Skip to content

Ysgrifenedig - Gweithredu Argymhelliad Y Corff Adolygu Cyflogau I Roi Codiad Cyflog Yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ar 13 Mehefin, cymeradwyodd y Cynulliad Cenedlaethol gynnig, a gefnogwyd gan yr holl bleidiau gwleidyddol, yn galw am weithredu argymhelliad y Corff Adolygu Cyflogau i roi codiad cyflog llawn i nyrsys.

Yn y ddadl honny, fe wnes i'n glir fod yn rhaid i'r gweithwyr ymddiried yn y system adolygu cyflogau ac yn ei chanlyniad os y bwriedir iddynt fod yn gredadwy.   Rwyf yn gryf o blaid y prosesau cenedlaethol o wneud penderfyniadau ar y cyd sy'n pennu lefelau cyflog nyrsys ac eraill yn y GIG, ac rwyf yn parhau i'w cefnogi. Nid oes gennyf unrhyw fwriad i gefnu ar gyfranogiad Cymru yn y prosesau hyn.

Er hynny, roedd y sylwadau a wnes i yn y ddadl ar 13 Mehefin yn adlewyrchu'r nifer fawr o sylwadau a oedd eisoes wedi dod i law ynghylch y methiant i weithredu argymhellion y Corff Adolygu Cyflogau mewn perthynas â chyflogau nyrsys.

Mae'r sylwadau hyn wedi dod yn uniongyrchol oddi wrth etholwyr,  Aelodau'r Cynulliad, Coleg Brenhinol y Nyrsys ac oddi wrth Unsain.  Dyna pam yr ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn ei hannog i ailagor y trafodaethau â'r Trysorlys er mwyn darparu adnoddau ariannol ychwanegol i fodloni cynigion y Corff Adolygu Cyflogau. Yn anffodus, gwrthodwyd y cais hwnnw.

Ers y ddadl, rwyf wedi cael cyfarfodydd pellach â Choleg Brenhinol y Nyrsys ac ag Unsain. Mae'r ddau gorff wedi ysgrifennu ataf i wedi hynny i gadarnhau y byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn sgil talu'r codiad llawn o 2.5% ac anrhydeddu argymhellion y Corff Adolygu Cyflogau, yn helpu'n fawr i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â morâl y staff, un o'r prif broblemau yr oedd  Aelodau'r Cynulliad wedi’i nodi.

Rwyf felly wedi penderfynu derbyn yr argymhelliad ar gyfer rhoi'r codiad cyflog llawn o 2.5% i Nyrsys a Gweithwyr Proffesiynol eraill ym maes Iechyd ac i holl staff yr Agenda ar gyfer Newid, i'w dalu o 1 Ebrill ymlaen.  Bydd y gost ychwanegol yn cael ei rheoli fel pwysau yn ystod y flwyddyn o fewn cyllideb y portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.