Skip to content

Ysgrifenedig - Ffliw'r Adar

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig
  1. Dyma fanylion hanes yr achos diweddar o ffliw adar pathogenedd isel yn ardal Corwen, Sir Ddinbych.  Ar 17 Mai, cysylltodd milfeddyg preifat â'r Asiantaeth Labordai Milfeddygol yn yr Amwythig, Iechyd Anifeiliaid (AH) Caernarfon a Defra ar ôl i 10 iâr farw dros gyfnod o ddyddiau ar fferm ger Corwen. Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw anfonodd dair iâr i'r Amwythig am brofion a chafodd samplau eu hanfon i'r VLA yn Weybridge am brofion pellach. Ymchwiliad cyffredin oedd hwn bryd hynny a doedd neb yn credu ar y pryd eu bod yn ymdrin â chlefyd hysbysadwy.
  2. Ar fore 23 Mai, cysylltodd y VLA â Defra i ddweud bod y canlyniadau cyntaf yn awgrymu eu bod yn ymdrin â math H7 o ffliw adar.  Rhoddodd Defra wybod i swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru. Rhoddwyd y fferm yng Nghorwen o dan gyfyngiad, cymerwyd samplau oddi arni a chynhaliwyd archwiliad clinigol o'r adar.  Dechreuodd Iechyd Anifeiliaid olrhain yr adar yn ôl i farchnad Chelford ac ymchwilio i safleoedd y cafodd adar o'r farchnad y diwrnod hwnnw eu hanfon iddynt. Ymhlith yr adar hynny oedd 11 o gywion hwyaid ar safle yn St Helens, Swydd Gaerhirfryn lle bu rhai ohonynt farw.
  3. Roedd unigolyn a oedd wedi bod ym marchnad Chelford, erbyn hynny mewn ysbyty gyda salwch ffliwaidd ac ar 16 Mai, bu'n rhaid i un o geidwaid y cywion hwyaid hefyd fynd i'r ysbyty gyda symptomau tebyg. Roedd y cywion hwyaid i'w gweld yn iach ac wedi ymateb yn negyddol i'r profion ffliw adar.
  4. Ar brynhawn 23 Mai, penderfynodd Prif Swyddogion Milfeddygol Cymru a'r DU y dylid difa'r adar oedd yn weddill ar y safle oherwydd amheuon am ffliw adar.  Ers cael gwybod bod ffliw adar H7 ar yr adar yng Nghorwen ond heb wybodaeth bellach am y math hwn o ffliw na'i bathogenedd, cytunwyd i weithredu protocol llym i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
  5. Y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol oedd yn arwain y gwaith o ddiogelu iechyd y cyhoedd, hynny mewn cydweithrediad â'r Asiantaeth Diogelu Iechyd. Cynigiwyd y cyffur gwrthfeirysol pryffylactig cyn-gysylltiol, Oseltamivir, i bawb oedd yn ymchwilio i'r clefyd ac yn ei reoli ac a allai ddod i gysylltiad â'r clefyd a rhoddwyd triniaeth ar unwaith i bawb a oedd wedi dod i gysylltiad ag adar heintiedig ers i symptomau'r clefyd ymddangos yn yr haid. Erbyn 24 Mai, roedd saith o bobl oedd yn dioddef o salwch ffliwaidd ac a oedd wedi bod mewn cysylltiad â dau safle ag arnynt adar sâl, o dan oruchwyliaeth.  Ymatebodd pedwar ohonynt yn bositif i brofion ffliw A ac roedd dau o'r rhain wedi ymateb yn bositif hefyd i brawf ffliw H7. Ystyriwyd bod y pedwar achos oedd wedi'u cadarnhau yn gysylltiedig â'r achos yng Nghorwen ac roedd tri ohonynt mewn ysbyty ac yn gwella yno. Gan nad oedd yn glir a oeddynt i gyd yn sâl am iddynt ddod i gysylltiad ag adar sâl, nid oedd modd diystyru'r posibilrwydd y gallent fod wedi'u heintio gan bobl eraill. Yn ystod yr achos, cafwyd bod cyfanswm o 360 o bobl o bosibl wedi bod mewn cysylltiad neu wedi dal yr haint, er mai dim ond pedwar achos o heintio gafodd eu cadarnhau.
  6. Rhoddwyd gwybod i Ganolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop (ECDC) yn Stockholm a chafodd rhybudd ei baratoi ar gyfer y WHO ac ar gyfer ei ledaenu trwy System Rhybuddio ac Ymateb Brys yr UE (EWRS).
  7. Yn fore ar 24 Mai, cadarnhaodd y VLA mai ffliw adar H7N2 pathogenedd isel oedd y clefyd a chadarnhawyd y clefyd gan CVO Cymru. Aeth Llywodraeth y Cynulliad ati ar unwaith i greu parth cyfyngedig o 1km o gwmpas y safle heintiedig.
  8. Anfonodd Iechyd Anifeiliaid rybudd at bawb ar gofrestr dofednod Prydain Fawr. Sefydlwyd Canolfan Rheoli Clefydau Leol yng Nghaernarfon a Chanolfan Rheoli Clefydau Genedlaethol i gydlynu ymatebion carfanau perthnasol, gan gynnwys Llywodraeth y Cynulliad, yr Adran Iechyd, yr Asiantaeth Diogelu Iechyd a Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru. Sefydlodd Cymru ei Chanolfan Gydgysylltu i ddelio â'r agweddau sy'n effeithio ar iechyd pobl ac iechyd anifeiliaid.
  9. Ar 24 Mai, cafodd gweddill yr adar ar y safle eu difa. Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Alban a Lloegr eu bod yn gwahardd crynhoi ieir a hwyaid.
  10. Cafodd cyfarfod o swyddogion y Pwyllgor Argyfyngau Sifil Posibl (COBR) ei gynnull i sicrhau bod gwaith pob rhan o'r Llywodraeth yn cael ei gydgysylltu.
  11. Mae Iechyd Anifeiliaid wedi gwneud llawer iawn o waith olrhain, archwilio a samplu. Mae canlyniadau mwyafrif y profion wedi bod yn negyddol. Cafwyd hyd i'r haint mewn samplau o haid fechan yn ardal Preston, ac mae cyfyngiadau wedi'u gosod ar y safle. Mae parth cyfyngedig o 1km wedi'i sefydlu. Nid yw'r Asiantaeth Diogelu Iechyd na Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru wedi cael hyd i achosion pellach mewn pobl ac mae cyfnod magu'r clefyd o 21 diwrnod ers 7 Mai wedi mynd heibio. Codwyd y gwaharddiad ar grynhoi ieir a hwyaid ar 1 Mehefin.
  12. Os na cheir rhagor o achosion yn y cyfamser, bwriad Llywodraeth y Cynullaid yw codi'r parth cyfyngedig o gwmpas Corwen ar 15 Mehefin, sef wedi'r cyfnod gofynnol o 21 diwrnod.
  13. Mae epidemioleg yr achos yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd a chaiff adroddiad ei gyhoeddi arno pan ddaw i ben.