Skip to content

Llafar - Datganiad Deddfwriaethol Am Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig Ynghylch Tai Fforddiadwy

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jocelyn Davies, Y Dirprwy Weinidog dros Dai

 Yr wyf yn falch o allu gosod y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol hwn ger eich bron heddiw i’w ystyried gennych. Bydd y Gorchymyn hwn yn ceisio caniatáu i’r Cynulliad gael y pŵer i wneud Mesurau ym maes tai fforddiadwy—pwnc y mae ei bwysigrwydd a’i amlygrwydd wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae 'Cymru’n Un’ yn cynnwys ymrwymiad i geisio pŵer deddfwriaethol i’r Cynulliad er mwyn atal yr hawl i brynu mewn ardaloedd lle y mae pwysau ar dai.

Gwnaethpwyd ymrwymiadau hefyd ym maniffestos dau bartner y glymblaid a hefyd ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol. Cymeradwyodd y Cynulliad gynnig fis Ionawr diwethaf y dylid ceisio’r pwerau hyn. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi defnyddio’i bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth ynglŷn â’r hawl i brynu sydd wedi’i theilwra ar gyfer amgylchiadau arbennig Cymru, sy’n cynnwys lleihau’r uchafswm disgownt a chynyddu nifer yr ardaloedd gwledig lle gellir gosod cyfyngiadau ar ailwerthu.

Ar hyn o bryd nid oes gan y Cynulliad bŵer statudol penodol i amrywio’r darpariaethau ymgymhwyso ar gyfer yr hawl i brynu a’r hawl i gael meddiant er mwyn ateb anghenion tai pobl a chymunedau Cymru’n benodol. Hoffwn bwysleisio yn y fan hon fod Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi cysyniad perchentyaeth, gan gynnwys yr hawl i brynu. Yr ydym wedi cydnabod y manteision a rydd stadau deiliadaeth gymysg, ac yr ydym wrthi ar hyn o bryd yn datblygu cynlluniau i ddarparu grantiau i brynwyr tro cyntaf ac eisoes wedi galluogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gynnig eiddo ar werth i denantiaid presennol ar delerau’r cynllun Cymorth Prynu. At hynny, wrth werthu’n wirfoddol felly, gall landlordiaid cymdeithasol cofrestredig osod cyfamodau ailbrynu, i sicrhau na chollir y stoc o’r sector tai fforddiadwy pan y’i hailwerthir.

Mae sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael yn broblem arbennig mewn ardaloedd gwledig lle mae’r cyflenwad o dai addas fel rheol yn gyfyngedig iawn. Gellir ystyried bod dros 70 y cant o Gymru’n wledig. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cymryd nifer o gamau i gynorthwyo gyda datblygu tai fforddiadwy yn y Gymru wledig, gan gynnwys darparu cefnogaeth i alluogwyr tai gwledig ac ymddiriedolaethau tir cymunedol. Fodd bynnag, mewn rhai cymunedau, ychydig o dai sydd ar ôl yn y stoc dai cymdeithasol, sy’n ei gwneud hi’n anodd iawn i bobl sydd heb fod ar incwm mawr ganfod cartref sy’n ateb eu hanghenion ac yn cynnig lle addas i fagu eu plant. Yn wir, mae bron i 60 y cant o’r stoc dai cyngor ym Mhowys a Cheredigion wedi’i werthu dan yr hawl i brynu a’r hawl i gael meddiant.

Ers cyflwyno’r hawl i brynu yn 1980 a’r hawl i gael meddiant yn 1997, mae tenantiaid yng Nghymru wedi prynu mwy na 140,000 o anheddau, sef bron i hanner y stoc dai cymdeithasol wreiddiol. Er mai effaith uniongyrchol arfer yr hawliau hyn gan denant yw newid deiliadaeth o denant i berchen-feddiannwr, mae anheddau a fuasai fel arall wedi dod ar gael ryw ben i’w hailosod fel tai cymdeithasol erbyn hyn wedi’u gwerthu ar y farchnad agored. Mae hyn wedi lleihau’n sylweddol nifer y tai cymdeithasol sydd ar gael i’w rhentu gan bobl sydd ag angen tai. Mae hyn yn broblem arbennig mewn ardaloedd lle mae pwysau ar y farchnad dai.

