Diben: Cyflwyno ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i adroddiad craffu’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Trefniadau Etholiadol yng Nghymru.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn croesawu’r adroddiad hwn fel cyfraniad at y drafodaeth sydd ar y gweill ar foderneiddio’r broses etholiadol gyda’r bwriad o annog y niferoedd uchaf posibl i fod yn rhan o’r broses ddemocrataidd.
Mae’r ymatebion i argymhellion yr Adroddiad wedi’u nodi isod mewn print italig.
Crynodeb o’r argymhellion
1. Rydym yn argymell y dylai’r Grŵp Cynllunio Etholiadau gydgysylltu’r gwaith o gofrestru etholwyr ledled Cymru ac ymchwilio i gyfloedd o ran rhesymoli costau a chapasiti staff
Ymateb: Swyddogaeth llywodraeth leol yw cofrestru etholwyr. Mae hybu’r gwaith cofrestru yn swyddogaeth i lywodraeth leol a’r Comisiwn Etholiadol fel ei gilydd. Bydd y Grŵp Cynllunio Etholiadau yn gweithio fel hwylusydd i hybu arferion gorau ledled Cymru a hefyd yn edrych ar y goblygiadau o ran adnoddau a gweithio’n effeithlon.
2. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cynylliad Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ymchwilio i’r modd y bydd dull cydgysylltiedig o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, yng ngoleuni Adroddiad Beecham a’r agenda ar Rhanbartholi Llywodraeth Leol, yn gallu cyfrannu at gamau i ddeilo â materion sy’n ymwbud â chostau a chapasiti sy’n wynebu Swyddogion Cofrestru Etholidadol.
Ymateb – Cefnogi.
3. Rydym yn argymell y dylai’r Grŵp Cynllunio Etholiadau ystyried y goblygiadau hirdymor o ran capasiti ar gyfer cofrestru unigolion fel y nodwyd mewn tystiolaeth gan Gymdeithas yn Gweinyddwyr Etholiadol (AEA).
Ymateb – Nid yw’r ddadl dros gofrestru unigolion yn cael ei derbyn gan bawb .Dylai’r argymhelliad hwn gael ei nodi ond ni ddylid gweithredu arno oni bydd yn ymddangos ei bod yn debygol y bydd cofrestru unigolion yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU.
4. Rydym yn argymell y dylai’r Grŵp Cynllunio Etholiadau weithio gyda’r AEA a’r Comisiwn Etholiadol i gydgysylltu gwaith hyrwyddo ar sail genedlaethol a/neu ranbarthol i gofrestru etholwyr.
Ymateb – Cefnogi.
5. Rydym yn argymell y dylai’r Grŵp Cynllunio Etholidau ymchwilio i’r profiadaua gafwyd o gynlluniau fel y prosiect Hawl i Bleidleisio ac asesu pa mor ddichonol yw rhoi rhaglen ar waith fesul cam ar gyfer grwpiau sydd wedi’u targedu ledled Cymru.
Ymateb – Cefnogi.
6. Rydym yn argymell y dylai’r Cynlluniad wneud pob defnydd o’r pwerau a geir yn Atodlen 11 Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i hyrwyddo cofrestru ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2007- yn benodol y ffaith bod modd cofrestru hyd at 11 niwrnod cyn y diwrnod pleidleisio.
Ymateb – Mae’r pwerau yn Atodlen 2 Deddf Llywodraeth Cymru yn swyddogaethau ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol ac, yn dilyn yr etholiadau, Comisiwn y Cynulliad.
7. Rydym yn argymell bod Comisiwm y Cynulliad sydd i’w sefydlu ar ôl etholiad y Cynulliad yn 2007 yn gwneud pob defnydd o’i bwerau dan baragraffau 5 a 6 Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i hyrwyddo cofrestru ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn y dyfodol.
Ymateb – gweler yr ymateb i argymhelliad 6
8. Rydym yn argymell y dylai’r Grŵp Cynllunio gymryd camau i fonitro agweddau meddwl y cyhoedd at ddiogelwch y system pleidleisio drwy’r post yng Nghymru.
