Skip to content

Llafar - Gwasanaethau Addysg Sir Ddinbych.

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.

Dymunaf wneud datganiad am wasanaeth addysg Cyngor Sir Ddinbych, gwasanaeth yr wyf yn pryderu’n fawr amdano. Mae’n amlwg bod problemau dwfn wrth wraidd hyn a bod yr awdurdod yn methu â rheoli ei wasanaeth addysg er budd ei ddysgwyr. Cyhoeddwyd dau adroddiad yr wythnos diwethaf sy’n pwysleisio difrifoldeb y problemau.

Yr adroddiad cyntaf yw adroddiad arolygiad Estyn ym mis Gorffennaf 2007 pan ystyriwyd pedair agwedd ar wasanaeth sir Ddinbych: rheolaeth strategol; gwella ysgolion; hyrwyddo cynhwysiant a lles cymdeithasol ac anghenion dysgu ychwanegol. Barn Estyn am y perfformiad yng nghyswllt y tri cyntaf oedd ei fod ar y radd isaf, gradd 4, sef â gwendidau mewn meysydd pwysig, a’r pedwerydd ar radd 3, sef bod mwy o nodweddion da na gwendidau. O ran y rhagolygon ar gyfer gwella pob un o’r pedair agwedd ar y gwasanaeth, rhoddodd Estyn radd 4 i’r awdurdod, sy’n golygu bod llawer o rwystrau pwysig rhag gwella. Ni wnaeth Estyn arolygu mynediad at wasanaethau addysg ym mis Gorffennaf gan yr arolygwyd hyn ym mis Mawrth 2005.

Comisiynodd sir Ddinbych yr adroddiad arall yr wythnos diwethaf, dan y teitl 'Moderneiddio Addysg’, gan Cambridge Education Limited, cwmni o ymgynghorwyr. Ni rannwyd yr adroddiad â Llywodraeth y Cynulliad cyn ei gyhoeddi. Mae’n fuddiol cyfeirio at hwn, gan fod casgliadau adroddiad Cambridge Education Limited yn debyg i gasgliadau adroddiad arolygu Estyn. Serch hynny, mae hefyd yn ymwneud â nifer o faterion sydd a wnelont â mynediad-i-addysg, gan gynnwys cynllunio a darparu lleoedd mewn ysgolion, derbyniadau i ysgolion, lefelau cyllid ysgolion a dirprwyo cyllid i ysgolion. Mae adroddiad Cambridge yn codi nifer o wendidau sylfaenol ar ben y rheini a nodwyd yn adroddiad Estyn.

Mae perfformiad sir Ddinbych yn annerbyniol. Mae gan ddysgwyr ledled Cymru yr hawl i gael gwasanaethau o safon dda, ac mae gan ysgolion hawl i gael cefnogaeth, a, ble bo hynny’n briodol, i ddisgwyl cael eu herio gan eu hawdurdodau lleol. Mae gwasanaethau addysg effeithiol yn hollbwysig er mwyn sicrhau lles a rhagolygon ein plant a’n pobl ifanc yn y dyfodol. Mae gormod o lawer o bobl ifanc sir Ddinbych yn absennol o’r ysgol ac yn ymadael â’r ysgol heb ddim cymwysterau. Rhaid i bethau newid yn sir Ddinbych a rhaid i Lywodraeth y Cynulliad sicrhau bod hynny’n digwydd.

Yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog, yr wyf yn gyfrifol am gyfeiriad polisi strategol addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Eglurir fy mholisïau yn 'Y Wlad sy’n Dysgu - Gweledigaeth ar Waith’, a thanlinellir hynny yn 'Cymru’n Un’. Fy amcanion yw gwell deilliannau i ddysgwyr a chyfle cyfartal i holl blant a phobl ifanc ym mhob cwr o Gymru. Mae cyfle cyfartal yn cynnwys mynediad cyfartal at ddarpariaeth addysg o safon uchel. Daw fy nghyfrifoldebau dan fframwaith deddfwriaeth addysg, sy’n egluro fy mhŵerau i a dyletswyddau a swyddogaethau awdurdodau lleol. Yr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ddarparu addysg mewn ysgolion a rhaid iddynt sicrhau bod yr addysg honno wedi’i chynllunio a’i rheoli’n ddigonol a bod y safonau’n uchel. Dyna’u swyddogaeth a’u dyletswydd. Nid fy ngwaith i, fel Gweinidog, yw meicroreoli eu gwaith. Serch hynny, mae’r Deddfau addysg yn rhoi’r pŵer i mi ymyrryd a chyfarwyddo awdurdod os casglaf nad yw’n cyflawni ei swyddogaethau i safon foddhaol.

Yr wyf wedi ystyried sefyllfa sir Ddinbych ac yr wyf yn fodlon ei bod yn gwarantu ymyrraeth ar fy rhan os na all neu os na wnaiff yr awdurdod gyflwyno’r newidiadau angenrheidiol yn ddiymdroi. Ysgrifennais at y Cynghorydd Rhiannon Hughes, arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, ar 21 Medi am adroddiad Estyn. Fe’i gwneuthum yn glir bod rhaid i sir Ddinbych gymryd camau effeithiol ar unwaith i fynd i’r afael â’r problemau a gwella pethau ar frys. Nid yw’r awdurdod dan unrhyw amheuaeth ynghylch fy nisgwyliadau.

Mae’n deall hefyd y byddaf yn defnyddio fy mhŵer i’w gyfarwyddo os bydd yn methu â chael gafael ar y sefyllfa’n ddi-oed. Gellir defnyddio fy mhwerau cyfarwyddo mewn amrywiaeth o ffyrdd, o’u cyfarwyddo i gymryd camau i fynd i’r afael â materion penodol hyd at fynnu bod awdurdod yn trosglwyddo’r gwaith o redeg ei wasanaeth addysg i ddarparwr allanol arall.

Yr wyf wedi penderfynu peidio ag ymyrryd ar hyn o bryd yng ngoleuni’r sicrwydd a gafodd fy swyddogion gan yr awdurdod fod ganddo ddigon o allu’n fewnol i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r adroddiad ac y bydd yn defnyddio gwasanaeth arbenigwyr allanol, ar ffurf partneriaeth neu ymgynghoriaeth a chyda cymorth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Rhoddodd sicrwydd hefyd fod ganddo drefniadau cadarn i fonitro’r gweithredu, a fydd yn cynnwys her allanol, ac y bydd yn cyflwyno’i gynllun gweithredu i Estyn ei ystyried erbyn 5 Tachwedd. Yr wyf yn barod i roi cyfle i’r awdurdod baratoi cynllun gweithredu o’r fath.

Nid dewis hawdd yw hyn; nid yw’n gollwng yr awdurdod oddi ar y bachyn. Byddaf yn adolygu fy mhenderfyniad yng ngoleuni cyngor Estyn ynghylch cynllun gweithredu’r awdurdod, ynghyd â’r gwaith dilynol ar wahân gan fy swyddogion yng nghyswllt y materion a nodwyd yn adroddiad Cambridge Education Limited. Ni phetrusaf cyn ymyrryd bryd hynny os nad wyf yn fodlon bod sir Ddinbych yn cymryd camau priodol. Rhoddaf ddatganiad arall i Aelodau ar ôl ystyried cynllun gweithredu’r awdurdod a’i ymatebion i’r materion a godir yn adroddiad Cambridge Education Limited.