Mae’n rhy gynnar i ddweud beth a allai gael ei gynnwys yn narpariaethau manwl y Mesur. Fodd bynnag, gallaf ddweud wrth Aelodau ein bod yn ystyried trefniadau lle gall awdurdodau lleol wneud cais i Weinidogion Cymru am gymeradwyaeth i glustnodi ardaloedd lle gellid atal yr hawl i brynu a’r hawl i gael meddiant am gyfnod penodol. Credwn ei bod yn iawn rhoi’r grym hwn i awdurdodau, gan mai hwy sydd yn gyfrifol am lunio strategaethau tai lleol ac asesu marchnadoedd tai lleol. Hwy sydd yn y safle gorau i asesu’r sefyllfa leol, ac un cam yn unig yw’r pŵer hwn o blith nifer o gamau y bydd awdurdodau lleol yn gallu eu cymryd.

Lle bydd awdurdod yn cadw’i stoc dai ac yn gwerthu eiddo dan yr hawl i brynu, mae ganddo’r disgresiwn i gadw’r swm llawn a dderbyniwyd i’w ddefnyddio at ddibenion y cyfrif refeniw tai. Er y gall yr awdurdod gadw’r swm a dderbyniwyd, bydd effaith ar ei gymhorthdal tai. Bydd yr effaith ar bob awdurdod yn amrywio yn ôl ei amgylchiadau unigol o ran y cyfrif refeniw tai. Fodd bynnag, yn nodweddiadol, gall awdurdod lleol gadw 25 y cant o’r swm a dderbynnir a phenderfynu lleihau ei faich dyled gyda’r 75 y cant arall.
Gall pob landlord cymdeithasol cofrestredig, gan gynnwys sefydliadau trosglwyddo, gadw derbyniadau gwerthiannau hawl i brynu a hawl i gael meddiant yn llawn i’w gosod yn erbyn yr incwm rhent a gollir yn sgîl y gwerthu. Bydd cynnwys y derbyniadau hyn yn gyffredinol fuddiol i’w cyllid. Bydd y graddau yr effeithir ar y cyllid yn gymesur â nifer y gwerthiannau.

Bydd angen inni gymryd y materion hyn i ystyriaeth wrth ddrafftio’r Mesur, ac ymgynghori’n llawn ar y cynigion manwl. Er nad yw’r cynigion ar eu ffurf derfynol, ni ragwelaf unrhyw gyfyngiad ar faint yr ardal na’r math o dai y gellid eu clustnodi ar gyfer atal yr hawl. Gallai awdurdodau dargedu’r polisi i ofalu am ardaloedd bychain iawn neu fath penodol o dai sydd dan bwysau. Yn sicr, ni ddisgwyliwn i awdurdodau atal yr hawl i brynu na chynnig gwneud hynny ar draws y cyfan o’u siroedd neu eu bwrdeistrefi sirol.

Byddai arnaf eisiau gweld tystiolaeth argyhoeddiadol o’r achos dros atal, gan gynnwys prawf o ymgynghori trylwyr gyda’r cymunedau lleol. Mae llawer o’r manylion heb eu setlo eto. Fodd bynnag, rhoddwn gyfle i bob corff a grŵp tenantiaid sydd â diddordeb gael dweud eu dweud cyn gosod Mesur arfaethedig gerbron y Cynulliad.

I gloi, mae’n amlwg fod yr hawl i brynu wedi cael effaith arwyddocaol ar y cyflenwad o dai cymdeithasol sydd ar gael i’w rhentu. Mae tai fforddiadwy’n broblem fawr drwy’r rhan fwyaf o Gymru, ac yr ydym yn cymryd camau i fynd i’r afael â hi. Mae arnom angen pwerau ychwanegol i sicrhau bod yr hawl i brynu’n fwy priodol i anghenion Cymru. Dyna pam yr ydym wedi gosod y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol hwn ger eich bron heddiw. Gobeithio y gallwn ddibynnu ar eich cefnogaeth. Disgwyliwn i’r Gorchymyn gael ei glirio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn fuan iawn, a chawsom drafodaethau manwl gyda phobl yn yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol ynghylch y Gorchymyn a Mesur Tai ac Adfywio’r Deyrnas Unedig ill dau er mwyn sicrhau eu bod yn gydategol ac y rhoddant, gyda’i gilydd, reolaeth lawn dros y maes polisi hwn.