Skip to content

Ysgrifenedig - Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog Dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Dros yr haf, dioddefodd Lloegr lifogydd trwm a bu peth llifogydd yng Nghymru hefyd. Mae’r llifogydd wedi dangos yn glir beth yw canlyniadau byw â’r perygl o lifogydd.  

Cafodd y llifogydd effaith uniongyrchol ar filoedd o gartrefi yn ogystal ag ar fusnesau a systemau trafnidiaeth. Roedd rhannau helaeth o Loegr heb wasanaethau hanfodol fel pŵer, dŵr a systemau carthffosiaeth, ac mi fydd hi’n fisoedd tan y bydd yr ardaloedd hynny’n gallu dychwelyd i’w trefn arferol.

Yn ystod yr un cyfnod, fe ddioddefodd rhannau o Gymru lifogydd lleol difrifol, ond roeddem yn ffodus i osgoi’r tywydd gwaethaf. Fodd bynnag, rydym ninnau hefyd mewn perygl o ddioddef tywydd eithafol, a rhagwelir y bydd y digwyddiadau hyn yn dod yn fwy cyffredin wrth i’n hinsawdd ni newid.  

Rydym wedi gweld, dros yr wythnosau diwethaf, beth sy’n gallu digwydd pan fo glaw difrifol yn creu amgylchiadau sy’n drech na chapasiti ein systemau amddiffyn a draenio cyfredol. Mae digwyddiadau o’r fath yn brin, ond maent yn gallu digwydd, ac er nad oes modd i ni eu hosgoi, fe allwn ni baratoi ar eu cyfer.  

Mae adolygiadau manwl o’r hyn a ddigwyddodd dros yr haf wrthi’n cael eu cynllunio, a byddaf yn sicrhau y caiff eu canfyddiadau eu defnyddio i lywio’n dull o weithio yma yng Nghymru. Fodd bynnag, mae rhai negeseuon pwysig eisoes wedi dod i’r amlwg:

  • Bydd ardaloedd a amddiffynnir ac ardaloedd a wasanaethir gan systemau draenio yn dioddef llifogydd mewn amgylchiadau eithafol, hyd yn oed os oes gennym ni’r systemau amddiffyn a draenio gorau.
  • Mae goblygiadau llifogydd i’r gymuned bob amser yn annifyr, ond mae’n rhaid i ni ymdrechu i osgoi effeithiau annerbyniol fel colli gwasanaethau hanfodol.  
  • Yn aml, mae cyflymder ac effeithiau digwyddiad o’r fath yn brawychu cymunedau, ac fe all eu gadael yn teimlo’n ddryslyd am rôl cyrff cyhoeddus a’r gwahanol wasanaethau mae cyrff yn eu darparu.
  • Bydd digwyddiadau eithafol o’r fath yn dod yn fwy cyffredin wrth i’r hinsawdd newid.

Rwy’n benderfynol o weithredu ar frys i fynd i’r afael â’r materion hyn ac i fod yn fwy parod ar gyfer digwyddiadau eithafol o’r fath.

Yn ystod yr haf, bu’n rhaid i lawer o bobl ddioddef effeithiau’r llifogydd heb wasanaethau hanfodol fel trydan, dŵr a systemau carthffosiaeth. Mae’n rhaid i ni ddysgu o’n profiad diweddar a chanfod ffyrdd o ragweld effeithiau o’r fath a’u hosgoi yn y dyfodol.  

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau er mwyn canfod pa mor debygol yw asedau hanfodol Cymru o ddioddef llifogydd. Byddaf hefyd yn gofyn am sicrwydd gan ddarparwyr gwasanaethau bod ganddynt gynlluniau wrth gefn er mwyn gallu ymdopi â digwyddiadau eithafol fel rhai’r haf.

Er inni fod yn ffodus i ddianc rhag y gwaethaf o’r tywydd, fe effeithiodd y tywydd ar 100 o dai yng Nghymru. Mewn llawer o achosion, gwasanaethwyd y trefi hyn gan systemau amddiffyn a draenio cymhleth ac roedd gwahanol gyrff yn rheoli gwahanol rannau o’r system.  

Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio’n agos â’r awdurdodau gweithredu hynny sy’n gweithio yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt i edrych ar ffyrdd o leihau’r perygl o gael problemau tebyg yn y dyfodol. Bydd gwaith yn cael ei gomisiynu i ddatblygu cynllun rheoli risg cynhwysfawr ar gyfer yr ardal ddraenio drefol gan sicrhau bod gweithredwyr y system a’r cyhoedd yn ei ddeall.  

Mae rhan y cyhoedd yn yr ymarfer hwn yn hanfodol, felly rwyf wedi gofyn i’r bobl berthnasol sicrhau y caiff y cyhoedd eu hannog i chwarae rhan
lawn. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ariannu cynlluniau peilot ym Mhrestatyn ac yn y Barri drwy’r cynllun grant awdurdod lleol, Rheoli Risg Llifogydd a’r Arfordir. Bydd canlyniadau’r astudiaethau peilot hyn yn helpu i ddatblygu canllawiau polisi yn y dyfodol a bydd yn cefnogi’r broses o rannu arferion gorau ar gyfer rheoli perygl llifogydd trefol â safleoedd ledled Cymru.

Mae’r llifogydd diweddar wedi tynnu sylw at ba mor agored yr ydym i lifogydd,  ac i effeithiau anochel y newid yn yr hinsawdd. Os byddwn ni’n parhau gyda’n dull presennol o weithio, rhagwelir y bydd y perygl o lifogydd a’r risg i’r arfordir yn cynyddu i lefel annerbyniol erbyn diwedd y ganrif. Am y rheswm hwn, lansiwyd yn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf ein Rhaglen Dulliau Newydd o reoli risg llifogydd.

Diben y rhaglen tair blynedd hon yw ein symud oddi wrth ein dull amddiffynnol, traddodiadol o weithio i ddull o reoli’r risg. Bydd hefyd yn ein helpu i addasu er mwyn mynd i’r afael ag effeithiau anochel y newid yn yr hinsawdd. Bydd yn rhoi mwy o bwyslais ar reoli canlyniadau gyda’r bwriad o gadw’r canlyniadau ar lefel goddefadwy i’n cymunedau sydd mewn perygl.

Er ei fod yn cydnabod y bydd amddiffyn traddodiadol yn parhau i chwarae rhan bwysig yn ein dull o reoli yn y dyfodol, bydd y rhaglen yn annog gweithio gyda natur yn hytrach nag yn ei herbyn. Mae hyn yn golygu mwy o ddefnydd o fesurau rheoli tir i reoli dŵr ffo, defnyddio rhwystrau hyblyg naturiol ee clogfeini y gellid eu symud ar draethau, gwneud y gorau o ddulliau naturiol o amddiffyn rhag llifogydd ee gwlypdiroedd, a defnyddio systemau draenio trefol cynaliadwy (SUDS - sustainable urban drainage systems) sy’n defnyddio systemau naturiol fel gwelyau cyrs i leihau’r dŵr sy’n cyrraedd y systemau carthffosiaeth a draenio.  

Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi mwy o sylw i godi ymwybyddiaeth, a dulliau brys o gefnogi, adfer a gwrthsefyll.  

Anghenion y bobl hynny sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd fydd wrth wraidd y rhaglen a’n dull o weithio yn y dyfodol. Bydd angen mwy o gydweithio rhwng ein cyrff darparu gwasanaethau cyhoeddus a mwy o gydweithio â’r cyhoedd.

Mae’r rhaglen yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill.

Mae’r system cynllunio’n chwarae rhan allweddol wrth helpu i reoli perygl o lifogydd. Mae Nodyn Cyngor Technegol 15 - Datblygu a Pherygl Llifogydd (TAN 15), yn cynnig fframwaith rhagofal sy’n ceisio osgoi datblygu ar y gorlifdir lle medrir, ac mae’n sicrhau bod y penderfyniadau hynny sy’n caniatáu datblygu ar orlifdir yn ystyried canlyniadau llifogydd yn ystod cylch bywyd y datblygiad. Ei fwriad yw sicrhau ein bod yn gwbl ymwybodol o’r perygl a’r canlyniadau o ran datblygiadau newydd.  