Ymateb – Mae gan y Comisiwn Etholiadol ddyletswydd i adolygu arferion etholiadol. Mae'r argymhelliad hwn yn fwy priodol ar gyfer y Comisiwn a allai gael cais i adrodd i’r Grŵp Cynllunio Etholiadau ar y mater.
9. Rydym yn argymell y dylai’r Grŵp Cynllunio Etholiadau roi arweiniad drwy bennu safonau ar gyfer pecynnau pledleisio drwy’r post sy’n syml ac yn hawdd eu defnyddio ac yn defnyddio iaith sy’n ddealladwy i’r rhan fwyaf o bobl.
Ymateb – Cefnogi.
10. Rydym yn argymell y dylai’r Grŵp Cynlluniom Etholiadau ystyried canllawiau ar gyfer cynghori pobl ynghylch newid eu dull pleidleisio er mwyn sicrhau eu bod yn syml a bod cyhoeddusrwydd digonol ar eu cyfer.
Ymateb – Cefnogi.
11. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn annog Awdurdodau Lleol yng Nghymru i ymgeisio i Lywodraeth y DU i dreialu dulliau pleidleisio electronig.
Ymateb - Cefnogi (fel un o blith nifer o gynlluniau posibl i’w treialu)
12. Rydym yn argymell y dylai’r Grŵp Cynllunio Etholidau gymryd camau i sichrau bod y canllawiau ar fynediad i orsafoedd pleidleisio’n gyson a bod rhwymedigaethau dan Ddeddff Gwahaniaeth ar Sail Anabledd 1995 wedi’u hegluro yn yr holl ganllawiau.
Ymateb: Bydd y Grŵp Cynllunio Etholiadau yn gweithio gyda’r Comisiwn Etholiadol i sicrhau bod canllawiau i swyddogion canlyniadau yn cynnwys darpariaethau sy’n gyson ag Adran 16 Deddf Gweinyddu Etholiadau 2006 sy’n ei gwneud hi’n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i adolygu gorsafoedd pleidleisio yn rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys yr angen i ystyried mynediad i bobl anabl. Bydd yn rhaid i’r Grŵp Cynllunio Etholiadau ystyried hefyd adroddiadau gan SCOPE a chyrff eraill ar faterion yn ymwneud â mynediad.
13. Rydym yn argymell bod unrhyw ganllawiau ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio yn ymdrin ag anghenion etholwyr sydd ag anableddau dysgu.
Ymateb – Dyma fater i’r swyddogion canlyniadau a’r Comisiwn Etholiadol benderfynu yn ei gylch.
14. Rydym yn argymell bod y Grŵp Cynllunio Etholidau yn comisiynu asesiad o anghenion hyfforddi ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio ledled Cymru ynghylch materion sy’n ymwneud â mynediad a’i fod yn pennu cyrff a mecanweithau priodol i ddarparu hyfforddiant.
Ymateb - Bydd y Grŵp Cynllunio Etholiadau yn gofyn am adroddiad ar y mater hwn gan y Comisiwn Etholiadol.
15. Rydym yn argymell y dylid gosod targedau i awdurdodau lleolar gyfer canran y gorsafoedd pleidleisio sy’n gwbl hygrych i rai o bob gallu.
Ymateb – Cefnogi mewn egwyddor. Bydd y Grŵp Cynllunio Etholiadau yn ystyried yr argymhelliad hwn a pha mor ymarferol ydyw.
16. Rydym yn argymell y dylai’r Grŵp Cynulliad Etholidau ystyried pa fecanwaith y gellid ei greu i sichrau y cymerir camu ynghylch unrhyw broblemau a nodir mewn adroddiadau gan reolwyr gorsafoedd pleidleisio ac y rhoddir sylw iddynt fel mater o flaenoriaeth.
Ymateb – Cefnogi mewn egwyddor. Nid yw adroddiadau o’r fath yn cael eu cynhyrchu’n arferol o reidrwydd.
17. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn annog Awdurdodau Lleol yng Nghymru i ymgeisio i Lywodraeth y DU er mwyn cymryd rhan mewn unrhyw gynlluniau peilot sy’n ymwneud â defnyddio lleoliadau gwahanol ar gyfer pleidleisio.
