Skip to content

Llafar - Y Cabinet

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan,Y Brif Weinidog
Bydd Aelodau yn gwybod fy mod wedi penodi fy Nghabinet, ac, yn unol â’r ymrwymiadau a wneuthum cyn yr etholiad, hoffwn hysbysu’r Cynulliad am y penodiadau hyn.

Fel Prif Weinidog, fi fydd yn gyfrifol am gydlynu a datblygu polisi, arfer swyddogaethau’r Cabinet, perthynas Llywodraeth y Cynulliad â gweddill y Deyrnas Unedig, Ewrop a Chymru dramor, y strategaeth wyddoniaeth a staffio a materion eraill y gwasanaeth sifil. Mae’r Cabinet wedi ei ailstrwythuro er mwyn iddo weithio’n fwy effeithiol a chanolbwyntio ar yr heriau mwyaf sy’n wynebu Cymru yn awr, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, tlodi plant, ac adfywio’r cymunedau hynny sydd dan anfantais. Mae nifer y Gweinidogion wedi gostwng o naw i saith, gyda phortffolios mwy cytbwys, ond gyda phob gweinyddiaeth yn cymryd cyfrifoldebau newydd.

Jane Davidson yw’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig, sy’n cynnwys cyfrifoldeb dros newid yn yr hinsawdd, datblygu cynaliadwy, yr amgylchedd, amaethyddiaeth, ynni a chynllunio. Andrew Davies fydd yn ymgymryd â rôl y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, ac ef fydd yn gyfrifol am dlodi plant, tai, cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, llywodraeth leol, y cynllun gofodol, a diogelwch cymunedol. Dr Brian Gibbons yw’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Edwina Hart yw’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a bydd hithau’n gyfrifol am y gwasanaeth iechyd gwladol, iechyd y cyhoedd a gwasanaethau cymdeithasol. Jane Hutt yw’r Gweinidog dros y Gyllideb a Rheoli Busnes, a bydd ei gwaith yn cynnwys cynllunio ariannol a rheolaeth, a rheoli busnes yn y Cynulliad. Bydd hithau’n cadw ei chyfrifoldeb am faterion yn ymwneud â chydraddoldeb a chyfathrebu’r Llywodraeth. Carwyn Jones yw’r Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg, â chyfrifoldeb dros blant a’r blynyddoedd cynnar, ysgolion, plant rhwng 14 a 19 oed, sgiliau, addysg bellach, addysg uwch, y Gymraeg, chwaraeon a’r celfyddydau.
Yn ogystal â’r saith swydd Cabinet hyn, yr wyf wedi penodi Carl Sargeant yn Ddirprwy Weinidog Busnes a’r Prif Chwip, ac, fel y cyfryw, fe fydd yn dod i bob cyfarfod Cabinet.

Yn sgîl Deddf Llywodraeth Cymru 2006, y mae yn awr yn bosibl penodi Dirprwy Weinidogion a chanddynt gyfrifoldebau penodol, er mwyn iddynt gynorthwyo Gweinidogion i gyflawni’u dyletswyddau. Gan hynny, penodwyd Leighton Andrews yn Ddirprwy Weinidog dros gyfiawnder cymdeithasol a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, a chanddo gyfrifoldeb neilltuol dros dai. John Griffiths yw’r Dirprwy Weinidog dros addysg, diwylliant a’r Gymraeg, a chanddo gyfrifoldeb neilltuol dros sgiliau. Huw Lewis yw’r Dirprwy Weinidog i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae ganddo gyfrifoldeb neilltuol dros adfywio. Yn olaf, Gwenda Thomas yw’r Dirprwy Weinidog i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae ganddi gyfrifoldeb neilltuol dros wasanaethau cymdeithasol.

Mae gan y tîm a amlinellwyd gennyf y gallu a’r profiad i ymdrin â’r heriau sy’n wynebu’r trydydd Cynulliad, a hynny wrth wrando ar, a chysylltu â, phobl i greu consensws cydlynol a blaengar i hyrwyddo’r polisïau hynny y mae eu hangen ar Gymru. Daw’r Gweinidogion ag ysgogiad ac ynni newydd wrth fwrw ymlaen i ddefnyddio pwerau newydd y Cynulliad. Wrth wneud hynny, byddant yn cydweithredu ag eraill o safbwynt tebyg ar draws y Cynulliad. Dyma Gabinet sy’n edrych ymlaen at fwrw i’r gwaith y mae pobl Cymru, yn gwbl deg, yn disgwyl o’r Cynulliad, ac fe’i cymeradwyaf ichi.