Skip to content

Llafar - Lansio’r Ymgynghoriad ar y Mesur Teithio i Blant a Phobl Ifanc Mewn Addysg

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Brian Gibbons, Gweinidog Drod Yr Economi a Thrafnidiaeth
Yr wyf yn falch o ddatgan y cyhoeddir cynigion drafft ar gyfer y Mesur cyntaf hwn o eiddo’r Cynulliad. Cynigion ynglŷn â theithio i ddysgwyr yw’r rhain, maes sydd wedi ennyn cryn ddiddordeb yn y Siambr.

Cafwyd adroddiad gan y cyn Bwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes ar gludiant ysgol yn 2005. Denodd argymhellion yr adroddiad ddiddordeb a chefnogaeth yn y Siambr a thu hwnt. Gan gydnabod hynny, penderfynodd Llywodraeth y Cynulliad geisio pwerau fframwaith, sydd bellach wedi’u trosi i’r Mesur arfaethedig sydd ger eich bron. Bwriadwn ymgynghori ar y cynigion hyn ar gyfer Mesur, y bwriadaf ei gyflwyno’n ddiweddarach eleni.

Tardda’r gyfraith gyfredol ar gludiant ysgol o Ddeddf Addysg 1944. Dros y blynyddoedd, mae cyfraith achosion wedi cronni, mae statudau wedi’u newid, ac mae pryder y dylid eglurhau a diweddaru’r gyfraith i Gymru. Adroddodd y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes fod diffygion. Ers hynny, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi sefydlu gweithgor rhanddeiliaid i ystyried arferion awdurdodau lleol a pha mor ddigonol yw’r canllawiau i awdurdodau ac ysgolion. O eleni ymlaen yr ydym yn darparu £1 filiwn am bob un o’r tair blynedd nesaf i dalu am fentrau ar y cyd rhwng awdurdodau i wella ymarfer. Fodd bynnag, yn wyneb pwerau newydd y Cynulliad, mae’n bryd edrych ar y gyfraith ei hun. Gwnaethom addewid yn ein maniffesto etholiad y rhoddem flaenoriaeth i gludiant ysgol yn ein rhaglen ddeddfu.

Mae pawb eisiau i fysus ysgol fod yn ddiogel. Bydd miloedd o blant yn teithio ar fws bob dydd. Yn ffodus, ychydig o ddigwyddiadau a geir, ond pan ddigwyddant, gall y canlyniadau fod yn ddifrifol ac weithiau, ysywaeth, yn angheuol. Mae ymddygiad da ar fysus yn hanfodol. Mae cyswllt annatod rhwng ymddygiad a diogelwch. Mae sawl awdurdod lleol wedi cyflwyno codau ymddygiad yn barod, ond mae amheuon ynghylch a ellir gorfodi mesurau effeithiol.

Cynigiaf y dylai’r Mesur fynnu bod awdurdodau lleol yn paratoi codau ymddygiad mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid—yn bwysicaf oll y disgyblion eu hunain, y rhieni a’r ysgolion. Byddai’r codau’n gysylltiedig â pholisïau ymddygiad yr ysgol—sydd eisoes yn destun deddfwriaeth. Bydd prifathrawon yn gallu cosbi ymddygiad drwg ar fysus, yn union fel pe bai wedi digwydd ar dir yr ysgol.

Fodd bynnag, nid ymddygiad yn unig sy’n effeithio ar ddiogelwch. Cafwyd diffyg eglurder cyfreithiol ynglŷn â beth yw trefniadau teithio priodol i ysgolion, ac mae arnaf eisiau mynd i’r afael â hyn. Cynigiaf na ddylid dyfarnu bod trefniadau a wneir gan awdurdodau lleol yn rhai addas oni bai eu bod yn rhoi ystyriaeth briodol i faterion diogelwch, bod hyd y siwrnai’n rhesymol, ac nad ydynt yn achosi lefelau straen gormodol i ddisgyblion.

Mae pryder wedi’i leisio yn y Cynulliad, a ledled Cymru, am faterion ynglŷn â diogelwch bysus ysgol, megis y defnydd o fysus deulawr, defnydd y consesiwn eistedd tri yn lle dau, a darpariaeth gwregysau diogelwch. Credaf y gallwn gymryd camau sylweddol ymlaen trwy fynnu bod awdurdodau’n gwneud trefniadau addas ar gyfer diogelwch a materion eraill, ac ategu hynny â chanllawiau statudol, fel a ddarperir yn y Mesur a gynigir.