Ymateb – Cefnogi.
18. Rydym yn argymell y dylai’r Grŵp Cynllunio Etholidau ymchwilio i’r cyfle i resymoli costau a darparu gwasanaethau etholiadol mewn modd cydgysylltiedig yng Nghymru a fydd yn caniatáu i weinyddwyr etholiadol a swyddogion canlyniadau gyflawni ey dyletswyddau a’u cyfrifoldebau, gan gynnwys y rhai gyflwynwyd gan Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006, mewn modd effeithiol.
Ymateb – Cefnogi (gweler yr ymateb i argymhelliad 2).
19. Rydym yn argymell y dylai’r Grŵp Cynllunio Etholiadau ysytried dulliau rhanbarthol a chenedlaethol o hyrwyddo pleidleisio gan bobl ifanc.
Ymateb – Cefnogi.
20. Rydym yn argymell y dylai’r Grŵp Cynllunio Etholiadau ystyried rhoi cynlluniau ar waith sydd â’r amcan o hybu pleidleisio gan grwpiau o bobl ifanc sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol ac yn economaidd.
Ymateb – Cefnogi mewn egwyddor. Dylai’r Grŵp Cynllunio Etholiadau ystyried y mater hwn ond efallai nad dyma’r corff priodol i gymryd camau yn hyn o beth.
21. Rydym yn argymell y dylid rhoi sylw penodol yn yr adolygiad cyfredol o’r cwricwlwm, gan gynnwys yr ymgynhoriad cyhoeddus, i’r angen i feithrin amgyffrediad o wleidyddiaeth ymysg pobl ifanc ac i’w dysgu am rolau, polisïau a safbwyntiau pleidiau gwleidyddol yn ogystol â phrosesau gwleidyddol.
Ymateb – Cefnogi mewn egwyddor. Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus eisoes ar y gweill (8 Ionawr – 30 Mawrth 2007) a lluniwyd y fersiwn derfynol o’r cwestiynau ym mis Medi 2006. Mae cyfle i ymgynghori ag ymarferwyr mewn cynhadledd ymgynghori ar y Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol newydd ym mis Mawrth 2007.
22. Rydym yn argymellbod canllawiau i ysgolion ar ddysgu ‘llythrennedd gwleidyddol’ yn cyfeirio’n benodol at ddysgu am bleidiau gwleidyddol a rôl pobl ifanc yn y broses ddemocrataidd yn ogystal â chysynidau gwleidyddol syflaenol.
Ymateb – Cefnogi mewn egwyddor. Mae gwefan yn cael ei datblygu ar hyn o bryd a fydd yn cynnig canllawiau atodol ar gyflwyno’r fframwaith ABCh newydd. Bydd hyn yn fodd o ddiffinio ‘llythrennedd gwleidyddol’, enghreifftiau o arferion effeithiol a chyfeiriadau at fentrau yng Nghymru sy’n cefnogi’r argymhelliad hwn.
23. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygu canllawiau i uwch reolwyr ysgolion a llywodraethwyr er mwyn sichrau cydnabyddiaeth i’r pwysgrwydd o hyrwyddo llythrennedd gwleidyddol ym mywyd yr ysgol mew modd cytbwys ac amhleidiol ac i’w hannog i wahodd cyrff pleidiau gwleidyddol, i ysgolion i hwyluso dadleuonymysg disgyblion.
Ymateb – Cefnogi mewn egwyddor. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi canllawiau o’r blaen i bob ysgol yng Nghymru ar rôl y Cynulliad a sut y gallent gynnwys Aelodau’r Cynulliad yn lleol yn rhan o weithgareddau eu hysgolion.
24. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydgysylltu’r canllawiau y mae’n eu rhoi i ysgolion ar weithrediad cynghorau ysgolion ac ar weithgareddu dinasyddiaeth, i sicrhau bod y rhain yn cyrfannu’n briodol at feithrin amgyffrediad o wleidyddiaeth ymysg disgyblion a bod cysylltiadau priodol yn cael eu creu rhwng gwaithgareddau’r cyngor ysgol a chyunlliau eraill sy’n ymwneud â dinasyddiaeth, fel gwahodd glweidyddion i ysgolion.
