Skip to content

Llafar - Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan,Y Brif Weinidog
Lywydd, diolch am y gwahoddiad, yr wyf yn bwriadu ei dderbyn, i wneud datganiad ar raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth am y flwyddyn sydd i ddod.

O safbwynt ein gwaith sylfaenol o ddiogelu a hybu buddiannau bara menyn pwysicaf pobl Cymru, dim ond un o’r arfau sydd ar gael i’r Cynulliad hwn yw deddfwriaeth. Ochr yn ochr â’r rhaglen yr wyf ar fin ei hamlinellu, bydd blaenoriaethau polisi pwysig o ran datblygu economi Cymru, ymateb i her y newid yn yr hinsawdd a mynd i’r afael â thlodi plant, yn ogystal â blaenoriaethau parhaus ym meysydd iechyd, addysg, tai a chyfiawnder cymdeithasol.

Yr wyf yn gadarn o’r farn y gellir datblygu consensws blaengar ynghylch rhaglen o’r fath, lle byddwn yn defnyddio’r dulliau sydd wedi bod ar gael i’r Cynulliad dros yr wyth mlynedd diwethaf, wedi eu cyfuno â’r cyfleoedd deddfwriaethol newydd a ddaw i’n rhan am y tro cyntaf yn ystod y trydydd Cynulliad. Bydd trosi rhaglen bolisi flaengar sy’n cwrdd â gofynion pobl ein gwlad yn gamau gweithredu yn brawf o ewyllys gwleidyddol a gallu gwleidyddol. Cyn belled  â bod y weinyddiaeth Lafur hon yn y cwestiwn, yr wyf yn rhoi fy ngair i bobl Cymru a’r Cynulliad fod ewyllys gwleidyddol o’r fath i wrando, ymestyn, dangos parodrwydd a chydweithio yn bodoli. Byddwn yn ei dangos yn y modd y byddwn yn mynd ati i weithredu fel Llywodraeth leiafrifol. Mae Llywodraeth leiafrifol yn Llywodraeth, ond mae’n Llywodraeth sydd byth yn rhoi’r gorau i wrando ar y negeseuon yr ydym yn eu clywed gan y bobl, a bydd yn golygu bod drysau a meddyliau gweinidogol bob amser yn agored.

Mewn deddfwriaeth, wrth gwrs, y canfyddir un o brif nodweddion gwahaniaethol y trydydd Cynulliad. Drwy gyfrwng y cymalau fframwaith yn neddfwriaeth San Steffan i Gymru a Lloegr, mae gennym eisoes y gallu i ddod â Mesurau Cynulliad i rym mewn ambell faes allweddol. Pan fyddwn yn dod â Mesur i rym, mae ganddo’r un grym â deddfwriaeth sylfaenol. Felly, mae’r Llywodraeth hon yn bwriadu dod â thri Mesur o’r fath ger eich bron i chi graffu arnynt fel rhan o’n rhaglen ddeddfwriaethol gyntaf.

Bydd Mesur unioni camweddau yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn hwyluso’r broses o symleiddio’r ffyrdd y gall cleifion geisio unioni camweddau pan fydd pethau’n mynd o chwith, a, thrwy hynny, wneud y system yn fwy cyson ac yn fwy hygyrch. Bydd yn sefydlu hawliau newydd, prosesau newydd a chanlyniadau newydd ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau’r GIG pan fydd rhywbeth yn mynd o chwith. Ein bwriad yw cyflwyno’r Mesur hwn i’r Cynulliad graffu arno cyn toriad yr haf.

Cyhoeddir Mesur yn ymdrin â materion cludiant byd addysg i ymgynghori arno hefyd cyn toriad yr haf. Mae’r ystod o randdeiliaid sydd â budd arbennig yn y mater hwn yn eang, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â systemau trafnidiaeth integredig, creu system drafnidiaeth gyhoeddus werdd, ac ehangu’r cynllun Llwybrau Diogel i Ysgolion. Felly, bydd ymgynghori cyn y broses ddeddfu yn rhoi cyfle priodol i brofi manylion Mesur o’r fath cyn iddo ddod yn ôl o flaen y Cynulliad i’w ystyried yma.

