Skip to content

Llafar - Iechyd Anifeiliaid

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones ,y Gweinidog dros Faterion Gwledig

Dros y Sul, bu’n rhaid lladd buwch yr Ucheldiroedd yn ardal Ipswich, Swydd Suffolk, ar ôl iddi brofi’n bositif am glwy’r dafod las. Mae hyn yn ychwanegu at y pwysau difrifol sydd ar y byd amaeth yng Nghymru a gweddill Prydain. Ar 24 Medi, roedd anifail arall yn yr un lleoliad wedi profi’n bositif, a lladdwyd hwnnw hefyd.

Mae’r dafod las yn wahanol i glwy’r traed a’r genau, achos nid o un anifail i’r llall y mae e’n lledu, ond yn hytrach wrth i anifeiliaid gael eu cnoi gan wybed wedi’u heintio.

Ga i bwysleisio nad yw’r clwy yn cael ei gadarnhau ar sail achosion unigol, ond yn hytrach pan ellir dangos bod y clwy yn cylchredeg [ar gerdded?]  ym Mhrydain. Dyw hynny ddim wedi digwydd hyd yn hyn yn yr achos yma. Mae profion yn cael eu cynnal ar anifeiliaid eraill sydd o dan amheuaeth, a gallai’r sefyllfa newid unrhyw bryd.  

Bydd samplau yn cael eu cymryd oddi wrth anifeiliaid ar y fferm dan sylw, ac oddi wrth anifeiliaid ar ffermydd cyfagos, er mwyn helpu i weld a ydy’r clwy yn cylchredeg [ar gerdded?]. Mae gwybed hefyd yn cael eu casglu a’u profi i weld a ydyn nhw’n cario’r feirws.

Dyma’r achos cyntaf erioed o’r dafod las yn y Deyrnas Unedig. Mae e’r un math yn gywir â’r un a welwyd yng ngogledd Ewrop ym mis Awst 2006 (sef math BTV 8). Fe oroesodd hwnnw’r gaeaf, ac mae wedi lledu eleni drwy’r Almaen, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Denmarc a Gwlad Belg. Mae miloedd o achosion o’r clwy wedi’u cadarnhau eleni, yn enwedig yn yr Almaen.

Os ydy’r profion yn cadarnhau bod y dafod las yn cylchredeg [ar gerdded?] ym Mhrydain, yna bydd gofyn sefydlu Parth dan Gyfyngiadau 150km o amgylch yr ardal,  i gyfyngu ar symudiadau anifeiliaid, er y byddai modd symud anifeiliaid i’r parth hwnnw ac o’i fewn.

Ar hyn o bryd, does dim un brechlyn ar gyfer y dafod las wedi’i awdurdodi i’w farchnata yn y Deyrnas Unedig. Yn Ne Affrica, cafodd brechlynnau byw eu datblygu i’w defnyddio ar fridiau defaid lleol. Mae’r brechlynnau hyn yn gallu achosi salwch clinigol mewn bridiau defaid Ewropeaidd.  Mae brechlynnau byw wedi bod yn cael eu defnyddio yn Ewrop, ond mae hynny wedi arwain at drosglwyddo’r clwy. Mae brechlynnau anactif yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, ond does dim disgwyl iddyn nhw fod ar gael tan wanwyn 2008.

O dan Orchymyn y Tafod Glas 2003, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu awdurdodi brechu anifeiliaid.

Ers fy natganiad i ar 18 Medi, mae nifer y safleoedd lle mae achosion o glwy’r traed a’r genau wedi’u cadarnhau wedi cynyddu i saith. Mae pob un o’r rhain yn Swydd Surrey.

Mae fy swyddogion wedi gweithio’n ddiwyd i ddarganfod pa anifeiliaid, o blith y rhai sy’n debygol o ddal y clwy, sydd wedi’u symud - yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol - i Gymru o’r ardal 50km o amgylch Pirbright, a hynny rhwng 16 Gorffennaf a 12 Medi. Roedd hyn yn golygu dadansoddi miloedd ar filoedd o ddarnau o ddata. Mae canlyniadau’r gwaith hwn, ynghyd â’r cyngor milfeddygol dw i wedi’i gael, wedi rhoi’r sicrwydd roedd ei angen arna i i gyhoeddi ddoe bod modd symud anifeiliaid o fferm i fferm o heddiw ymlaen, ond o dan amodau llym.

Dw i wedi cwrdd yn rheolaidd â’r rhanddeiliaid er mwyn rhannu gwybodaeth ac er mwyn gwrando ar eu sylwadau ynghylch y materion sy’n effeithio ar eu haelodau. Rhwng y cyfarfodydd hynny, mae fy swyddogion  wedi bod yn eu cadw yn y darlun.

Mewn cyfarfod â Hilary Benn yr wythnos diwethaf, fe wnaeth e gadarnhau ei ymrwymiad i ailagor y marchnadoedd allforio cyn gynted â phosib, fesul rhanbarth. Bydd Cymru, mae’n debyg, mewn sefyllfa dda i fanteisio ar hynny. Serch hynny, rhaid bod yn realistig. Bydd cryn amser cyn y gallwn ni ailddechrau allforio cig oen a chig eidion o Gymru. Oherwydd hynny, dw i’n gwneud popeth yn fy ngallu i helpu cynhyrchwyr o Gymru i farchnata eu cynnyrch ac i gynyddu’r galw am ein cig oen a’n cig eidion arbennig.  Mae cydweithio agos rhwng fy swyddogion i a Hybu Cig Cymru a’r manwerthwyr er mwyn chwilio am ffyrdd o gynyddu’r galw am y cynnyrch. Dw i wedi neilltuo dros £1 miliwn i gefnogi gwaith hyrwyddo a marchnata, a bydda i’n cyhoeddi manylion y pecyn hwnnw cyn bo hir. Yn ogystal â hyn, bydd Prif Weinidog Cymru a finnau’n cwrdd â rhai o uwch-swyddogion rhai o’r prif archfarchnadoedd fory, er mwyn darganfod ffyrdd o weithio mewn partneriaeth gyda nhw i helpu’r diwydiant drwy’r cyfnod anodd yma.

Mae Defra wedi cytuno i gadw golwg ar yr angen posib am gynllun i ddifa a gwaredu ŵyn ysgafn mewn ffordd ddi-boen, a hynny am resymau lles. Dw i’n cydweithio’n agos â Llywodraeth yr Alban i ddadlau dros gynllun o’r fath. Dim ond ar raddfa Prydain y gallai cynllun o’r fath weithredu’n synhwyrol, a byddai angen iddo gael ei ariannu o goffrau’r Trysorlys. Petai Cymru yn cymryd camau ar ei phen ei hun, gallai hynny arwain at broblemau o ran rheolau’r Undeb Ewropeaidd ar Gymorth y Wladwriaeth.

Ga i ailadrodd yr apêl wnes i wythnos ddiwethaf i’r gymuned ffermio: wnewch chi barhau i fod ar eich gwyliadwraeth am unrhyw arwyddion o’r clwy; wnewch chi  gynnal y safonau bioddiogelwch uchaf posib; wnewch chi lynu wrth y rheolau ar symud anifeiliaid. Bellach, mae angen inni amddiffyn Cymru rhag dau glwy -  rhaid inni ymdrechu hyd eithaf ein gallu i’w cadw nhw draw.