Skip to content

Ysgrifenedig - Diweddariad am Raglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Y Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Ty.
Ym mis Mehefin cyhoeddodd y Prif Weinidog fwriad Llywodraeth y Cynulliad i ddod â 6 Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol gerbron gyda'r nod o sicrhau pwerau i'r Cynulliad ddeddfu ar feysydd polisi penodol, ynghyd â 3 Mesur Cynulliad.   Rhoi adroddiad ar hynt y rhaglen ddeddfwriaethol gychwynnol honno y mae'r datganiad hwn a hynny cyn datganiad y Prif Weinidog ar raglen strategol a deddfwriaethol Llywodraeth y Cynulliad. Ym mis Hydref y mae'n bwriadu gwneud y datganiad hwnnw

Rydyn ni wedi cymryd camau breision ymlaen. Cyn toriad yr haf, cyhoeddwyd tri Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a dau Fesur Cynulliad.  

O ran y tri Gorchymyn a ddygwyd gerbron eisoes; Mae a wnelo'r cyntaf ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.  Bydd yn rhoi pŵer i'r Cynulliad gryfhau gofynion yn y maes hwn ac ymateb i alwadau oddi wrth y Cynulliad blaenorol a Chomisiynydd Plant Cymru i wella hawliau plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Anfonwyd y Gorchymyn i Senedd y DU ar 26 Gorffennaf er mwyn craffu arno cyn y broses ddeddfu.   Mae'r gwaith craffu ar y Gorchymyn arfaethedig gan y Cynulliad eisoes wedi dechrau.

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn dechrau craffu ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol pan fydd Senedd y DU yn ailafael yn ei gwaith ddechrau mis Hydref.  Fel yn achos pob Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arall, y disgwyl yw y bydd canfyddiadau'r Pwyllgor Materion Cymreig yn gymorth i'r Cynulliad wrth iddo roi ystyriaeth i'r Gorchymyn. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y dylai pwyllgor y Cynulliad gyflwyno adroddiad erbyn 23 Tachwedd.

Mae a wnelo'r ail Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol â Diogelu'r Amgylchedd a Rheoli Gwastraff.  Fe'i cyhoeddwyd ar 18 Mehefin. Mae gwella'r amgylchedd lleol, cynyddu ailgylchu, gwella rheoli gwastraff a rheoli llygredd yn faterion sydd o'r pwys mwyaf i'r Llywodraeth hon ac i bobl Cymru.  O'r herwydd mae'r pwnc hwn hefyd yn bwnc addas i'r Cynulliad hwn ddeddfu arno.  Mae'r gwaith o hel tystiolaeth wedi dechrau a bu'r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn bresennol yn y Pwyllgor yn gynharach yn y dydd heddiw i roi tystiolaeth.

Ymwneud â Phlant Hawdd eu Niweidio oedd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol olaf i'w gyhoeddi cyn toriad yr haf.   Bydd y pwerau a arfaethir yn y Gorchymyn hwn yn allweddol i gyflawni ein hymrwymiad i leihau tlodi plant ac i wella bywyd plant hawdd eu niweidio drwy roi mwy o bwyslais ar gymorth i deuluoedd, er mwyn atal sefyllfaoedd rhag codi pan fo angen cymryd plant i ofal. Mae'r gwaith o graffu ar y Gorchymyn hwn cyn y broses ddeddfu wedi dechrau a'r disgwyl yw y bydd y pwyllgor yn rhoi adroddiad yn y flwyddyn newydd.  

