Skip to content

Llafar - Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig ynghylch Plant sy’n Agored i Niwed

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog Dros Wasanaethau Cymdeithasol

Yr wyf yn falch o gael y fraint o osod y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer plant agored i niwed a thlodi plant, sy’n un o brif gonglfeini rhaglen Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer plant a phobl ifanc a gweledigaeth a rennir gan 'Cymru’n Un’. Dyma’r ail Orchymyn y bydd y Cynulliad yn ei ystyried ar gyfer plant. Mae’n dangos ein hymrwymiad i, a’n difrifoldeb o ran gwella bywydau plant agored i niwed yng Nghymru, a gwn ei fod yn ymrwymiad a rennir gan Aelodau.

Bydd y Gorchymyn yn gofyn am ganiatáu i’r Cynulliad gael pwerau i wneud Mesurau ar draws sbectrwm eang o faterion lles cymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc. Fel y gŵyr Aelodau, pwrpas y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yw rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru basio ei ddeddfwriaeth ei hun, sef Mesurau Cynulliad, ar sail blaenoriaethau, polisïau ac amserlenni Cymru. Mae’r Gorchymyn yn gadael inni ofyn bod y Cynulliad yn cael yr hawl i ddeddfu dros faes eang. Unwaith y’i rhoddir, bydd y pŵer hwnnw ar gael am byth, a bydd yn rhoi hawl i’r Cynulliad gyflwyno Mesurau Cynulliad heb fynd drwy’r Senedd yn gyntaf.

Mae gan Lywodraeth y Cynulliad eisoes gymhwysedd gweithredol o ran nifer o faterion lles cymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc, a, lle’r oedd hynny'n bosibl, yr ydym wedi bod yn greadigol wrth ymarfer y pwerau hyn i ddatblygu polisïau unigryw i blant agored i niwed yng Nghymru. Un enghraifft ddiweddar, a gafodd gefnogaeth a chanmoliaeth gan nifer o’r Aelodau yn gynharach eleni, oedd ein polisi ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn 'Tuag at Fywyd Sefydlog a Dyfodol Gwell’. Fodd bynnag, mae hualau deddfwriaethol wedi cyfyngu ar yr hyn y gallwn ei wneud dros blant agored i niwed, sy’n golygu nad ydym bob tro wedi gallu cyflawni ein hamcanion yn llawn. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol ar les plant yn ddarniog. Mae hyn yn creu anghysondebau, lle mae gwahanol grwpiau o blant a phobl ifanc yn derbyn gwahanol lefelau o wasanaeth ar sail eu statws yn hytrach na’u hangen.

Bydd y Gorchymyn arfaethedig yn newid hyn, a chroesawaf y cyfleoedd a ddaw yn ei sgîl. Wrth ofyn am y pwerau sydd eu hangen arnom, bydd y Gorchymyn yn gadael inni achub y blaen cyn gynted ag y byddwn yn gweld angen. Bydd Aelodau’n ymwybodol o’r Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan San Steffan yn ddiweddar, 'Care Matters’, sy’n delio â diwygiadau ar gyfer plant mewn gofal. Mae hynny’n awgrymu y bydd San Steffan yn cyflwyno Mesur yn y dyfodol agos, a lle bydd meysydd o fudd a pholisi cyffredin, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn achub ar y cyfleoedd a gynigir drwy’r ddeddfwriaeth honno.

Mae Cymru’n enwog am ei chymdeithas amrywiol, ei lle yn yr economi fyd-eang, a’i gweledigaeth i greu amgylchedd lle gall pawb ffynnu. Ymfalchïwn yn y ffaith bod ein holl bolisïau ar gyfer plant a phobl ifanc wedi eu gwreiddio yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ac wedi tyfu o ddiwylliant o hawliau a haeddiant. Fodd bynnag, ni all rhai grwpiau o blant gael gafael ar yr hawliau hynny oni fyddant yn derbyn y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt ac y maent yn ei haeddu. Siarad wyf am dros 170,000 o blant yng Nghymru sy’n byw ar erchwyn tlodi—mae hyn yn annerbyniol mewn cymdeithas orllewinol fodern, a rhaid inni brysuro ein hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi plant.