Ymateb – Cefnogi mewn egwyddor. Mae canllawiau ar Gynghorau Ysgol eisoes wedi’u hanfon i ysgolion ac Awdurdodau Addysg Lleol. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar wahân ar ‘weithgareddau dinasyddiaeth’ gan fod dinasyddiaeth weithredol yn rhan hanfodol o ABCh. Fodd bynnag mae’r canllawiau atodol gwreiddiol ar ABCh ar gyfer ysgolion yn cynnwys nifer o astudiaethau achos yn dangos arferion da ‘dinasyddiaeth’ a bydd enghreifftiau ar yr agwedd hon yn cael eu cynnwys ar y wefan newydd.
Mae adran ar wefan Cynghorau Ysgol Llywodraeth y Cynulliad
www.schoolcouncilswales.org.uk/cy/index.asp ar gyfer gweithwyr proffesiynol a llywodraethwyr a gellir ei defnyddio hefyd i ddangos ffynonellau eraill o wybodaeth o’r fath.
25. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygu ei strwythurau
Ymateb – Cefnogi. Mae cydgysylltu mentrau yn ymwneud â dinasyddiaeth yn cael eu hystyried ar hyn o bryd yn rhan o’r adolygiad trefniadol o’r Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.
26. Rydym yn argymell y dylid canolbwyntio mewn canllawiau a hyfforddiant ar sichrau bod yr un anogaeth yn cael ei rhoi i’r holl ddisgyblion, beth bynnag fo’u cefndir, i gymryd rhan mewn cynghorau ysgolion a chynlluniau dinasyddiaeth eraill ac y dylai Estyn fonitro cynrychiolaeth a chyfranogiad o safbwynt cydraddoldeb.
Ymateb – Cefnogi. Byddwn yn gofyn i Estyn ystyried monitro’r gynrychiolaeth a’r gyfranogaeth o safbwynt cydraddoldeb.
27. Rydym yn argymell y dylid rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod yr holl ysgolion uwchradd yn rhoi Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) gan defnyddio athrawon y darparwyd hyfforddiant ac adnoddau arbennig iddynt.
Ymateb – Cefnogi mewn egwyddor. Mae Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) yn ‘rhan o’r cwricwlwm sylfaenol ar gyfer yr holl ddisgyblion sydd wedi’u cofrestru mewn ysgolion a gynhelir ac sydd o oed ysgol gorfodol’.
Cyfrifoldeb ysgolion yw cynllunio a chyflwyno rhaglen ABCh eang a chytbwys er mwyn diwallu anghenion penodol dysgwyr 5-16 oed. Mae cyllidebau ysgolion wedi’u datganoli a chyfrifoldeb Cyrff Llywodraethu yw dyrannu arian i fodloni blaenoriaethau penodol ysgolion a nodwyd yng nghynllun datblygu’r ysgol.
28. Rydym yn argymell y dylid Llywodraeth Cynulliad Cymru roi arweiniad drwy hwyluso hyfforddiant i athrawon mewn ABCh, gan ddarparu pecynnau adnoddau ar gyfer hyfforddiant o’r fath a chymorth i athrawon sy’n darparu ABCh.
Ymateb – Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn datblygu nifer o adnoddau dwyieithog ar gyfer yr ystafell ddosbarth bob blwyddyn gan gynnwys ABCh a dinasyddiaeth weithredol. Mae angen i ysgolion ac awdurdodau lleol ystyried anghenion hyfforddi eu staff er mwyn cyflwyno pob rhan o’r cwricwlwm, gan gynnwys ABCh. Mae arian ar gael o'r Gronfa Ysgolion Gwell i’w cefnogi wrth baratoi’r cwricwlwm diwygiedig.
29. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod yr engrhreifftiau a geir o ymarfer da ym maes addysg dinasyddiaeth ac addysg wleidyddol yn cael eu lledaenu’n ddigonol i’r holl ysgolion a grwpiau ieuenctid yng Nghymru
Ymateb – Bydd gwefan Canllawiau Atodol ABCh yn cynnwys astudiaethau achosion ar arferion effeithiol wedi’u targedu at y sector addysg ffurfiol, ysgolion a Cholegau Addysg Bellach. Bwriedir ei lansio yn y gwanwyn 2008.
