y diwydiant niwclear a'r sectorau  di-niwclear;
  • yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal y lefel angenrheidiol o ddiogelwch yn seiliedig ar ddull o lywio risg, ac i baratoi cynlluniau ac achosion diogelwch sy'n dderbyniol i'r cyrff rheoleiddio (gan gynnwys Asiantaethau'r Amgylchedd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch).  
  • yn ceisio lleihau'r symiau o wastraff lefel isel i'w gwaredu drwy roi'r drefn flaenoriaethu ar waith a ddilynir mewn meysydd rheoli gwastraff eraill, sef osgoi cynhyrchu, lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff, cyn cael gwared arno.
  • yn pwysleisio'r angen i ymgynghori ag aelodau'r cyhoedd a'u cynnwys yn effeithiol yn y broses o ddatblygu a darparu cynlluniau rheoli gwastraff ymbelydrol lefel isel;
  • yn gwneud yr Awdurdod Digomisiynu Niwclear yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth DU gyfan ar gyfer rheoli gwastraff lefel isel y diwydiant niwclear, gan gynnwys nodi'r angen am fwy o gapasiti a safleoedd gwaredu gwastraff lefel isel.
  • cymryd y camau cyntaf tuag at ddatblygu strategaeth DU gyfan ar gyfer rheoli gwastraff lefel isel y sectorau di-niwclear.  Y Llywodraeth fydd yn cymryd y cam cyntaf, ar y cyd â'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear, sef cynnal astudiaeth a fydd yn rhoi darlun clir o'r gwastraff a gynhyrchir ledled y DU.

Mae'r polisi wedi'i ddatblygu gyda chymorth rhanddeiliaid, gan gynnwys dau weithdy cenedlaethol i randdeiliaid a gynhaliwyd yn ystod 2005: y cyntaf i drafod y prif faterion; a'r ail i drafod drafft cyntaf y ddogfen ymgynghori sydd wedi cael ei newid yn sylweddol ers hynny.  Cafwyd trafodaethau â rhanddeiliaid yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus, ac yn dilyn hynny, cyfarfodydd i drafod materion a godwyd yn yr ymatebion a ddaeth i law.  Mae'r datganiad polisi a gyhoeddwyd heddiw yn adlewyrchu'r broses ymgysylltu honno.