Skip to content

Ysgrifenedig - Darpariaeth a Chyfle o ran Triniaeth ar gyfer Anhwylderau Bwyta

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae ystod o wasanaethau ar gael gan gynnwys gofal sylfaenol a ddarperir gan feddygon teulu, gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau gwirfoddol lleol a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) sy'n cynnig cefnogaeth meddyliol arbenigol. Mae'r gwasanaethau a ddarperir yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw cyflwr y person.

Mae Comisiwn Iechyd Cymru (CIC) yn bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mai 2007 ar gynlluniau i ddatblygu gwasanaeth claf mewnol newydd o fewn CAMHS ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'r cynigion yn nodi y gellir defnyddio adeiladau gwell dros dro yng Nglanrhyd, fydd ar gael yn ystod gwanwyn 2008, tra fydd y gwaith o adeiladu'r cyfleuster parhaol newydd ar safle Ysbyty Tywysoges Cymru yn digwydd yn 2010.

Mae CIC yn gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaethau ar hyn o bryd i ddatblygu cynigion ar gyfer triniaeth amgen i gleifion mewnol. Mae'r cynigion yn cynnwys timau allgymorth arbenigol a chyfleusterau gofal dydd i gefnogi mwy o gleifion yn eu cartrefi, rheoli'r galw a sicrhau mai dim ond y cleifion hynny sydd angen gwasanaethau trydyddol i gleifion mewnol sy'n gorfod teithio i ganolfannau o'r fath.

Mae CIC yn adolygu'r galw fydd yn y dyfodol am welyâu ar gyfer cleifion mewnol yn sgil y  lleihad diweddar yn nifer y cleifion sy'n cael eu derbyn a chynlluniau i ddatblygu gwasanaethau sy'n canolbwyntio mwy ar y gymuned. Bydd canlyniad yr adolygiad yn helpu gyda'r penderfyniad am y nifer o welyâu fydd yn cael eu pennu ar gyfer yr Uned CAMHS ac Anhwylder Bwyta arfaethedig newydd yng Nglanrhyd.