Skip to content

Ysgrifenedig - Cytuniad Diwygio Ewrop

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Prif Weinidog , Rhodri Morgan

Darparodd y Cyngor Ewropeaidd ym Mrwsel (21-23 Mehefin) fandad newydd ar gyfer llunio Cytuniad Ewropeaidd wedi i'r Cytuniad Cyfansoddiadol blaenorol gael ei wrthod mewn refferenda yn Ffrainc a'r Iseldiroedd.  Mae'r datganiad hwn yn tynnu sylw at rai o nodweddion y Cytuniad newydd, ac yn arbennig agweddau penodol sydd wedi bod yn sail i gyfraniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i'r drafodaeth.  

Mae'r cysyniad o Gytuniad Cyfansoddiadol wedi cael ei roi i'r neilltu.  Y Cytuniad Diwygio fydd enw'r testun newydd.  Bydd yn Gytuniad addasu fel dogfennau tebyg yn dyddio'n ôl i Gytuniad Rhufain.  Bydd y Cytuniad newydd yn dileu cyfeiriadau at symbolau’r UE fel y faner, yr anthem a'r arwyddair.  Ni fydd y term Gweinidog Tramor yn cael ei ddefnyddio.  

Daeth y Deyrnas Unedig i gytundeb i dynnu'n ôl o effeithiau cyfreithiol y Siarter Hawliau Sylfaenol ac ymuno â'r estyniad i gydweithredu ar faterion yr heddlu a materion troseddol.  Mabwysiedir gweithdrefn i ganiatáu Aelod-wladwriaethau i atal unrhyw gynigion a fyddai'n effeithio ar eu systemau nawdd cymdeithasol.        

Cafodd system bleidleisio mwyafrif dwbl y Cyngor Aelodau, y cytunwyd arno yng Nghynhadledd Rhyng-lywodraeth 2004, ei drafod yn helaeth ym Mrwsel.  Bydd y system yn newid y trefniadau pleidleisio mwyafrif cymhwysol (QMV) presennol, lle rhoddir nifer benodol o bleidleisiau wedi'u pwysoli i bob Aelod-wladwriaeth.  Yn y dyfodol, bydd mwyafrif yn cael ei gyflawni pan fydd 55% o Aelod-wladwriaethau sy'n cynrychioli 65% o boblogaeth yr UE yn cytuno ar gynnig.  Bydd y system hon yn cael ei chyflwyno yn 2014, gydag oediad rhannol pellach tan 2017.  

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lobïo'n ddwys ac yn gyson i egwyddorion sybsidiaredd ddod i rym yn ymarferol.  Mewn gwirionedd, mae Cyngor Brwsel wedi cryfhau'r mecanwaith monitro sybsidiaredd.  Bydd y cyfnod a roddir i seneddau cenedlaethol archwilio cynigion deddfwriaethol drafft yn cael ei ymestyn o 6 i 8 wythnos (rydym yn disgwyl y bydd Senedd y DU yn atgyfeirio cynigion sy'n ymwneud â chyfrifoldebau datganoledig i'r Gweinyddiaethau Datganoledig ac ystyried eu safbwyntiau).  Os yw mwyafrif syml o'r pleidleisiau a roddir i seneddau cenedlaethol yn gwrthwynebu cynnig am resymau sybsidiaredd, rhaid i'r Comisiwn ei dynnu'n ôl a'i ailystyried yn erbyn gweithdrefn benodol.  

O'r cychwyn, mae safle Cymru yn Ewrop wedi bod yn un o fy mhrif flaenoriaethau.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cymryd rhan weithgar yn y broses a arweiniodd at y Cytuniad Diwygio presennol am 6 mlynedd.  Daeth rhan fawr o'r hyn a gyfrannwyd i'r Confensiwn ar Ddyfodol Ewrop yn 2002 yn rhan barhaol o'r Cytuniad Cyfansoddiadol.  Yn anochel, rhaid cyfaddawdu i ddod i gytundeb rhwng 27 o Aelod-wladwriaethau, ond cyn belled ag y mae ystyriaethau “rhanbarthol” o dan sylw, rwy'n credu bod y mandad a amlinellir ar gyfer y Cytuniad Diwygio yn gadarnhaol iawn.

Portiwgal fydd yn arwain y camau nesaf, a gymerodd Lywyddiaeth yr UE o 1 Gorffennaf.  Bydd Cynhadledd Rhyng-lywodraeth yn dechrau ar 23 Gorffennaf.  Bydd swyddogion yn gweithio trwy'r haf i lunio testun diwygiedig y Cytuniad Diwygio i adlewyrchu'r mandad y cytunwyd arno yng Nghyngor Brwsel.  Bydd yr Aelod-wladwriaethau'n ceisio llofnodi'r testun hwn eleni gyda golwg ar ei gadarnhau yn 2008 a'i roi ar waith yn 2009.  Rwy'n gobeithio y bydd testun y Cytuniad wedi'i ddiwygio'n llawn ar gael i ni erbyn yr hydref, a byddaf yn cyflwyno adroddiad gerbron y Cynulliad yn datgan fy safbwyntiau am y Cytuniad ar ei ffurf derfynol.