Skip to content

Ysgrifenedig - Cyllideb 2007 ac Adroddiad Lyons

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Sue Essex, Y Gweinidog Dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

 Cyflwynwyd Cyllideb y DU gan Ganghellor y Trysorlys yr wythnos diwethaf a rhoddwyd i Gymru adnoddau ychwanegol am y pedair blynedd nesaf. Mae’r adnoddau hynny yn ychwanegol at y dyraniadau a wnaed yn yr Adroddiad Rhag-gyllidebol fis Rhagfyr diwethaf. Disgwyliwn i ddyraniadau pellach gael eu gwneud yn hwyrach eleni wrth i’r Adolygiad Cynhwysfawr ar Wariant yn y DU ddod i’w derfyn.

O ganlyniad i reolaeth economaidd ddarbodus Llywodraeth y DU cawsom gyfnod o dwf cadarn a hir mewn gwariant cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r twf yn y dyfodol yn debygol o fod ar lefelau ychydig yn is ac yn sicr islaw’r 6 y cant o ran twf cyfartalog mewn termau real ar Derfyn Gwariant Adrannol y Cynulliad dros y 7 mlynedd diwethaf. Mae cael y gwerth uchaf am arian er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus o’r safon uchaf yn y modd mwyaf effeithiol yn un o’n blaenoriaethau uchaf.

Clustnodwyd dros £1 biliwn i Gymru am y pedair blynedd nesaf gan yr Adroddiad Rhag-gyllidebol a’r Gyllideb. Rydym hefyd wedi derbyn £10 miliwn am y flwyddyn ariannol nesaf – y flwyddyn derfynol ar gyfer y cyfnod adolygu gwariant presennol. Yn y cyfnod rhwng 2008-09 a 2010-11 bydd Cymru yn derbyn £1.156 biliwn ychwanegol fel y dengys y tabl isod. Adlewyrcha’r adnoddau hyn ran gyntaf dyraniadau canlyniadol Barnett a ddaw yn sgil yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant.

Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant

 

£ mililwn

2007-08

2008-09

2009-10

2010-11

Cyfanswm

Cyfalaf

0.4

13.5

40.8

101.0

155.7

Refeniw

9.3

166.6

321.7

512.0

1,009.7

Cyfanswm

9.7

180.2

362.5

613.0

1,165.4

 

 
Clustnodwyd y £10 miliwn ar gyfer 2007-08 yn rhan o Gyllideb Derfynol Llywodraeth y Cynulliad ac fe’i cymeradwywyd gan y Cyfarfod Llawn ar 13 Rhagfyr 2006. Gan fod mantolen yr adnoddau yn ymwneud â’r cyfnod cyllidebol nesaf, nid oes gennym gynlluniau i wneud unrhyw benderfyniadau ynghylch eu dyrannu tan yn hwyrach eleni. Bydd y cyllid yn cael ei ychwanegu at ein cronfeydd canolog, ynghyd ag unrhyw ychwanegiadau a’i ddosbarthu yn unol â nodau ac amcanion polisi Llywodraeth newydd y Cynulliad.

Wrth wneud ei ddatganiad, eglurodd y Canghellor hefyd na fydd canlyniad yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn y DU yn cael ei gyhoeddi tan yr hydref. Mae goblygiadau i hyn o ran amseru proses gyllidebol y Cynulliad a chaniatáu digon o amser i ystyried a dadlau cynigion y Llywodraeth. Bydd y Llywodraeth newydd yn ystyried beth yw’r ffordd orau o reoli’r sefyllfa.

Ar yr un diwrnod â’r Gyllideb, cyhoeddodd Syr Michael Lyons ei adroddiad ‘Place-shaping: A shared vision for the future of local government’. Mae a wnelo’r adroddiad â llywodraeth leol yn Lloegr ac mae Syr Michael wedi gofalu i beidio ag ystyried llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn un sylweddol ac yn ymwneud â nifer o faterion. Mae’n dda gennym weld ei fod, mewn nifer o feysydd, yn adleisio’r hyn y mae Jeremy Beecham eisoes wedi’i ddweud am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â’r meysydd hynny yr ydym eisoes wedi ymdrin yn benodol â hwy drwy ein datganiad polisi ar lywodraeth leol, ‘Rhannu Cyfrifoldeb’.

Mae Sir Michael yn tynnu sylw at nifer o feysydd lle gallai’r mecanwaith o ariannu llywodraeth leol gael ei ddiwygio, yn arbennig yng nghyd-destun trethi lleol. Bydd ei ganfyddiadau yn sicr o ysgogi llawer o ddadlau ac rydym yn croesawu’r cyfle i ystyried y materion hyn yng Nghymru hefyd. Wrth i’r polisi ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru gael ei ddatganoli, mater i Lywodraeth y Cynulliad fydd ystyried a phenderfynu a ydyw unrhyw rai o’r argymhellion yn ddilys yma hefyd.

Rwyf yn hynod falch bod Syr Michael wedi awgrymu symud system Budd-daliadau’r Dreth Gyngor i system o ad-daliadau ac y dylid codi’r trothwy cyfalaf uchaf o £16,000 i £50,000. Dylid croesawu newid o’r fath gan y bydd yn golygu y bydd y rheini sydd â hawl i fudd-daliadau yn eu derbyn yn awtomatig. Gwnaethom bwyso am hyn yn ein cyflwyniad gerbron yr Ymchwiliad. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn ystyried y cynigion yng ngoleuni’r hyn sy’n ymarferol ac yn fforddiadwy ochr yn ochr â’r blaenoriaethau ar gyfer y systemau trethi a budd-daliadau yn eu cyfanrwydd. Byddwn yn eu hannog i weithredu’r newidiadau hyn mor fuan ag y bo modd.

Dywedodd Syr Michael hefyd y dylai ardrethi busnes gael eu cadw yn fras fel y maent ac y dylid cadw uchafswm y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI). Fodd bynnag, awgrymodd rai newidiadau i’r esemptiadau a’r cynlluniau rhyddhau rhag talu sydd ar gael, er enghraifft diwygio’r rhyddhad rhag talu ar eiddo gwag. Croesawaf y symudiad hwn. Mae hefyd wedi nodi y dylai awdurdodau lleol gael pŵer i godi ardrethi busnes atodol at ddibenion penodol. Unwaith eto, mae hwn yn fater i Lywodraeth newydd y Cynulliad ei ystyried ar ôl yr etholiad.