Addewais, rhai misoedd yn ôl, y buaswn yn gwneud datganiad i’r Cynulliad ar y trafodaethau â Chomisiwn Ewrop ar y rhaglenni cydgyfeirio ar gyfer gorllewin Cymru a’r Cymoedd, pan fyddai camau sylweddol ymlaen wedi eu cymryd. Mae’r diwrnod hwnnw wedi cyrraedd erbyn hyn.
Gwnaethom gyflwyno rhaglenni drafft cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop a chronfa gymdeithasol Ewrop i’r comisiwn yn fuan cyn y Nadolig. Bu’r rhaglenni hyn yn destun negodi dwys a helaeth â’r adrannau gwahanol o’r comisiwn ac er ein bod wedi arwain y broses honno, ymgynghorwyd yn llawn â’n partneriaid yng Nghymru a chawsant eu cynnwys yn llawn ar bob pwynt perthnasol. Cymru yw’r rhan gyntaf o’r DU i gyflwyno unrhyw un o’i rhaglenni i’r comisiwn ac mae’n hanfodol ein bod yn cynnal y momentwm hwn er mwyn rhoi’r rhaglenni ar waith cyn gynted â phosibl. Yr wyf yn falch felly, imi gael llythyr ddydd Llun gan y Comisiynydd Hübner a nododd:
‘I am delighted to confirm that my services in DG Regional Policy have reached an agreement with WEFO on all items of substance for the ERDF convergence programme. This is a significant achievement’.
Felly, mae’n bleser gennyf roi gwybod i’r Aelodau nid yn unig mai ni yw’r rhan gyntaf o’r DU i ddod i gytundeb â’r UE, ond ein bod ymhlith y cyntaf yn Ewrop hefyd. Er y bydd yn cymryd ychydig o wythnosau eto i gwblhau’r trefniadau cyfreithiol arferol, yr ydym bellach mewn sefyllfa i symud ymlaen gyda gwir benderfyniad.
Felly beth nesaf i’r bobl, y cymunedau a’r busnesau yn y gorllewin a’r Cymoedd? Yn gyntaf, mae gennym y cyfle i barhau â’r gwaith a ddechreuwyd gennym drwy gyfrwng Amcan 1 a pharhau â’r gwaith o drawsnewid economi’r rhanbarth. Bydd y rhaglenni cydgyfeirio yn cyflwyno £1.42 biliwn ychwanegol o grant Ewropeaidd. Mae’r rhaglen ERDF gytûn ei hun yn cyflwyno £856 miliwn i helpu gwaith ymchwil a datblygu, arloesedd, menter, trafnidiaeth, seilwaith strategol, ynni, yr amgylchedd a chymunedau cynaliadwy. Pan ychwanegir arian cyhoeddus nad yw’n arian Ewropeaidd a buddsoddiad o’r sector preifat, mae hyn yn cyfateb i fuddsoddiad o dros £2 biliwn. Yn ail, gallwn fynd ati yn awr mewn gwirionedd i wneud y gwaith. Bydd y fframweithiau strategol newydd yn helpu i sicrhau bod prosiectau newydd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol er mwyn cychwyn ar y gwaith cyflawni yn gynnar. Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru eisoes yn paratoi ar gyfer hyn. Yr ydym wedi penodi aelodau arbenigol Pwyllgor Monitro Rhaglenni newydd Cymru Gyfan a byddwn yn gwahodd enwebiadau gan sectorau ar gyfer eu haelodau cynrychioladol. Disgwylir i’r pwyllgor newydd gyfarfod am y tro cyntaf ddechrau mis Mai.
Mae’r cytundeb y daethpwyd iddo gyda’r Comisiwn Ewropeaidd yn dyrannu £215 miliwn i’n helpu i greu economi ar sail gwybodaeth, yn unol ag agenda Lisbon ar gyfer twf, sgiliau a swyddi; £132 miliwn i annog datblygiad a thwf busnesau newydd a phresennol; £147 miliwn ar gyfer trafnidiaeth, sy’n gynnydd o 50 y cant ar y gyllideb trafnidiaeth cronfeydd strwythurol bresennol; £79 miliwn i ddatblygu safleoedd busnes ac adeiladau newydd; £54 miliwn ar gyfer buddsoddi mewn ynni glân ac adnewyddadwy; £52 miliwn i fynd i’r afael â risgiau amgylcheddol; a £52 miliwn arall i hyrwyddo technolegau amgylcheddol. Mae hynny oll yn rhan o’r rhaglen addasu i newid yn yr hinsawdd. Mae £108 miliwn hefyd i adnewyddu ein hardaloedd mwyaf difreintiedig drwy wella canolfannau trefol ac ysgogi potensial economaidd ein cymunedau.