O ran y tri Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arall y cyfeiriodd y Prif Weinidog atynt yn ei ddatganiad ym mis Mehefin; mae a wnelo'r  ddau Orchymyn nesaf sydd i'w cyflwyno i'r Cynulliad â Gofal Cartref a Thai Fforddiadwy. Unwaith eto, bydd y rhain yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni ymrwymiadau allweddol yn y rhaglen Cymru'n Un.  Mae tai fforddiadwy yn bwnc sylfaenol i bobl mewn llawer o rannau o Gymru.  Bydd y Gorchymyn ar y pwnc hwn yn galluogi'r Cynulliad i ddeddfu i helpu i gynnal y stoc o dai sydd ar gael i'w rhentu mewn ardaloedd lle mae pwysau am dai. Bydd hyn yn rhan o'r strategaeth i fynd i'r afael â'r broblem hon.  Bydd y Gorchymyn gofal cartref yn galluogi'r cynulliad i ddeddfu i greu maes chware mwy gwastad mewn perthynas â thaliadau am ofal cartref.   Mae trafodaethau yn mynd yn eu blaen rhyngon ni â Llywodraeth y DU am y ddau Orchymyn hyn ar hyn o bryd ac rwy'n gobeithio y bydd modd inni gytuno ar destun y Gorchmynion cyn bo hir.  Ein bwriad felly y bydd y ddau Orchymyn hyn yn cael eu dwyn ger eich bron yr hydref hwn.

Mae a wnelo'r Gorchymyn olaf â'r Gymraeg. Mae amserlen ychydig yn helaethach i'r Gorchymyn hwn.  Fel y byddwch yn sylweddoli, mater pwysig yw hwn ac mae angen inni ei drin yn iawn.  Er hynny, rydyn ni wrthi yn datblygu'r ymrwymiad hwn a dylen ni allu dod â drafft o'r Gorchymyn hwn ger eich bron yng Ngwanwyn 2008.

O ran y tri Mesur sydd eisoes wedi eu cyhoeddi; Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG yw'r cyntaf ohonynt.  Fe'i cyflwynwyd i'r Cynulliad ar 2 Gorffennaf. Nid wyf am achub y blaen ar y gwaith craffu gan y Pwyllgor Mesur "Cam Un", ond rwy'n credu bod croeso brwd ac eang i'r Mesur cyntaf hwn gan y Cynulliad. Rwy'n falch bod ymrwymiad ar draws y pleidiau i ddatblygu trefniadau fydd yn galluogi unrhyw un sydd, gwaetha'r modd, wedi dioddef o ganlyniad i driniaeth yn y GIG, i gael yr iawn priodol.  Bydd y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Mesur yn y flwyddyn newydd.  

Y Mesur Teithio gan Ddysgwyr yw'r ail Fesur a gyhoeddwyd. Cyhoeddwyd y Mesur hwn at ddibenion ymgynghori ar 26 Mehefin. 28 Medi yw'r dyddiad cau.   Wrth gwrs, bydd rhaid i ni ystyried y materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn ofalus iawn a meddwl a oes angen newidiadau ai peidio o ganlyniad i hynny. Ar hyn o bryd, y bwriad yw i'r Mesur hwn gael ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Cynulliad yn Rhagfyr 2007.  

Y ddeddfwriaeth olaf y cyfeiriwyd ati yn natganiad y Prif Weinidog ym mis Mehefin yw'r Mesur Llwybrau Dysgu 14-19. Bydd y Mesur hwn yn torri tir hollol newydd. Bydd yn rhoi hawl i bob dysgwr yng Nghymru gael addysg o blith ystod eang o ddewisiadau academaidd a galwedigaethol o ansawdd uchel, a hynny ynghyd â chymorth dysgu a chymorth personol. Wrthi'n cael ei ddrafftio y mae'r Mesur hwn.  Bydd yn ategu'r gwaith o roi Llwybrau Dysgu ar waith i bob dysgwr 14-19 oed yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at gael sylwadau ar y cynigion yn gynnar yn y flwyddyn newydd oddi wrth ysgolion, colegau, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, cynghorau sgiliau sector, awdurdodau lleol, cyrff gwirfoddol a phob sefydliad arall sydd â buddiant yn y maes hwn.  

Rydyn ni wedi cymryd camau breision ymlaen wrth ddwyn deddfwriaeth gerbron a fydd yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni ei bolisïau ar gyfer pobl Cymru.  Yr un pryd, rydyn ni'n cydnabod yr angen i symud ymlaen gan ymgynghori â phobl er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth ei hun yn gadarn, yn glir ac yn ymateb i anghenion pobl.