Skip to content

Ysgrifenedig - Diogelu'r Amgylchedd a Rheoli Gwastraff – Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig
Mae’n bleser gen i gyhoeddi y bydd Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) arfaethedig ym maes diogelu’r amgylchedd a rheoli gwastraff yn cael ei osod heddiw.  

Cafodd y GCD ei ddatblygu yn sgil cyhoeddi’r Strategaeth Amgylcheddol ym mis Mai 2006 ac i ymateb i bryderon am faterion sy’n effeithio ar fywydau trigolion Cymru o ddydd i ddydd.  

Bydd y pwerau hyn yn berthnasol i dri maes – gwella ansawdd amgylcheddau lleol lle mae materion fel sbwriel a thipio anghyfreithlon yn broblem, cynyddu ailgylchu a rheoli gwastraff yn well, a chryfhau’r mesurau i reoli llygredd.

Prif bwrpas y GCD yw rhoi’r pŵer i’r Cynulliad allu pasio Mesurau’r Cynulliad o dan ran 3 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd hyn yn galluogi’r Cynulliad i roi pecyn o fesurau ar waith fydd yn gwella amgylchedd Cymru.