Ar gyfer 4,500 o blant mewn gofal, mae gan y wladwriaeth gyfrifoldeb unigryw, fel rhiant corfforaethol, i sicrhau y rhoddir y cychwyn gorau mewn bywyd iddynt. Bydd gan lawer o’r plant hyn brofiad o anfantais difrifol cyn derbyn gofal, a bydd angen llawer iawn o gymorth arnynt i’w codi i lefel eu cyfoedion.

Mae’n hanfodol ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ein caffaeliad mwyaf—sef ein plant. Os buddsoddwn yn awr mewn rhoi cychwyn gwell iddynt, drwy feithrin eu sgiliau a’u hyder, byddwn, gobeithio, yn rhoi cyfle iddynt ffynnu wrth iddynt symud tuag at fod yn ddinasyddion gweithredol mewn economi fyd-eang gystadleuol. Mae hyn yn eithriadol bwysig.

Bydd y Gorchymyn yn rhoi pwerau inni weithredu rhai o’n mesurau cynharach i fynd i’r afael â thlodi plant, ac i wneud yr agenda hon yn fwy atebol ar lefel genedlaethol a lleol, a ninnau ar yr un pryd yn adeiladu ar raglenni gwrth-dlodi fel Dechrau’n Deg, Cymorth a Chymunedau yn Gyntaf. Mae mynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol ymhlith plant a phobl ifanc yn ganolog i strategaeth ehangach Llywodraeth y Cynulliad o wella ansawdd bywyd, a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a chyfle cyfartal i bob cymuned yng Nghymru.

Mae’r mesurau cynharach a’r cymorth ymarferol y bwriadwn ei gyflwyno drwy ddefnyddio’r pwerau newydd hyn yn cynnwys gofyniad i awdurdodau lleol wneud taliad atodol i gyfrifon cronfeydd ymddiriedolaeth pob plentyn sy’n dechrau yn yr ysgol; cofiwn y drafodaeth ar Reol Sefydlog Rhif 31 a gafwyd yn dilyn cynnig gan Christine Chapman. Mae hefyd yn cynnwys creu hawl statudol i ofal di-dâl ar gyfer y plant dwyflwydd mwyaf anghenus a rhai sy’n byw mewn ardaloedd gyda chynlluniau Dechrau’n Deg, i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn dangos eu cyfraniad at ddileu tlodi plant. Mae hefyd yn cynnwys gofyniad i awdurdodau lleol gefnogi rhieni y mae angen help arnynt gyda’u problemau iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol, anableddau dysgu, byw mewn tlodi neu broblemau eraill a allai effeithio ar gyfleoedd a lles y plentyn. Ceir mesurau hefyd i gryfhau atebolrwydd a chyfrifoldeb awdurdodau lleol fel rhieni corfforaethol, a chanlyniadau gwell i blant sydd mewn gofal ac sy’n gadael gofal. Yr ydym yn ystyried y cynnig i drafod Rheol Sefydlog Rhif 31 gan Huw Lewis, sydd eisoes wedi arwain at welliannau mewn gofal iechyd ac i blant mewn gofal.

Bydd y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol hefyd yn rhoi hawl inni symleiddio a chyfnerthu’r gyfraith tra’n cyflwyno polisïau cydlynol sy’n gweddu orau i Gymru a phlant mewn gofal, plant sy’n gadael gofal a phlant eraill sy’n byw mewn teuluoedd bregus sy’n debygol o gael eu rhoi mewn gofal oni allwn fod yn gefn iddynt fyw gyda’u teuluoedd.

Mae’n rhy fuan sôn yn rhy fanwl am yr ystod o newidiadau y byddwn efallai’n eu gwneud yn y dyfodol ond, fel y soniais yn gynharach, ac fel y tynnwyd sylw ato gan Aelodau wrth drafod plant sy’n derbyn gofal, mae’r pwerau presennol yn gynhenid wan gan eu bod yn atal cynnydd mewn cyd-destun Cymreig—er enghraifft, gyda chyflawni rhai o’n polisïau ataliol a fydd yn thema allweddol yn y strategaeth plant agored i niwed yr ydym wedi ymrwymo i ymgynghori arni yn 2008.

Bydd rhoi cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer plant agored i niwed a thlodi plant yn golygu y gallwn weithredu ein polisïau yn y maes hwn a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant agored i niwed yng Nghymru. Bydd hefyd yn rhoi hawl i’r Cynulliad hwn graffu ar ddeddfwriaeth i ddod yn y maes hwn a theilwrio gwasanaethau yn ôl anghenion a blaenoriaethau Cymru.