Skip to content

Ysgrifenedig - Gwaredu Tir a Reolir gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ar gyfer Ffermydd Gwynt

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan,Y Brif Weinidog
Yn ôl pob tebyg, newid yn yr hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r byd heddiw ac mae'n hollol hanfodol ein bod yn cymryd camau i ymdrin â hyn yn ystod y degawd nesaf.

Ar hyn o bryd, mae'r nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer yn cyfateb i 430ppm, ac maent yn codi ar raddfa o 2.2ppm y flwyddyn, i fyny o gyfartaledd o 1.5ppm y flwyddyn yn y cyfnod rhwng 1970 a 2000.

O ystyried bod angen gweithredu ar frys ar y newid yn yr hinsawdd, mae'n bwysig i ni fynd ar ôl pob dull posibl.

Pŵer gwynt ar y tir yw'r brif dechnoleg adnewyddadwy sydd ar gael ac sy'n hyfyw yn fasnachol, ac y gellir ei ddatblygu ar unrhyw raddfa  sylweddol. Mae tywydd a daearyddiaeth Cymru'n golygu ein bod yn y safle gorau i'w ddefnyddio.  Os ydym o ddifrif ynghylch gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd, ac am weld Cymru'n gwneud cyfraniad priodol i wrthsefyll cynhesu byd-eang, rhaid i ni weithredu'n ogystal â siarad.

Wrth anelu at hyn, rydym wedi asesu'r potensial o leoli'r prif ffermydd gwynt ar dir y Comisiwn Coedwigaeth sy'n eiddo i Lywodraeth y Cynulliad yn yr ardaloedd chwilio strategol a welir yn TAN8 (Nodyn Cyngor Technegol 8).

Tir Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw dros hanner y tir o fewn yr ardaloedd chwilio strategol yn TAN8.  Pe byddai Llywodraeth y Cynulliad yn diystyru defnyddio'r tir hwn ar gyfer datblygu ffermydd gwynt, byddai'n tanseilio'n sylweddol unrhyw strategaeth gredadwy o ran lleihau nwyon tŷ gwydr.

Bellach cwblhawyd y broses a ddechreuodd ym mis Rhagfyr 2005 o ddewis y datblygwyr fydd yn cael y cynnig i ddatblygu ffermydd gwynt yn yr ardaloedd hyn.

Cynlluniwyd y ffermydd gwynt sydd i'w datblygu ar y tir hwn mewn modd arloesol a fydd yn golygu cwympo'r nifer leiaf bosib o goed. Bydd cwympo twll clo'n cael ei ddefnyddio fel bod gwaelod pob tyrbin yn cael ei blannu yn y coetir. Felly, bydd y darn o dir sydd ei angen ar gyfer y datblygiadau arfaethedig tua 0.3% yn unig o holl ystâd goetir y Cynulliad o bron i 110,000 hectar (272,000 erw), a thua 1.3% yn unig o'r tir a reolir gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yn yr ardaloedd chwilio strategol

Yn ôl y les bydd yn ofynnol i bob cwmni symud y tyrbinau ac unrhyw seilwaith arall i un metr islaw lefel y ddaear ar ddiwedd oes y fferm wynt - fel mai ychydig iawn o effaith weledol hirdymor fydd ar dirlun Cymru.

Nid yw rhoi'r opsiynau hyn yn sicrhau y bydd datblygu'n digwydd, dim ond bod y cynigwyr nawr yn gallu ceisio caniatâd cynllunio. Bydd pob cynnig yn agored i'w graffu'n drwyadl fel rhan o'r broses gynllunio nad oes gan Lywodraeth y Cynulliad unrhyw rôl statudol ynddi.

Fel rhan o'r cais am ganiatâd cynllunio, rhoddir ystyriaeth ofalus i leoliad y tyrbinau, eu huchder a'u heffaith weledol, a chynhelir  asesiadau manwl o'u heffaith amgylcheddol.

Bydd y datblygiadau hyn yn cynhyrchu hyd at £4 miliwn y flwyddyn o ran manteision cymunedol uniongyrchol. Gallai hyn olygu rhoi cymorth i adeiladu cyfleuster cymunedol, cyfandaliad neu daliadau blynyddol er lles y gymuned, neu ymrwymiad gan y datblygwr i ddefnyddio gweithwyr a gwasanaethau lleol lle bynnag  bo hynny'n bosib.

Rhaid trafod y manteision hyn a'u sianelu trwy gorff neu ymddiriedolaeth gyfansoddiadol briodol sydd wedi'i rheoleiddio (gallai hyn gynnwys awdurdod lleol) i gefnogi datblygu cynaliadwy. Roedd TAN8 hefyd yn ystyried ei bod yn hanfodol i ran o unrhyw daliad blynyddol gael ei fuddsoddi mewn mesurau i leihau gollyngiadau carbon yn y gymuned leol.

Mae datblygu pŵer gwynt yn hanfodol i'n hymgyrch i gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy, ac am y rheswm hwn rwy'n falch i gyhoeddi'r  cam nesaf pwysig yng nghynlluniau'r Llywodraeth.