Skip to content

Gwasanaethau Strôc

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Bwriad y datganiad hwn yw dangos ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r camau positif sy'n cael eu cymryd o ran gwasanaethau strôc yng Nghymru.

Er bod nifer y bobl sy'n marw o strôc yng Nghymru wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, bu cyfanswm o 2,380 o bobl farw o’r cyflwr yn 2005. Yn aml, mae gan y bobl hynny sy'n goroesi strôc wahanol lefelau o anabledd a gwahanol lefelau o ran anghenion adsefydlu.

Mae Archwiliad Cenedlaethol Coleg Brenhinol y Ffisegwyr 2006, a gyhoeddwyd ym mis Mai eleni, yn nodi'n glir bod angen sylw brys ar wasanaethau strôc yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn nodi bod y gyfradd isel iawn o dderbyniadau i unedau, neu welyau yn yr un lleoliad, sydd wedi eu neilltuo i gleifion strôc, yn annerbyniol.

Mewn ymateb i'r Archwiliad, cefais gyfarfod ar fyrder â'r Gymdeithas Strôc ym mis Mehefin, yn egluro fy mod yn ystyried bod delio â materion sy’n gysylltiedig â strôc, a gwella gwasanaethau strôc, yn un o'm prif flaenoriaethau.  

Bellach, mae'n rhaid i'r Byrddau Iechyd Lleol, sy'n comisiynu gwasanaethau strôc, gydweithio â'r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol i fapio’r gwasanaethau cyfredol yn erbyn y safonau a bennir yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Bobl Hŷn. Bydd canlyniad yr ymarfer hwnnw yn llywio datblygiad y cynlluniau gweithredu, gyda cherrig milltir clir, i gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol.

Er mwyn goruchwylio a chydgysylltu gwelliannau i wasanaethau strôc yn genedlaethol, rydym wedi sefydlu Partneriaeth Strôc ffurfiol. Bydd y bartneriaeth hon yn annog, cynghori a chynorthwyo'r GIG a'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn eu hymdrechion i ddarparu gofal o'r safon sy’n angenrheidiol i gleifion strôc.

Mae'r Bartneriaeth Strôc yn cynnwys tri sefydliad cenedlaethol o bwys, sef y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, Canolfan Iechyd Cymru a’r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd.  Mae'r Bartneriaeth yn cydweithio'n glos â'r Gymdeithas Strôc.

Rydym angen i'n meddygon, ein nyrsys a’n gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i hyrwyddo ac arwain y rhaglen newid. Rwyf felly’n falch o nodi bod Cynghrair Strôc Cymru wedi cael ei sefydlu'n ddiweddar. Mae hwn yn gydweithrediad clinigol amlddisgyblaethol, dan arweiniad Dr Anne Freeman, meddyg yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac un o Ymddiriedolwr y Gymdeithas Strôc. Cefais gyfarfod â hithau ym mis Mehefin hefyd. Bydd y Gynghrair yn sylfaen uniongyrchol i'r Bartneriaeth Strôc, gan gyfrannu at ei waith a’i gefnogi. Teimlaf fod hwn yn fodel cyffrous ac arloesol iawn i fynd i'r afael â'r gwelliannau sy'n rhaid i ni eu cyflawni.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan gydweithio â'r Bartneriaeth Strôc, Cynghrair Strôc Cymru a'r Gymdeithas Strôc, wedi datblygu rhaglen waith ffurfiol ar gyfer gwasanaethau strôc dros y blynyddoedd nesaf. Mae llawer o ofynion cynnar y rhaglen hon yn canolbwyntio ar waith y Bartneriaeth Strôc, a fydd yn datblygu llwybr gofal y cytunwyd arno, a phrotocol cenedlaethol i lywio penderfyniadau lleol ar gomisiynu a chyflenwi gwasanaethau.  

Blaenoriaeth gynnar o ran y gwelliannau i wasanaethau yw'r gofyniad y bydd yn rhaid i’r holl gleifion strôc, erbyn Mawrth 2009, gael eu derbyn i welyau wedi’u neilltuo, ac sydd yn yr lleoliad, gyda thîm o staff amlddisgyblaethol meddygol, a thîm adsefydlu acìwt.

Y bwriad yw y bydd y rhaglen waith hon yn anogaeth cadarn a phositif, ac yn sbardun ar gyfer y gwelliannau angenrheidiol.  Bydd y rhaglen yn cael ei chyhoeddi i'r GIG a'r Gwasanaethau Cymdeithasol trwy Gylchlythyr Iechyd Cymru, ac rwy'n disgwyl i'm Swyddfeydd Rhanbarthol fonitro'r cynnydd yn ofalus. Bydd y rhaglen yn cael ei hadolygu'n o bryd i’w gilydd yng ngoleuni'r cynnydd hwnnw.

I sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu gweithredu ar fyrder, ac fel rhan o ymrwymiad Cymru'n Un i wella gwasanaethau ar gyfer cyflyrau hirdymor megis strôc, rwy'n cynnig sicrhau bod £2.5 miliwn ar gael o 2008-09. Bydd y penderfyniadau ar y modd y defnyddir yr arian hwn yn cael ei wneud yng ngoleuni y gwaith y mae'r BILlau yn ei wneud i fapio'r gwasanaethau cyfredol yn erbyn y safonau.