Skip to content

Ysgrifenedig - Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynglŷn â Phlant Hawdd eu Niweidio a Thlodi Plant

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog Dros Wasanaethau Cymdeithasol

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) arfaethedig ar gyfer Plant Hawdd eu Niweidio a Thlodi Plant yn cael ei osod heddiw. Dyma'r trydydd o'i fath o dan y pwerau newydd a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  Lluniwyd y Gorchymyn i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ein maniffesto ynghylch plant hawdd eu niweidio a thlodi plant.  Gwnaf Ddatganiad Llafar yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 10 Gorffennaf.

Gosododd polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y ddogfen ‘Gweithredu'r Hawliau’ weledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Wrth wraidd y polisi hwnnw y mae saith nod craidd sydd wedi'u hadeiladu ar sail Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac sy'n datgan bod plant:

  • yn cael dechrau da mewn bywyd
  • yn cael ystod gynhwysfawr o gyfleoedd addysg a dysg
  • yn mwynhau’r iechyd gorau posib, yn rhydd o gamdriniaeth, erledigaeth ac ecsploetiaeth
  • yn gallu cael mynediad at weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol
  • yn cael eu trin gyda pharch, yn cael pobl i wrando arnynt, gan gydnabod eu hil a’u hunaniaeth ddiwylliannol
  • yn byw mewn cartref a chymuned ddiogel sy’n cefnogi lles corfforol ac emosiynol
  • ddim dan anfantais oherwydd tlodi.

Mae'r nodau hyn wrth galon ein holl bolisïau a rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'n un o egwyddorion sylfaenol Gweithredu'r Hawliau y dylai'r plant sydd â'r angen mwyaf gael cymorth ychwanegol i gael  cydraddoldeb cyfle er mwyn rhoi'r dechreuad gorau mewn bywyd iddynt a'u hannog i fod yn ddinasyddion gweithgar.  

Prif ddiben yr GCD hwn felly yw rhoi pŵer i'r Cynulliad wneud Mesurau Cynulliad o dan ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a fyddai'n ei gwneud yn bosibl rhoi ar waith bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Plant Hawdd eu Niweidio a Thlodi Plant yng Nghymru.