Mae’n bwysig bod y cyngor diweddaraf ar gael yn TAN 15, ac i’r perwyl hwnnw, byddaf yn cyhoeddi mapiau TAN 15 wedi’u diweddaru a fydd yn cynnig cyngor ar ddatblygu yn y flwyddyn newydd.

Roedd yr ymatebion a ddaeth i law i’n hymgynghoriad diweddar, Cynllunio ar gyfer Newid Hinsawdd yn cefnogi’n safbwynt y gall y system cynllunio wneud mwy i reoli perygl llifogydd.  

Rwyf wrthi’n penderfynu ar y newidiadau terfynol i Bolisi Cynllunio Cymru mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw. Bydd y polisi cynllunio diwygiedig yn annog codi adeiladau newydd sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd, gan gynnwys tai. Bydd hyn yn helpu i gyflymu’r broses o adfer wedi digwyddiadau eithafol. Bydd hefyd yn annog defnyddio systemau draenio cynaliadwy i helpu i wrthbwyso effeithiau cynnydd mewn glaw trwm iawn.

Mae awdurdodau gweithredu wrthi’n paratoi cynlluniau rheoli perygl llifogydd ac yn adolygu’r cynlluniau rheoli arfordiroedd cyfredol. Mae’r cynlluniau hyn, fydd yn llywio polisïau rheoli lleol ledled Cymru, yn cynnig darlun lleol manwl o’r peryglon yr ydym yn ceisio eu rheoli a bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein dull newydd o weithio.  

I helpu gyda’r gwaith hwn, mae Llywodraeth y Cynulliad yn ariannu’r gwaith o sefydlu canolfan i fonitro’r arfordir fydd yn cynnig canolbwynt i’r gwaith o gasglu data arfordirol ac yn cefnogi’n benodol ein swyddogaethau rheoli arfordirol. Bydd y ganolfan yn adnodd cenedlaethol pwysig, a Chyngor Gwynedd fydd yn ei gweinyddu. Bydd modd i’r Ganolfan fanteisio ar arbenigedd amgylcheddol y Cyngor yn ogystal ag arbenigedd sefydliadau academaidd y Gogledd.  

Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion sicrhau y tynnir sylw at beryglon cynyddol llifogydd ac erydiad arfordirol, a’u goblygiadau, yn y Strategaeth ar Newid yn yr Hinsawdd rydym wrthi’n ei datblygu, ac yn y Cynllun Gofodol. Mae hefyd yn hanfodol y caiff y materion hyn eu hystyried ar lefel leol a’u hadlewyrchu mewn Cynlluniau Datblygu Lleol a strategaethau cymunedol. Rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar ffyrdd o gefnogi partneriaethau strategaethau cymunedol er mwyn sicrhau y cyflawnir hyn.

Bydd arian yn ffactor bwysig wrth bennu lefelau gwasanaeth yn y dyfodol, ac fel rhan o’r Rhaglen Dulliau newydd, mae prosiect sy’n mynd i’r afael â materion ariannu wedi cael ei sefydlu. Mae arian ar gyfer gwaith i ddiogelu’r arfordir ac amddiffyn rhag llifogydd wedi cynyddu ers 1999, gyda chyllidebau’n dyblu i £33 miliwn ar gyfer y flwyddyn gyfredol.  

Bydd y prosiect ariannu yn ystyried anghenion ariannu’r dyfodol yng ngoleuni’r angen cyfredol, peryglon cynyddol a’r dull newydd o reoli’r peryglon hyn. Yn y cyfamser, mae swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau gweithredu i baratoi cais am arian Ewropeaidd. Os bydd y cais yn llwyddiannus, bydd yr arian yn ychwanegu hyd at 35% at ein buddsoddiad cyfalaf i waith amddiffyn rhag llifogydd a diogelu’r arfordir dros y pum mlynedd nesaf.

Mae rheoli perygl llifogydd ac amddiffyn cymunedau sydd mewn perygl yn hanfodol. Mae effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn ei wneud yn bwysicach fyth. Roedd digwyddiadau’r haf yn rhybudd, ac mae gennym gyfrifoldeb i dalu sylw i’r rhybudd hwnnw.