Skip to content

Llafar - Effaith Cau’r M4 Ar Y Seilwaith Drafnidiaeth

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, Y Ddirprwy Brif Weinidog

Llywydd, hoffwn dynnu sylw Aelodau’r Cynulliad at y ddwy ddamwain angheuol a thrasig a ddigwyddodd ar yr M4 yng Nghasnewydd yn ddiweddar, y naill ar ddydd Iau, 2 Awst, a’r llall ddydd Llun yr wythnos hon, 17 Medi. Yr wyf yn siŵr ein bod i gyd, fel Cynulliad, yn mynegi ein cydymdeimlad dwysaf â theuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau yn y ddau achos.

Er bod y ddwy ddamwain wedi digwydd yn oriau mân y bore, yr oedd yr hyn a achosodd y damweiniau yn gwbl wahanol. Ar 2 Awst, cafodd gyrrwr a oedd yn teithio tua’r gorllewin ei ladd mewn amgylchiadau trasig pan gollodd reolaeth ar ei lori wrth ddynesu at gyffordd 27, High Cross, gan ddymchwel 60m o ffens ddiogelwch yn y llain ganol.  Ddydd Llun, bu farw 5 o bobl ac anafwyd un arall yn ddifrifol mewn damwain rhwng dau gar ar y ffordd i’r dwyrain rhwng cyffyrdd 25, Caerllion, a 24, Coldra. Nid oedd unrhyw faterion priffordd amlwg yn gyfrifol am y naill ddamwain na’r llall. Er bod achos y ddwy ddamwain yn gwbl wahanol, yr oedd yr effaith ar deithwyr, yn anffodus, yn ddigon tebyg.

Mae’n bwysig cofio bod dros 100,000 o gerbydau’n teithio ar hyd yr M4 bob dydd yn ardal Casnewydd ac, yn anochel, mae cau’r draffordd oherwydd digwyddiad difrifol yn cael effaith fawr ar y seilwaith drafnidiaeth yn y de-ddwyrain, yn arbennig pan fydd y traffig yn cael ei ddargyfeirio i’r prif gefnffyrdd a’r ffyrdd lleol. Pan gyfyd  digwyddiadau fel hyn, caiff y traffig ei reoli ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru gan Traffig Cymru, sydd wedi’i leoli yng nghanolfan rheoli traffig Coryton. Mae Traffig Cymru’n gweithio gyda’r heddlu i gynghori gyrwyr, drwy gyfrwng radio, gan ddefnyddio Traffic Link yn y ganolfan rheoli traffig, drwy’r wefan a drwy’r arwyddion negeseuon electronig ar fin cefnffyrdd, i ddargyfeirio i ffwrdd o’r ffyrdd yr effeithiwyd arnynt. Hefyd bydd negeseuon yn cynghori gyrwyr i beidio â theithio yn yr ardaloedd perthnasol yn cael eu darlledu ar y radio os bydd hynny’n briodol, eto ar gyngor yr heddlu.
Mae Traffig Cymru hefyd yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol hynny yr effeithiwyd arnynt gan y ffyrdd dargyfeirio i gydlynu gwybodaeth am draffig, ynghyd â’r Asiantaeth Priffyrdd yn Lloegr.  Yn anochel, serch hynny, mae’r effaith yn un ddifrifol gan na all y ffyrdd amgen ymdopi â llif y traffig sy’n teithio ar hyd y draffordd. Y rheswm am yr holl amser y bu’r M4 ar gau ar y ddau achlysur yw bod gweithdrefnau penodol i’w dilyn pan gyfyd digwyddiadau fel hyn ac mae’r trefniadau hynny yn bennaf yn nwylo’r heddlu, sy’n rheoli safle’r digwyddiad.

