Skip to content

Llafar - Newidiadau I’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi I Fusnesau Bach

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Dymunaf wneud datganiad am statws eiddo hunanarlwyo dan y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach a gyflwynwyd ar 1 Ebrill eleni.

Mae’r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach wedi disodli’r cynllun rhyddhad ardrethi gwledig blaenorol a gyflwynwyd yn 1998. Ehangwyd y cynllun gwreiddiol ym mis Ebrill 2002 i helpu busnesau gwledig i ddelio ag adladd clwy’r traed a’r genau a gafwyd yn y flwyddyn flaenorol. Yn 2005, penderfynwyd bod y cynllun rhyddhad ardrethi gwledig wedi cyflawni ei nod, ac ymgynghorwyd ynghylch dyfodol y rhyddhad ardrethi i fusnesau ledled Cymru.

Yn gynharach eleni, cynhaliwyd ymgynghoriad arall i ystyried a ddylid newid statws busnesau masnachol sy’n gosod llety hunanarlwyo. Eithriwyd y rhain rhag cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Wrth ymgynghori, yr ymateb llethol oedd cefnogaeth i ddileu’r eithriad hwn a olygai nad oedd busnesau hunanarlwyo’n gallu manteisio ar y cynllun rhyddhad.

Y neges glir o du busnesau yw bod y sector hunanarlwyo’n rhan hanfodol o’r diwydiant twristiaeth, a’i fod yn gwneud cyfraniad economaidd sylweddol, yn enwedig yn ardaloedd gwledig Gymru. Hefyd, mae’n amlwg y dylid trin busnesau hunanarlwyo yn yr un modd ag yr ymdrinnir â chwmnïau bach eraill yng Nghymru o ran rhyddhad ardrethi.

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi felly y byddaf yn newid y Gorchymyn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach er mwyn cynnwys eiddo hunanarlwyo yn y cynllun. Ar sail data a gafwyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, amcangyfrifir bod hyd at 2,870 o fusnesau hunanarlwyo wedi’u heithrio o’r cynllun. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi hefyd y byddaf yn ôl-ddyddio budd y newid hwn i ddechrau’r flwyddyn ariannol hon.

Mae’r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu mai cost y cynllun cyfredol fydd oddeutu £14 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Hyd yn oed ac ystyried y cynnydd yn y gost yn sgil dileu’r eithriad, bydd yn dal i fod o fewn ffigur y gyllideb gyffredinol, sef £17 miliwn.

Bydd y newid a gyhoeddaf heddiw’n golygu bod pob eiddo hunanarlwyo sydd o fewn y bandiau gwerth trethiannol a ragnodwyd, yn awr ac yn y dyfodol, yn cael eu trin yn gydradd â busnesau bach eraill yng Nghymru. Yr wyf wedi gofyn i fy swyddogion roi’r newidiadau angenrheidiol ar waith er mwyn gwireddu’r ddeddfwriaeth hon cyn gynted ag y bo modd.