Ceir cynnydd da hefyd o ran cronfa gymdeithasol Ewrop, a rhagwelir y ceir cytundeb terfynol o fewn yr ychydig wythnosau nesaf. Byddai’r rhaglen hon yn cyflwyno grant Ewropeaidd ychwanegol o £571 miliwn, gan gyflwyno rhaglen fuddsoddi gwerth dros £1.1 biliwn i wella sgiliau’r gweithlu a lleihau anweithgarwch economaidd yn y gorllewin a’r Cymoedd. Yn gryno, felly, gallwn edrych ymlaen at fuddsoddiad ychwanegol sydd ymhell dros £3 biliwn yn y gorllewin a’r Cymoedd.
Mae’r cytundeb hwn hefyd yn caniatáu imi sôn am ddigonolrwydd arian cyfatebol, sy’n hanfodol ar gyfer cyflwyno’r rhaglenni newydd yn llwyddiannus. Mae ein hanes o ran darparu arian cyfatebol ar gyfer rhaglenni 2000-06 yn siarad drosto’i hun. Dengys y ffeithiau bod ein hasesiad yn 2000 yn hollol gywir, na fyddai unrhyw brosiect da yn methu oherwydd diffyg arian cyfatebol ac y gallem gyflawni ein rhwymedigaethau i ddarparu arian cyfatebol o fewn cyllidebau presennol a heb leihau’r ddarpariaeth ar gyfer ein rhaglenni craidd. Mae’r un llif arian hwnnw yn bodoli ar gyfer ein llinellau cyllideb a bydd yn parhau i fod ar gael at ddibenion cronfeydd strwythurol y cylch newydd ar gyfer y cyfnod 2007-13 wrth i brosiectau’r hen gylch ddod i ben.
Mae’r rhaglenni newydd yn alinio yn llawer agosach â nodau strategol y Llywodraeth ei hun, ac i’r gwrthwyneb. Mae’r dull newydd hwn o alinio yn hwyluso’r defnydd o wariant Llywodraeth y Cynulliad i ddarparu arian cyfatebol ar gyfer prosiectau, sydd yn cynyddu’r adnoddau sydd ar gael i’w defnyddio, heb unrhyw gost ychwanegol, yn ogystal â dod â gwariant y gronfa strwythurol at wraidd yr hyn a wnawn fel Llywodraeth. Fel gyda rhaglenni 2000-07, bydd cyfraniadau arian cyfatebol yn parhau i gael eu gwneud gan rannau eraill o’r sector cyhoeddus—drwy noddwyr prosiect, yn arbennig—gan y sector gwirfoddol ac, yn bwysig, gan y sector preifat. Mae hynny’n sail gref dros hyderu y byddwn yn gallu bodloni’r gofynion o ran darparu arian cyfatebol ar gyfer y rhaglenni newydd. Hoffwn ailadrodd na fydd unrhyw brosiect cymwys o safon yn methu oherwydd diffyg arian cyfatebol. Ni fydd angen gwneud cais am adnoddau ychwanegol gan y Trysorlys ac ni wnaf hynny. Yr ydym wedi profi, drwy gyflwyno’r hen raglenni, y gallwn hefyd gyflwyno’r rhai newydd heb orwario.
Byddaf hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y cynnydd a wnaed gennym gyda rhaglenni’r dwyrain. Cyflwynwyd y rhain i’r comisiwn ddechrau mis Mawrth ac maent bellach wedi pasio’r prawf derbynioldeb ffurfiol. Disgwyliwn i’r negodiadau ar y rhaglenni hyn a’r rhaglen drawsffiniol rhwng Cymru ac Iwerddon fynd rhagddynt maes o law. Nid damwain yw’r ffaith bod y rhaglenni’n gwneud cynnydd cystal. Yr wyf wedi bod yn benderfynol y dylai fy Llywodraeth ystyried, croesawu a theilwra polisïau’r comisiwn ar ddatblygu economaidd, sgiliau a’r amgylchedd a’u hymgorffori yn ein polisïau a’n strategaethau ar gyfer Cymru, ac o ran cydgyfeiriant yn benodol.
Hoffwn gloi drwy longyfarch partneriaeth Cymru am fod y cyntaf yn Ewrop. Datblygwyd y rhaglenni drwy ymgynghori’n agos ag undebau llafur, cyrff cydraddoldeb, addysg uwch a phellach, asiantaethau’r amgylchedd, awdurdodau lleol, a’r sectorau preifat, gwirfoddol a chymunedol dros gyfnod o tua 18 mis. Mae’r bartneriaeth wedi dangos undod gwirioneddol o ran diben ac mae’n argoeli’n dda y caiff y rhaglenni newydd eu gweithredu’n llwyddiannus.
Hoffwn ddiolch hefyd i’n tîm negodi, a fu’n gweithio o dan bwysau mawr dros yr wythnosau diwethaf i gwblhau’r cytundeb hwn, a thîm Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, a fu’n gyfrifol am baratoi rhaglenni o safon.