Rhodri Morgan,Y Brif Weinidog
Bydd pob Aelod o’r Cynulliad yn ymwybodol o’r ffaith bod datblygiad wedi digwydd o ran ffurfio gweinyddiaeth newydd ers ein Cyfarfod Llawn diwethaf.
Mae’r weinyddiaeth newydd wedi’i ffurfio o glymblaid rhwng y 26 Aelod sydd yng ngrŵp Llafur y Cynulliad a’r 15 Aelod sydd yng ngrŵp Plaid Cymru. Fel Prif Weinidog y weinyddiaeth newydd, yr wyf wedi penodi Cabinet newydd. Yn unol â’r ymrwymiad a wneuthum cyn yr etholiad ym mis Mai, dyma fanylion y penodiadau a wneuthum.
Fel Prif Weinidog Cymru, mae fy nghyfrifoldebau’n cynnwys cydlynu a datblygu polisi, gweithredu dyletswyddau’r Cabinet, y berthynas rhwng Llywodraeth y Cynulliad a gweddill y Deyrnas Unedig ac Ewrop, Cymru dramor, gwyddoniaeth, staffio’r gwasanaeth sifil, a materion eraill. Daw Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, yn Ddirprwy Brif Weinidog ac yn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.
Jane Davidson yw’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, gan gynnwys cyfrifoldeb am y newid yn yr hinsawdd, datblygu cynaliadwy, yr amgylchedd, ynni a chynllunio. Daw Andrew Davies yn Weinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, gan gynnwys cyfrifoldeb am y cynlluniau gofodol a strategol. Mae’r Dr Brian Gibbons wedi ysgwyddo dyletswyddau’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, gan gynnwys cyfrifoldeb am dlodi ymhlith plant a diogelwch cymunedol. Mae Edwina Hart yn aros yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Jane Hutt yw’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Penodwyd Elin Jones yn Weinidog dros Faterion Gwledig. Daw Rhodri Glyn Thomas yn Weinidog dros Dreftadaeth, sy’n cynnwys yr iaith Gymraeg, diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth.
Enwebais Carwyn Jones yn Gwnsler Cyffredinol cyntaf erioed Llywodraeth y Cynulliad y prynhawn yma, a chytunwyd i hynny. Bydd hyn yn mynd at Ei Mawrhydi ar gyfer y broses benodi. Bydd Carwyn hefyd yn gyfrifol am raglen fusnes y Llywodraeth, yn defnyddio’r teitl Arweinydd y Tŷ. Carl Sargeant yw Prif Chwip y Llywodraeth a bydd yn mynd i gyfarfodydd y Cabinet.
O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gellir hefyd benodi Dirprwy Weinidogion i fod â chyfrifoldebau arbennig am helpu Gweinidogion y Cabinet i gyflawni eu dyletswyddau. Yn unol â hynny, penodwyd Leighton Andrews yn Ddirprwy Weinidog dros Adfywio, gan weithio i Ieuan Wyn Jones a Brian Gibbons. Daw Jocelyn Davies yn Ddirprwy Weinidog dros Dai. Bydd John Griffiths yn aros yn Ddirprwy Weinidog dros Sgiliau, a bydd Gwenda Thomas yn aros fel Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.
Mae’r tîm Gweinidogion a restrwyd wedi dod ynghyd i weithredu rhaglen flaengar o lywodraeth i Gymru, ac i ddarparu gweinyddiaeth sefydlog ar gyfer ein gwlad sy’n adlewyrchu dymuniadau pleidleiswyr Cymru wrth iddynt fwrw eu pleidleisiau yn yr etholiadau fis Mai. Fodd bynnag, gan mai dyma’r tro cyntaf inni ddod at ein gilydd fel Cynulliad ers cyhoeddi’r rhaglen, carwn dynnu sylw at rai elfennau allweddol yn y polisïau y bwriadwn fynd i’r afael â nhw a fydd, ynghyd â’n rhaglen ddeddfu, yn sail ar gyfer busnes y Llywodraeth yn y Cynulliad dros y misoedd i ddod.
Mae’r cytundeb ‘Cymru’n Un’, a sefydlodd y weinyddiaeth hon, yn seiliedig ar draddodiad radicalaidd Cymru. Mae’n rhaglen flaengar, uchelgeisiol dros bedair blynedd sy’n estyn allan at bob sector yn y gymdeithas ar draws Cymru. Afraid dweud felly na fydd popeth yn cael ei ddarparu ym mlwyddyn 1, na hyd yn oed yn ail flwyddyn y Cynulliad hwn. Fodd bynnag, mae Gweinidogion wrthi’n frwd yn trafod cyllidebau a fydd, ac yr wyf yn hyderus, yn gweld cyfran helaeth o’r rhaglen ‘Cymru’n Un’ yn cael ei gweithredu ar y cyfle ymarferol cyntaf.
Dechreuwn gyda phenderfyniad i ddefnyddio hyd yr eithaf gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. Yr ydym eisoes ar y blaen i weddill y DU a’r rhan fwyaf o Ewrop o ran ennill cymeradwyaeth i’n rhaglen. Ynghyd ag ailwerthusiad o’n rhaglen cymorth busnes, gan gynnwys cymorth ychwanegol gydag ardrethi busnes, bwriadwn fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd tymor hir, yn enwedig mewn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae melltith diweithdra tymor hir a’i leihad sylweddol, yn ddigon teg, wedi hoelio sylw’r Cynulliad er 1999. Trown ein sylw yn awr, gydag egni newydd, at anweithgarwch economaidd.
