Skip to content

Ysgrifenedig - Confensiwn

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan,Y Brif Weinidog

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o’n hymrwymiad yn Cymru’n Un i weithio gyda’n gilydd i gryfhau ymhellach bwerau’r Cynulliad, a hynny er mwyn rhoi newid real a pharhaol ar waith.

Rydym wedi nodi’n glir y byddwn yn defnyddio’r setliad datganoli presennol i’r eithaf, ond ar yr un pryd rydym am symud ymlaen i sicrhau canlyniad llwyddiannus i refferendwm i roi pwerau deddfu llawn i’r Cynulliad.  Cam allweddol yn y broses hon fydd sefydlu Confensiwn Cymru Gyfan, a fydd yn cynnwys cynrychiolaeth eang o’r gymdeithas yng Nghymru.

Pleser yw cyhoeddi bod Syr Emyr Jones Parry wedi cytuno i gadeirio’r Confensiwn.

Caiff aelodaeth a chylch gorchwyl y Confensiwn ei ystyried gan grŵp o Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol o’r ddwy blaid, fel y nodwyd yn Cymru’n Un.