Skip to content

Ysgrifenedig - Amseriad Cyllideb Llywodraeth Y Cynulliad 2007

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew davies, Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Yn ei ddatganiad ar y Gyllideb ym mis Mawrth, cyhoeddodd y sawl a oedd yn Ganghellor bryd hynny y byddai canlyniad yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref yn hytrach nag yn yr haf.  Hwn yw’r setliad sy’n penderfynu maint Cyllideb Llywodraeth y Cynulliad neu’r Terfyn Gwariant Adrannol am y cyfnod 2008-09 i 2010-11.  Cadarnhaodd y Canghellor newydd ar 25 Gorffennaf y bydd canlyniadau’r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant a’r Adroddiad Rhag-gyllidebol yn cael eu cyhoeddi gyda’i gilydd yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Hydref.

Yn y Rheolau Sefydlog mae amserlen glir ar gyfer y broses o bennu cyllideb Llywodraeth y Cynulliad.  Maent yn pennu bod yn rhaid i’r gyllideb ddrafft – sy’n nodi faint o adnoddau ac arian y mae’r llywodraeth yn bwriadu eu defnyddio ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol a hefyd, fel rheol, y symiau dros dro ar gyfer y ddwy flynedd ar ôl hynny – gael ei rhoi ger bron y Cynulliad ddim hwyrach na 7 Hydref.  Yn ymarferol byddai hyn yn golygu gosod y gyllideb ddrafft cyn 5 Hydref.  

Ni fyddwn yn gwybod canlyniad terfynol yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant tan 8 Hydref o leiaf ac fe fydd hyd yn oed yn hwyrach na hynny yn ôl pob tebyg.  Felly, i gydymffurfio â’r Rheolau Sefydlog byddai’n rhaid i ni osod cyllideb ddrafft o dair blynedd cyn y gwyddom faint o adnoddau sydd ar gael i ni mewn gwirionedd.  Ni fyddai cyhoeddi cyllideb yn yr amgylchiadau hyn yn ystyrlon i’n prosesau democrataidd ni nac yn ddefnyddiol i’n partneriaid cyflawni.  Mae angen sicrwydd arnom ynghylch yr adnoddau fydd ar gael i ni cyn y gallwn roi cyllideb gerbron y Cynulliad.  

Ddydd Mawrth 25 Medi cefais gytundeb y Pwyllgor Busnes i’r Pwyllgor roi adolygiad dros dro i’r Rheolau Sefydlog gerbron y Cynulliad, i’w ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 3 Hydref.  Byddai’r adolygiad dros dro yn cwmpasu proses gyllidebol 2007/2008 fel y gallai Llywodraeth y Cynulliad ohirio rhag gosod y gyllideb ddrafft hyd nes bydd canlyniad yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn hysbys.

Wrth gynnig hyn, mae’n fwriad gennyf sicrhau y bydd amserlen ddiwygiedig y gyllideb yn cadw nodweddion allweddol y broses gyfredol.  Yn fwyaf arbennig, bydd yr amserlen ddiwygiedig yn:

  • rhoi cyfle i’r Pwyllgor Cyllid, y pwyllgorau craffu, y Cynulliad cyfan a rhanddeiliaid eraill graffu ar gynlluniau gwariant Llywodraeth y Cynulliad a’u hystyried yn briodol;
  • ceisio sicrhau bod y gyllideb derfynol yn cael ei chyflwyno i’w chymeradwyo gan y Cynulliad cyn toriad y Nadolig.  Er mwyn rhoi digon o amser i drafod a chraffu ar y gyllideb ddrafft ar ôl iddi gael ei gosod, efallai y gall fod angen gohirio rhag cyflwyno’r gyllideb derfynol tan ar ôl y dyddiad cau a bennir yn y Rheolau Sefydlog cyfredol, sef 3 Rhagfyr; a
  • sicrhau bod y partneriaid cyflawni, gan gynnwys y GIG a’r awdurdodau lleol, yn gwybod am y cyllid fydd ar gael iddynt yn 2008-09 cyn gynted ag y bo modd fel y gallant gynllunio’n effeithiol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.