Skip to content

Llafar - Adolygiadau o Wasanaethau Iechyd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina hart, Y Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dymunaf wneud datganiad yn pennu gwybodaeth ynghylch dau adolygiad annibynnol o agweddau pwysig ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.  

Asiantaeth weithredol o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Comisiwn Iechyd Cymru. Mae’n gyfrifol am ddarparu’r gwasanaethau trydyddol neu arbenigol hynny sy’n gofyn am sylfaen boblogaeth fwy na sylfaen boblogaeth unrhyw ymddiriedolaeth unigol. Mae Comisiwn Iechyd Cymru’n gweithio’n glòs gydag ymddiriedolaethau a byrddau iechyd lleol a Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru o ran cynllunio a darparu gwasanaethau. Mae’r paneli rhanddeiliaid rhanbarthol yn sicrhau yr ymgysylltir â rhanddeiliaid. Mae bwrdd ymgynghorol comisiynu cenedlaethol yn goruchwylio cynlluniau comisiynu Comisiwn Iechyd Cymru ac yn monitro’r gwaith o’u gweithredu, a phenodir Cadeirydd y bwrdd yn gyhoeddus ac mae’n atebol i mi.

Mae Comisiwn Iechyd Cymru yn aml yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn sy’n effeithio ar gleifion unigol sy’n dioddef o gyflwr acíwt a thrallodus. Rhaid i benderfyniadau fod yn seiliedig ar dystiolaeth, rhaid eu gwneud mewn modd y mae cleifion yn ei ddeall, a rhaid eu hategu gyda phroses apelio agored a thryloyw.

Yn y maes hynod ddadleuol hwn, nid yw’n sioc efallai y codir pryderon yn gyhoeddus am sail rhai penderfyniadau a wnaethpwyd am driniaethau ar gyfer cleifion y mae angen gofal arbenigol iawn arnynt. Gan fod hyder y cyhoedd yn yr agwedd hon ar y gwasanaeth iechyd mor bwysig, yr wyf wedi gofyn i’r Athro Mansel Aylward CB, cadeirydd Canolfan Iechyd Cymru, gynnal adolygiad o swyddogaethau Comisiwn Iechyd Cymru, gan gynnwys ei brosesau gwneud penderfyniadau a’i fecanweithiau apelio. Bu’r Athro Aylward yn brif gynghorydd meddygol yr Adran Nawdd Cymdeithasol, yn brif gynghorydd meddygol, yn gyfarwyddwr meddygol a phrif wyddonydd Adran Gwaith a Phensiynau’r Deyrnas Unedig, ac yr oedd hefyd yn brif gynghorydd meddygol a phennaeth proffesiwn asiantaeth cyn-filwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn. Fel meddyg ac arbenigwr mewn rhewmatoleg ac ailsefydlu, ffarmacoleg glinigol a therapiwteg, mae’n athro gwadd mewn nifer o brifysgolion yn Ewrop a gogledd America. Yn ogystal â bod yn gadeirydd ar Ganolfan Iechyd Cymru, ef hyn o bryd yw cyfarwyddwr canolfan ymchwil seicogymdeithasol ac anabledd Prifysgol Caerdydd. Mae felly’n hynod gymwys i gynnal yr adolygiad hwn, ac mae wedi cytuno i adrodd ei ganfyddiadau wrthyf erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.

Mae’r ail adolygiad y dymunaf ei gyhoeddi yn ymwneud â gweithredu’r ‘Agenda ar gyfer Newid’ yng Nghymru, ac yn arbennig, a yw’r gweithredu hwnnw wedi bod yn gyson. Mae’r ‘Agenda ar gyfer Newid’ yn cynnwys cyfres o gyflogau ac amodau newydd ar gyfer dros 70,000 o staff y GIG yng Nghymru. Bu rhoi’r  system newydd ar waith yn waith hirfaith a chymhleth tu hwnt. Dechreuodd y broses yn Hydref 2004, ac mae’n bleser gennyf ddweud, drwy weithio’n glòs ag undebau llafur, bod 94 y cant o staff y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru yn awr yn cael cyflog yr ‘Agenda ar gyfer Newid’. Yn ystod yr haf fodd bynnag, wrth imi ymweld â nifer o ysbytai ym mhob rhan o Gymru, mynegodd staff bryderon wrthyf am yr hyn yr oeddent hwy’n ei ystyried yn anghyson yn y modd y gweithredwyd yr ‘Agenda ar gyfer Newid’ mewn gwahanol sefydliadau yn y maes iechyd. Rhaid i gysondeb fod yn egwyddor bwysig yn agwedd Llywodraeth y Cynulliad tuag at yr ‘Agenda ar gyfer Newid’.  Yr oedd y prosiect gweithredu, a oedd yn cynnwys y gwasanaeth, undebau llafur a Llywodraeth y Cynulliad, yn gyfrifol am fonitro’r mater.

Mae gennyf ymrwymiad o hyd i sicrhau bod yr ‘Agenda ar gyfer Newid’ wedi’i rhoi ar waith mewn modd teg a chyfiawn ar gyfer yr holl staff. Felly, mewn ymateb i’r pryderon a fynegwyd wrthyf, penodais David Jenkins, cadeirydd yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd a bwrdd rhanddeiliaid Uned Datblygu’r Gweithlu, i gynnal adolygiad annibynnol ar gysondeb y gweithredu a chanlyniadau’r ‘Agenda ar gyfer Newid’ ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru. Mae gan David yrfa nodedig ym maes gwasanaethau cyhoeddus. Yn ogystal â bod yn gyn-ysgrifennydd cyffredinol Cyngres Undebau Llafur Cymru, mae’n gadeirydd Canolfan Cydweithredol Cymru a Cyfle Cymru, yn aelod o’r tribiwnlys apeliadau cyflogaeth a phanel addasrwydd i ymarfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Bu hefyd yn gwasanaethu ar y Comisiwn Monopolïau ac Uniadau am flynyddoedd maith. Yr wyf wedi gofyn iddo adrodd wrthyf erbyn Rhagfyr 2007.