Skip to content

Ysgrifenedig - Damwian Feicio ar yr A547

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Gweinidog Drod Yr Economi a Thrafnidiaeth

Mae'r ddamwain feicio a ddigwyddodd ar 8 Ionawr 2006 ar yr A547 ger Abergele, ac a arweiniodd at farwolaeth pedwar person wedi cael effaith aruthrol ar y sawl a oedd yn gysylltiedig â'r drasiedi.  Mae Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i estyn ei chydymdeimlad at deuluoedd y rhai a fu farw.

Fis diwethaf, rhoddodd y rheithgor ddyfarniad naratif ar ddiwedd y gwrandawiad tair wythnos.  Rwy'n deall bod John Hughes, y Crwner, wedi gwneud argymhellion, ond nad yw'r adroddiad swyddogol yn dal wedi cyrraedd o swyddfa'r Crwner.  Mae'n anochel y bydd gwersi i'w dysgu o'r drasiedi hon ac mae'r Gymdeithas Syrfewyr Sirol eisoes wedi sefydlu gweithgor i adolygu'r gweithdrefnau a'r protocolau sydd ynghlwm wrth faterion trawsffiniol o fewn awdurdodau lleol, gan gynnwys rôl yr Heddlu yn y sefyllfaoedd hyn.

Gallaf gadarnhau y bydd swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i gydweithio'n agos â'r Gymdeithas Syrfewyr Sirol i sicrhau bod unrhyw ganlyniadau sy'n deillio o'r adolygiad yn cael eu hystyried mewn perthynas â'r rhwydwaith cefnffyrdd.