Skip to content

Ysgrifenedig - Cabinet Llywodraeth Cynulliad Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Prif Weinidog
Yn sgil y glymblaid ffurfiol a sefydlwyd yr wythnos ddiwethaf rhwng Llafur a Phlaid Cymru, rwyf wedi gwneud newidiadau mawr i bob portffolio. Dim ond fy nghyfrifoldebau i ac Edwina Hart sydd heb eu newid. Bydd Edwina Hart yn parhau yn ei rôl fel y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Ar ôl cael ei benodi’n Ddirprwy Brif Weinidog Cymru yr wythnos ddiwethaf, mae Ieuan Wyn Jones hefyd wedi’i benodi’n Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth bellach. Yn ogystal, penodwyd tri aelod arall o Blaid Cymru a fydd yn ymuno â'r Cabinet i weithio ochr yn ochr â'm Gweinidogion Llafur. Mae’r rhain yn cynnwys Elin Jones sydd wedi'i phenodi'n Weinidog dros Faterion Gwledig, a oedd yn rhan o'r portffolio Cynaliadwyedd a Datblygu Gwledig gynt, a Rhodri Glyn Thomas sydd wedi'i benodi'n Weinidog dros bortffolio newydd Treftadaeth sy'n cynnwys twristiaeth, Cadw, y celfyddydau, chwaraeon a’r Gymraeg. Hefyd, mae Jocelyn Davies wedi'i phenodi'n Ddirprwy Weinidog dros Dai, a bydd Carl Sargeant yn cadw'i gyfrifoldeb fel y Prif Chwip ac yn parhau i fynychu cyfarfodydd y Cabinet.

Felly, dyma'r Cabinet newydd:

Prif Weinidog
Rhodri Morgan

Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Andrew Davies

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Jane Hutt

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig
Elin Jones

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Edwina Hart

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Jane Davidson

Y Gweinidog dros Dreftadaeth
Rhodri Glyn Thomas

Y Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ
Carwyn Jones

Dyma'r Dirprwy Weinidogion:

Gwasanaethau Cymdeithasol   Gwenda Thomas
Tai Jocelyn Davies
Sgiliau John Griffiths
Adfywio Leighton Andrews

Credaf fod y Cabinet newydd hwn yn nodi dechrau cyfnod newydd o gryfder mewn partneriaeth â thîm profiadol a thalentog o Weinidogion sy'n gallu mynd i’r afael â’r her o wneud ein gwlad yn lle gwell i fyw a gweithio ynddi. Ein dogfen 'Cymru'n Un' yw'r glasbrint ar gyfer y pedair blynedd nesaf, ac rwyf innau a'r Dirprwy Brif Weinidog yn hyderus bod gan y Cabinet newydd y brwdfrydedd a'r ymrwymiad i greu'r Gymru deg, llewyrchus, hyderus ac allblyg y mae ein dinasyddion yn ei haeddu ac yn galw amdani.