Skip to content

Llafar - Ambiwlansys a Chludo Cleifion

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i wneud y datganiad hwn am wasanaethau ambiwlans. Mae llawer ohonoch wedi codi pryderon gyda mi ynglŷn â’r ddarpariaeth gwasanaethau ambiwlans brys a’r gwasanaethau cludo cleifion yn eich etholaethau, a’r angen am welliannau wrth ddarparu’r gwasanaethau hynny, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Ddeuddeg mis yn ôl, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru ei hadroddiad am wasanaethau ambiwlans yng Nghymru, a oedd yn nodi problemau difrifol oedd wedi bodoli’n hir o ran y gwasanaeth ac yn gwneud 28 o argymhellion er mwyn gwella. Yr oedd Swyddfa Archwilio Cymru o’r farn bod cynllun moderneiddio draft Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ymdrin ar y pryd â’r holl sialensiau tyngedfennol yr oedd angen eu hwynebu er mwyn gwella’r gwasanaeth, ac y byddai rhoi’r cynllun hwnnw ar waith yn llwyddiannus yn hollbwysig er mwyn sefydlu gwasanaeth ambiwlans effeithlon ac effeithiol i Gymru.

Er cyhoeddi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, gwnaethpwyd cynnydd o ran symud llawer o’i argymhellion ymlaen. Mae’r ymddiriedolaeth wedi cyhoeddi ei chynllun moderneiddio terfynol, ‘Time to Make a Difference: Transforming Ambulance Services in Wales’, ac mae nifer o welliannau i’r gwasanaeth wedi cael eu gweithredu’n llwyddiannus. Mae’r amseroedd ymateb wedi gwella dros y misoedd diwethaf, ond mae cryn amrywiadau o ran perfformiad o hyd ar draws ardaloedd y byrddau iechyd lleol, y mae rhaid mynd i’r afael â hwy.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynorthwyo’r ymddiriedolaeth i roi ei gynllun moderneiddio ar waith drwy ddarparu cyllid cyfalaf a refeniw ychwanegol. Mae mwy na £22 miliwn mewn cyllid refeniw wedi cael ei ddarparu i brynu cerbydau newydd, a rhwymwyd £55 miliwn dros y 10 mlynedd nesaf er mwyn i rwydwaith cyfathrebu digidol gael ei sefydlu.

Mae gan y cyhoedd yng Nghymru hawl i ddisgwyl gwasanaeth ambiwlans parod i ymateb, o ansawdd uchel. Mae’n bwysig ystyried maint y gwelliannau sydd wedi cae eu gwneud yn y flwyddyn ddiwethaf, a sicrhau’r cyhoedd bod cynlluniau cadarn wedi cael eu sefydlu i wella’r gwasanaeth ymhellach fyth. Gan fod blwyddyn wedi mynd heibio erbyn hyn er cyhoeddi adroddiad y Swyddfa Archwilio, mae’n adeg amserol i gloriannu’r sefyllfa gyfredol. Felly, yr wyf wedi gofyn i’r swyddogion—a phetrusaf yma, Lywydd—sefydlu adolygiad o’r cynnydd a wnaethpwyd yn erbyn argymhellion yr adroddiad, ac ystyried a yw cynlluniau’r ymddiriedolaeth o ran moderneiddio ymhellach yn gadarn a dichonadwy. Efallai fod yr Aelodau’n ymwybodol o’r adroddiad am yr ymchwiliad i lendid cerbydau ambiwlans ar draws y DU, a gyhoeddwyd gan UNSAIN yn gynharach yr wythnos hon. Yr wyf wedi pwysleisio
pwysigrwydd rheoli heintiau wrth y gwasanaeth iechyd, a byddaf yn sicrhau bod sylw’n cael ei roi i hynny yn yr adolygiad hefyd. Caiff yr adolygiad ei arwain gan Stuart Fletcher, cadeirydd ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru, a bydd yn ceisio cyngor gan gydweithwyr yn y gwasanaeth ambiwlans, arbenigwyr allanol a chynrychiolwyr o’r undebau llafur.