Bu adolygu cwricwlwm 14 i 19—creu mwy o amrywiaeth o ran cyfleoedd dysgu, er mwyn paratoi ein pobl ifanc yn well i gyfranogi mewn ffordd werthfawr a chynhyrchiol fel oedolion annibynnol sy’n economaidd weithgar—yn fater o ddiddordeb ar draws y Cynulliad. Byddwn, felly, yn cyflwyno Mesur arfaethedig yn yr hydref i roi sail deddfwriaethol o’r newydd i’r maes polisi hwn.

Yn ogystal â’r pwerau a gafwyd drwy gymalau fframwaith i roi’r Mesurau hyn ar waith, mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i’r Cynulliad ei hun allu cychwyn ar y broses o ennill pwerau deddfu o’r Senedd mewn meysydd penodol. Pan fydd y gallu i ddeddfu wedi’i ennill drwy Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol, fel y’u gelwir, bydd y pŵer hwnnw wedi’i ddatganoli i’r Cynulliad am byth. Mae gwaith go iawn i’w wneud, felly, o ran gwneud i’r broses newydd hon weithio’n dda.

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cynnig chwe GCD—os caf ei dalfyrru felly—fel rhan o’n rhaglen ddeddfwriaethol gyntaf, yn ychwanegol at y tri Mesur yr wyf wedi’u hamlinellu. Gobeithiwn gyflwyno tri o’r chwe Gorchymyn hynny cyn toriad yr haf i’r Cynulliad graffu arnynt, er mwyn i’r Cynulliad, gan weithio fel deddfwrfa, gychwyn ar y gwaith o’u hystyried yn fanwl. Yr wythnos nesaf, ein bwriad yw cyflwyno Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol ger eich bron a fyddai’n trosglwyddo mwy o bwerau deddfwriaethol i’r Cynulliad mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn 2002, cynigiodd y Comisiwn Archwilio y dylid ailstrwythuro system ddatganiadau addysg arbennig yn sylfaenol; daeth Estyn i gasgliad tebyg yn 2004, fel ag y gwnaeth Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau y Cynulliad diwethaf. Bwriad y GCD hwn, felly, yw rhoi’r gallu i’r Cynulliad droi’r casgliad hwnnw yn realiti drwy gymeradwyo’r ddeddfwriaeth angenrheidiol

Mewn pythefnos, byddwn yn cynnig Gorchymyn eang mewn perthynas ag amddiffyn yr amgylchedd a rheoli gwastraff. Bydd y Gorchymyn hwn yn cysylltu’r pryderon a fu gan y cyhoedd ers cryn amser ynglŷn â sbwriel a materion amgylcheddol lleol eraill gyda rheolaeth gwastraff cynaliadwy. Un her sylfaenol a wynebwn dros y pedair blynedd nesaf yw gwireddu newid gwyrdd yng Nghymru. Credaf fod nifer o bleidiau yma yn rhannu’r uchelgais honno, ac yr wyf am ddechrau cymhwyso ein gallu deddfwriaethol newydd i’r materion hyn yn syth.

Lywydd, fel y gwyddoch, cynhaliwyd trafodaethau â Phlaid Cymru yn y cyfnod wedi’r etholiad, a nodwyd nifer o eitemau deddfwriaethol posibl. Yr oedd hynny’n cynnwys camau ar iechyd meddwl, cynllunio a thrafnidiaeth. Yr wyf wedi ysgrifennu heddiw at Arweinydd yr Wrthblaid, Ieuan Wyn Jones, ynghylch y materion polisi hyn a materion ehangach, gan gynnig trafodaethau manwl rhwng llefarwyr Plaid Cymru a Gweinidogion.

Yn ystod yr un cyfnod wedi’r etholiad, arweiniodd y trafodaethau rhwng fy mhlaid i a’r Democratiaid Rhyddfrydol imi ddod i’r casgliad y gallai’r Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol yr oeddem yn bwriadu’u cyflwyno ar dai fforddiadwy  gael eu hymestyn yn fuddiol i ddelio â’r syniadau a gyflwynwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol. Yr wyf yn dal i gredu hynny, felly yr wyf wedi ysgrifennu heddiw at Mike German i ofyn iddo enwebu llefarydd o’i grŵp i weithio gyda’r Gweinidog perthnasol. Os daw’r trafodaethau hynny i ben cyn wythnos olaf y tymor hwn, ein bwriad fyddai cyflwyno Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol gerbron y Cynulliad cyn toriad yr haf. Os oes angen mwy o amser i gwblhau cynnig estynedig, byddwn yn ei gyflwyno gerbron y Cynulliad yn yr hydref.