Bydd llwyddo gyda’r cyllid cydlyniant yn dibynnu ar lawer mwy na llywodraeth ei hun. Mae gwaith eisoes wedi dechrau yn cefnogi’r meysydd hynny o’r economi a allai elwa fwyaf o’r dimensiwn ymchwil a datblygu ar gyllid Ewropeaidd. Bydd cyfraniad ein sefydliadau addysg uwch at economi Cymru yn y dyfodol yn hanfodol, a bwriadwn gymryd camau ar draws Cymru gyfan i sicrhau bod y sefydliadau hynny’n addas i’r diben hwnnw.
Byddwn yn troi ein sylw’n fuan at weithredu’r rhannau hynny o’r rhaglen a fydd yn cael effaith ar anfantais a thangyflawni. Erys mynd i’r afael â thlodi ymhlith plant wrth wraidd holl bwrpas y weinyddiaeth hon. Byddwn yn bwrw ymlaen â’r rhaglen Dechrau’n Deg a chyda’r cyfnod sylfaen mewn addysg. Byddwn yn gwireddu ychwanegiad Cymru at y gronfa ymddiriedolaeth plant.
Byddwn yn sicrhau bod aelodaeth o undeb credyd ar gael i bob myfyriwr ysgol uwchradd. Yn yr wythnosau i ddod, byddwn yn cynnig penodi comisiynydd pobl hŷn cyntaf erioed Cymru, yn ein hymgais i wella bywydau ein poblogaeth hŷn. I deuluoedd â phlant, bydd y weinyddiaeth hon yn buddsoddi’n sylweddol o’r newydd ac yn mabwysiadu agwedd newydd at gyflenwi tai fforddiadwy, sy’n sylfaen ar gyfer safon byw gweddus i rieni a chychwyn iawn mewn bywyd i’w plant.
Bydd cynaliadwyedd yn un o arwyddeiriau pwysicaf y drydedd Llywodraeth hon-o wella teithio ac amseroedd siwrneiau ar y rheilffyrdd i fesurau i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Dim ond ymdrechion y gymuned gyfan a all wneud i hyn ddigwydd. Felly, byddwn yn rhoi cynaliadwyedd wrth galon prosesau caffael y Llywodraeth, ac yn ymestyn ein hegwyddorion i’n gwaith ag eraill. Mae cydwybod amgylcheddol, fel y rhan fwyaf o bethau mewn bywyd, yn golygu dewisiadau anodd, gyda rheoli gwastraff a pholisi ynni er enghraifft, ond ni fyddwn yn cilio rhagddynt.
Ni ellir eu hosgoi ym maes iechyd, ychwaith. Mae Edwina Hart, y Gweinidog, eisoes wedi prysuro’r newidiadau a oedd yn digwydd wrth ad-drefnu’r ymddiriedolaethau yng Nghymru. Bydd yn cyflwyno cynllun iechyd gwledig i sicrhau bod ffyrdd newydd o weithio a ddatblygwyd gan nyrsys, fferyllwyr a meddygon yn cael eu defnyddio’n llawn i gwrdd ag anghenion arbennig cymunedau gwledig. Byddwn yn dileu gweddillion olaf y farchnad fewnol yng Nghymru, ac yn parhau i leihau amseroedd aros i gyrraedd ein targed o arhosiad cyfun 26 wythnos ar y mwyaf erbyn diwedd 2009. Byddwn yn gweithio’n glos â chymunedau lleol i roi’r hyder iddynt fod newid yn y gwasanaeth iechyd—y newid a welwyd ym mhob un o’r 60 mlynedd ers sefydlu’r gwasanaeth iechyd yn 1948 - wedi’i ddyfeisio i ddarparu gwasanaeth gwell, nid gwaeth.
Dyma Lywodraeth sydd bellach yn cynrychioli mwyafrif helaeth barn wleidyddol pobl Cymru. Fodd bynnag, wrth inni symud ymlaen â’n rhaglen ddeddfwriaeth a pholisi, p’un ai dros yr iaith Gymraeg neu’r gwasanaeth ieuenctid, yr wyf yn benderfynol o weld y gefnogaeth ehangaf bosibl i’r hyn a wnawn, gan fynd y tu hwnt i wleidyddiaeth Lafur a Phlaid Cymru, oherwydd dim ond drwy wneud hynny yr enillwn y gefnogaeth ehangaf bosibl i lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Mae’r bwriad o gael comisiwn annibynnol ar gyllido a chyllid eisoes wedi’i gyhoeddi, a chyhoeddir manylion pellach yn ystod tymor yr hydref. Byddwn yn cyflwyno cynigion manwl ar gyfer confensiwn, dan gadeirydd annibynnol, i arlwyo’r ffordd ar gyfer refferendwm llwyddiannus ar Ran 4 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Llywydd, rhaid i unrhyw weinyddiaeth a gefnogir gan fwyafrif helaeth - hynny yw, dwy ran o dair o’r Siambr - fod ag uchelgais cryf i ennill lefel debyg o gefnogaeth yn y Gymru y tu allan. Yr wyf heddiw wedi rhestru’r tîm o Weinidogion a fydd yn gyfrifol am fwrw ymlaen â hyn ac â’r rhaglen bolisi flaengar y byddwn yn ei chyflwyno i bobl Cymru. Fe’i cymeradwyaf ichi, ac i bobl Cymru.