Yr wyf wedi ymrwymo’n llwyr i wella’r ffordd y mae gwasanaethau cludo yn cael eu trefnu a’u cyflenwi yng Nghymru ar hyn o bryd er mwyn rhoi gwell profiad i’r bobl sy’n eu defnyddio. Hoffwn weld ffordd newydd o ymdrin â gwasanaethau cludo cleifion, sy’n gwneud profiad yr unigolyn yn ganolog. Yr wyf wedi gofyn am sefydlu grŵp lefel uchel, gyda chylch gwaith eang, i ystyried hyn yn fanwl. Bydd y grŵp yn cynnwys grwpiau defnyddwyr gwasanaeth, y sector gwirfoddol, cynrychiolwyr o’r undebau, cyrff sy’n rhan o’r gwasanaeth iechyd gwladol, llywodraeth leol, a chyrff cludiant, ymysg eraill. Yr wyf am i waith y grŵp hwn ganolbwyntio ar adolygu’r gwasanaeth cludo cleifion sydd gennym ar hyn o bryd a phenderfynu sut mae modd ei wella er mwyn rhoi gwell profiad i’r unigolion sy’n ei ddefnyddio. Yr wyf hefyd am i’r adolygiad ystyried mater ehangach gwella’r gwasanaethau cludiant i ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru. Credaf fod hwn yn gyfle arwyddocaol i wella’r ffordd y mae adnoddau’n cael eu rhannu rhwng sefydliadau yng Nghymru, er mwyn darparu gwasanaethau sy’n fwy integredig ac o ansawdd uwch, sy’n diwallu anghenion y bobl sy’n eu defnyddio yn well.
Yr wyf yn disgwyl i’r grŵp adolygu adrodd yn ôl imi ac amlinellu’r cyfleoedd gwella a’r ystod o opsiynau sydd ar gael er mwyn darparu gwasanaethau cludo sy’n fwy parod i ymateb, o ansawdd uwch ac sydd yn wir yn rhoi i’r bobl sy’n eu defnyddio brofiad da. Mae cylch gorchwyl y grŵp a’i aelodaeth arfaethedig yn cael eu llunio, a disgwyliaf i’r grŵp ddechrau ar ei waith ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf. Yr wyf yn benderfynol o weld gwelliannau sylweddol yn cael eu cyflawni o ran darparu gwasanaethau ambiwlans a gwasanaethau cludo cleifion yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at adrodd yn ôl ichi am ganlyniad y gwaith hwn.

Yn olaf, carwn droi at wasanaeth yr ambiwlans awyr. Bydd llawer o Aelodau Cynulliad yn ymwybodol o’r cyhoeddusrwydd diweddar ynglŷn â’r problemau cyllido sy’n wynebu’r ambiwlans awyr yn y flwyddyn ariannol hon. Er mwyn sefydlogi sefyllfa’r gwasanaeth pwysig hwn, byddaf yn darparu £337,000 yn y flwyddyn hon, nid ar sail reolaidd. Bydd hyn yn caniatáu i’r ambiwlans awyr dalu costau cyflogau ei thîm parameddygol yn llawn. Yn gyfnewid am hynny, yr wyf yn disgwyl adolygiad llawn o’r ffordd y mae gwasanaethau’r ambiwlans awyr yn cael eu darparu yng Nghymru, gan gynnwys archwiliad o’r protocolau cyfredol ac o leoliad, defnydd a dosbarthiad yr hofrenyddion presennol. Bydd yn sail i unrhyw benderfyniadau y bydd yn rhaid eu gwneud am ofynion cyllido’r gwasanaeth yn y blynyddoedd i ddod.

Mae gwasanaethau ambiwlans yn gymhleth ac mae iddynt lawer o ddimensiynau gwahanol. Mae llawer iawn o waith ar y gweill i graffu ar yr elfennau unigol sydd ar hyn o bryd yn dod o fewn yr ymbarél eang hwnnw, ac i sicrhau bod datblygiadau yn y dyfodol yn cael eu graddnodi’n well yn erbyn y gofynion gwahanol hynny. Edrychaf ymlaen at adrodd yn ôl i Aelodau’r Cynulliad am ganlyniad y gwaith hwn.