Bydd Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn ystyried ar y cyd â chydgysylltwyr pobl ifanc sut y gallai’r wybodaeth hon gael ei rhannu ymysg y grwpiau ieuenctid.
Gallai’r wybodaeth gael ei dosbarthu drwy’r Bwletin Polisi Gwaith Ieuenctid a gaiff ei anfon at 850 o weithwyr a sefydliadau allweddol sydd mewn cysylltiad â phobl ifanc o fewn y gymuned yn bennaf. Gallai’r wybodaeth gael ei dosbarthu hefyd drwy rwydweithiau sydd eisoes yn bod ac a reolir gan grŵp o Brif Swyddogion Ieuenctid, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol a’r Partneriaethau Pobl Ifanc
30. Rydym yn argymell bod Comisiwn y Cynulliad a’r awdurdodau lleol yng datblygu cynlluniau sy’n cynnig cylfleoedd i bobl ifanc a wahanol gefndiroedd i gysodi gwleidyddion etholedig yn y Cynulliad ac mewn Llywodraerth Leol, ac i gymryd rhan mewn dadleuon gyda gwleidyddion. Dylai cynlluniau o’r fath roi sylw i arferion da a geir yng Nghymru ac mewn mannau eraill.
Ymateb – Cefnogi.
31. Rydym yn argymell y dylai fod yn ofynnol darparu cymorth a chyngor dwyieithog i bobl drwy’r prosesau cofrestru a phleidleisio yn yr holl ardaloedd etholiadol yn Nghymru. Os nad yw’n bosibl cael staff dywiethiog yn bresennol, dylai pobl allu cael cyngor personol yn eu dewis iaith, drwy rif rhadffon, er enghraifft.
Ymateb – Cefnogi mewn egwyddor. Mater i’r swyddogion cofrestru etholiadol a swyddogion canlyniadau i benderfynu yn ei gylch yw hwn.
32. Rydym yn argymell y dylid darparu cyngor a chymorth i rai penodol mewn ieithiodd heblaw’r Gymraeg a’r Saesneg, drwy’r prosesau cofestru a phleidleisio, mewn ardaloedd etholiadol yng Nghymru yn ôl yr angen.
Ymateb – Cefnogi. Yn unol ag Adran 36 y Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 dylai dogfennau i’w dosbarthu neu eu harddangos i bleidleiswyr fod ar gael mewn ieithoedd heblaw am Gymraeg a Saesneg fel y bo’n briodol.
33. Rydym yn argymell y dylid gwneud ymdrech barhaus i beri i’r holl ddeunyddiau etholiadol yng Nghymru fod yn fwy dealladwy ac i roi pob sylw i anghenion pobl sydd ag anableddau dysgu, rhai sydd â llythrennedd cyfyngedig a rhai nad yw’r Gymraeg neu’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.
Ymateb – Cefnogi. Gweler hefyd adran 36 (gweler 32 uchod).
Amseru
Bydd camau gweithredu ar gyfer y Grŵp Cynllunio Etholiadau yn cael eu hystyried yn eu cyfarfod ym mis Mehefin a bydd cynllun gweithredu yn cael ei baratoi hefyd. Bydd camau i’w cymryd gan Lywodraeth y Cynulliad ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cael eu rhoi ar agenda cyfarfod dwyochrog gydag arweinwyr CLlLC ar ddechrau’r weinyddiaeth nesaf, gyda chytundeb y Gweinidog newydd.
Goblygiadau ariannol
Nid oes goblygiadau ariannol sylweddol i ymateb Llywodraeth y Cynulliad o safbwynt y Cynulliad na llywodraeth leol. Gallai nifer o’r ymatebion i’r awgrymiadau arbed arian i’r awdurdodau lleol. Bydd angen i’r grwp cynllunio etholiad drafod yr ymatebion hyn ym mhellach, gall hyn arwain at geisiadau am arian a gaiff ei benderfynu yn unigol.