Mae tri pheth y mae’n rhaid eu cwblhau cyn y gellir clirio’r draffordd a’i hailagor. Y dasg bennaf oll yw mynychu safle’r ddamwain, symud rhai a fu yn y digwyddiad ac sydd wedi eu hanafu neu a fu farw ynddi. Yr ail dasg yw ymchwiliad yr heddlu i benderfynu ar achos y farwolaeth. Mae ymchwiliad yr heddlu yn debyg iawn i ymchwiliad mewn achos o drosedd a byddant yn rheoli’r ffordd a safle’r ddamwain yn unol â llawlyfr yr heddlu ar gyfer ymchwilio i farwolaethau ar y ffyrdd. Mae Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi cymorth i’r heddlu ar achlysuron fel hyn pan fydd digwyddiad ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Y trydydd cam, pan fydd yr asiantaeth cefnffyrdd wedi cael caniatâd yr heddlu i wneud hynny, yw dechrau clirio’r rwbel oddi ar y ffordd a gwneud atgyweiriadau dros dro da i strwythurau a ddifrodwyd. Dim ond pan fydd yr holl gamau hyn wedi’u cwblhau ac y bydd y ffordd wedi’i hadfer y bydd yr heddlu yn datgan bod y ffordd yn ddiogel i’w hailagor i gerbydau. Mae gan Traffig Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru gynlluniau argyfwng ar gyfer ymateb i ddamweiniau ffordd o’r fath, a chafodd y rhain eu gweithredu wrth ymateb i’r ddwy ddamwain dan sylw ar yr M4, i ategu gweithgareddau cyffredinol yr heddlu.  

Gwn fod llawer o bryder am yr effaith ar fusnesau yng Nghymru pan fydd pethau fel hyn yn digwydd, gan achosi tagfeydd traffig ar goridor y de wrth i’r gweithdrefnau trwyadl angenrheidiol gael eu rhoi ar waith, fel y soniais eisoes.  

Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gynigion ar y gweill i greu M4 newydd i dde Casnewydd, o Fagwyr i Gas-bach. Hon, felly, fydd y brif ffordd ar gyfer traffig strategol. Bydd yn osgoi un o’r rhannau hynaf o’r rhwydwaith traffyrdd yng Nghymru, ac un o’r trymaf o ran traffig. Bydd hefyd yn ddewis arall pan fydd angen cau’r rhwydwaith yn yr ardal honno.

Yn ôl yr amserlenni drafft mae posibilrwydd y gallai’r M4 newydd agor yn 2013, ond mae hynny - ac yr wyf yn pwysleisio hyn - yn amodol ar gwblhau’r prosesau statudol a’r trefniadau caffael yn llwyddiannus, ac ar ganlyniad unrhyw ymchwiliad cyhoeddus a gynhelir.

Yn y pen draw, ymdrinnir yn broffesiynol tu hwnt â digwyddiadau trasig fel hyn gan y rhai hynny sy’n gorfod mynychu damweiniau o’r fath a delio â’r canlyniadau. Dyma gyfnod anodd a thrallodus nid yn unig i deuluoedd y dioddefwyr ond hefyd i staff y gwasanaethau brys a staff yr asiantaeth cefnffyrdd ar ddyletswydd.

Gwn hefyd fod Llywodraeth Cynulliad Cymru, Traffig Cymru a’r heddlu yn dysgu rhywbeth o bob digwyddiad a chynhelir cyfarfodydd fel mater o drefn ar ôl pob digwyddiad fel y gallwn wella’n dull o ymdrin â hwy ar y cyd. Diolchaf i’r holl wasanaethau brys a’r swyddogion yn Traffig Cymru am y ffordd y bu iddynt ymateb i’r digwyddiadau trasig a thrallodus hyn.
Mae swyddogion yn cyfarfod â’r heddlu heddiw i drafod y digwyddiad yn llawn ac i sicrhau, lle bo gwersi i’w dysgu, y gellir gwneud trefniadau i wella cydlyniad a gweithdrefnau. Yr wyf yn gobeithio cyfarfod â’r bobl berthnasol fy hun yr wythnos nesaf i weld pa wersi sydd i’w dysgu.