Fodd bynnag, sylweddolaf nad oes gennym na’r gallu gweithredol na’r cymhwysedd deddfwriaethol dros ddiogelwch, gwneuthuriad a gweithrediad cerbydau—nid yw’r materion hyn wedi’u datganoli o’r Adran Drafnidiaeth i Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y Mesur arfaethedig hwn yn sicrhau cryn symud ymlaen o fewn ein pwerau presennol. Os gwneir yr achos dros drosglwyddo pwerau pellach, a Mesur arall, yna fe’i hystyriwn. Fodd bynnag, ni ddylai hynny fod yn rheswm inni beidio â deddfu’n awr o fewn ein pwerau presennol.

Mater arall y bwriadaf fynd i’r afael ag ef yn y Mesur arfaethedig hwn yw cymhwysedd i dderbyn cludiant ysgol. Mae’r ddeddf gyfredol yn defnyddio oed dysgwr, a’r pellter a deithir, i benderfynu a yw rhywun yn gymwys i gael cludiant am ddim. Nid wyf yn derbyn bod y system oed a phellter wedi dyddio. Mae wedi profi’i hun dros amser ac mae pobl yn ei deall. Dewis arall fyddai prawf modd i rieni. Mae profion modd yn gymhleth, yn ymrannol ac o bosibl yn annheg. Credaf y dylai’r Mesur ddarparu lefel graidd o hawl i ddysgwyr. Nid wyf yn cynnig ein bod yn dilyn polisi Lloegr, sy’n caniatáu i awdurdodau lleol ddyfeisio’u cynlluniau teithio eu hunain gan godi tâl. Yn hytrach, ceisiwn sefydlu dull mwy cyson i Gymru gyfan.

Credaf y dylid gwneud newidiadau i’r terfynau oed a phellter. Cynigiaf, i ddechrau, ymestyn yr hawl i blant ifanc. Cynigiaf derfyn o 2 filltir i bob plentyn cynradd—wyth mlwydd oed yw’r oed uchaf ar hyn o bryd, a thros hynny disgwylir i blentyn gerdded 3 milltir. Bydd awdurdodau’n dal i allu trefnu cludiant i blant sy’n byw’n agosach na hyn, ac fe’u hanogaf i wneud hynny. I gynorthwyo, cynigiaf lacio’r cyfyngiadau ar godi tâl ar rieni, fel y gall awdurdodau godi tâl am gludo plant sydd heb fod yn gymwys i gael cludiant am ddim.

Yr wyf yn ymwybodol hefyd o anghenion dysgwyr ôl-16, a phwysigrwydd cynyddol addysg blynyddoedd cynnar. Mae anghenion a gofynion teithio’r grwpiau oedran hyn yn gymhleth. Bwriadaf gynnwys, yn y Mesur, bwerau llunio rheoliadau ar gyfer y ddau grŵp oedran, a fyddai’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gofynion statudol ar gyfer y grwpiau oedran hyn wrth i drefniadau addysgol ar eu cyfer esblygu.

Mae awdurdodau lleol yn ganolog i’r cynigion hyn. Mae arnaf eisiau gwneud yn siŵr y cânt y disgresiwn a’r hyblygrwydd i wneud trefniadau a fydd yn ateb anghenion lleol. Mae’r cynigion hyn yn rhoi pwyslais ar gydweithredu rhwng awdurdodau a chyrff eraill. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn ddigon, ond os na, mae arnaf eisiau i awdurdodau lleol gael y modd i wneud newidiadau. Am y rheswm hwnnw, bwriadaf roi grym iddynt newid amserau dechrau a gorffen ysgolion, i’w ddefnyddio os gall newidiadau cymedrol olygu bod trefniadau teithio’n fwy effeithiol ac yn fwy amgylcheddol gynaliadwy.

Hyderaf y cewch y cyfle i astudio’r cynigion hyn yn ofalus. Yr wyf yn cynnig fframwaith deddfwriaethol gwell i Gymru. Cymeradwyaf y cynigion hyn i’r Cynulliad ac i’r cyhoedd yn gyffredinol yng Nghymru er ymgynghoriad.