Yn ein trafodaethau â’r Democratiaid Rhyddfrydol edrychwyd hefyd ar gynigion am Orchymyn cymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â’r iaith Gymraeg, ac, eto, yr wyf yn awyddus i gynnwys pleidiau eraill mewn trafodaeth bellach ar y pwnc. Yr wyf am sicrhau bod digon o amser ar gael i weithio tuag at gasgliad y down i gytundeb arno, a byddwn yn gosod y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol hwnnw yn ein rhaglen ar gyfer yr hydref er mwyn caniatáu o leiaf tri mis i’r trafodaethau ddwyn ffrwyth. Wedi hynny, bydd y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol perthnasol yn cael ei gyflwyno ger eich bron.

Cwblheir rhaglen ddeddfwriaethol gyntaf y Cynulliad hwn gan ddau Orchymyn cymhwysedd deddfwriaethol pellach. Ein bwriad yw cynnig Gorchymyn eang ei gwmpas ym maes plant sy’n agored i niwed a thlodi plant. Bydd hyn yn rhoi’r gallu i’r Cynulliad, yn ei dro, gydgrynhoi ac egluro pwnc cyfreithiol dyrys, gan hwyluso’r modd y cyflenwir gwasanaethau i blant sy’n agored i niwed ac i’w teuluoedd gan ystod eang o sefydliadau. Ymhellach, bydd y Gorchymyn hwn yn galluogi’r Cynulliad i osod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus i wneud cyfraniad at fynd i’r afael â thlodi plant ac i ddangos eu hymrwymiad yn glir.

Yn olaf, bydd y Llywodraeth yn cynnig chweched Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol. Bydd hwn yn ceisio pwerau i’r Cynulliad ddeddfu ynghylch taliadau am ofal cartref a gwasanaethau cymdeithasol eraill nad ydynt yn cynnwys gofal preswyl. Yn anffodus, ni wnaeth y dulliau polisi a oedd ar gael inni yn flaenorol greu system mwy unffurf o godi tâl, system y mae defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a’u cynrychiolwyr, fe wyddom, o’i phlaid.

Lywydd, yr wyf wedi amlinellu rhaglen sylweddol sydd â goblygiadau uniongyrchol nid i’r Llywodraeth yn unig, ond i holl Aelodau’r Cynulliad sy’n ymgymryd â’r rôl newydd o graffu sy’n mynd law yn llaw gyda chreu deddfau. Rhaid i bob un o’r naw eitem a gyflwynir heddiw ddilyn y gweithdrefnau newydd a nodir yn ein Rheolau Sefydlog ar ôl y gwahanu. Mae’n siŵr gennyf y bydd pob Aelod Cynulliad yn dymuno chwarae rhan adeiladol yn y trafodaethau hyn a helpu i drosglwyddo’r cymhwysedd deddfwriaethol o San Steffan i Gymru. Mae’n rhaid gwneud hyn er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau datganoledig yn briodol.

Mae’r cynigion hyn yn canolbwyntio ar y materion bara menyn, sef tai, addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tlodi plant a’r amgylchedd. Nid hap a damwain mo hynny. Mae’n sicr mai creu gwell cyfreithiau yw ein hamcan yn hytrach na chreu mwy o gyfreithiau, a chanolbwyntio ein hymdrechion ar wella’r agweddau hynny ar fywyd beunyddiol sy’n effeithio’n fwyaf uniongyrchol ar ein cyd-ddinasyddion.

Edrychaf ymlaen at gydweithio â phawb sy’n rhannu ymrwymiad y weinyddiaeth hon i gonsensws blaengar sydd â’i wreiddiau yng ngwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd, a Chymru arloesol a hyderus.