Heddiw, rwyf wedi trefnu i gopi o Astudiaeth Prifysgol Heriot-Watt, "Alternative Resource Allocation Models for Local Services in Wales" ("Adroddiad Bramley") gael ei roi yn llyfrgell y Cynulliad.
Cafodd yr Astudiaeth, a gynhaliwyd gan yr Athro Glen Bramley a David Watkins o Brifysgol Heriot-Watt, ei gomisiynu ym Medi 2006 gan Sue Essex, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol bryd hynny. Comisiynwyd yr Astudiaeth i ategu ymateb Llywodraeth y Cynulliad i Adroddiad Pwyllgor Ariannu Ysgolion yr Ail Gynulliad - "Trefniadau Ariannu Ysgolion yng Nghymru" – a gyhoeddwyd ym Mehefin 2006.
Gwnaethpwyd 27 o argymhellion i gyd gan y Pwyllgor Ariannu Ysgolion. Y rhai mwyaf perthnasol i’r penderfyniad i gomisiynu Astudiaeth Bramley oedd y dylai Llywodraeth y Cynulliad :-
- gychwyn adolygiad o’r pwysoliadau a roddir i ffactorau megis trafnidiaeth, teneurwydd poblogaeth ac amddifadedd wrth ddyrannu adnoddau addysl o fewn y setliad llywodraeth leol, i sicrhau bod pwysoliadau yn seiliedig ar wir angen;
- comisiynu ymchwil manwl o’r effaith a gaiff amrywiadau mewn ariannu ar gyrhaeddiad disgyblion ar ôl cymryd i ystyriaeth ffactorau newidiol megis amddifadedd a theneurwydd poblogaeth;
- Cychwyn adolygiad o’r fformiwla ddosbarthu llywodraeth leol fel bo’r elfen addysg yn seiliedig ar gostau presennol a chostau’r dyfodol o ddarparu gwasanaethau addysg, yn hytrach nag ar gostau hanesyddol.
Mewn datganiad ysgrifenedig i’r Cynulliad ar 19 Medi 2006, fe gadarnhaodd Jane Davidson AC, y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau bryd hynny, fod y 3 argymhelliad uchod (ynghyd â mwyafrif o argymhellion eraill y Pwyllgor) wedi eu derbyn gan Lywodraeth y Cynulliad.
Cyflwynwyd adroddiad interim gan yr Athro Bramley ar ei ganfyddiadau a’i gasgliadau ym Mai 2007. Fe gyflwynodd ei adroddiad terfynol ym mis Medi. Fe fydd ei ganfyddiadau a’i gasgliadau terfynol yn parhau i gael eu hystyried gan y Fforwm Ymgynghorol ar Gyllid (yr wyf yn gadeirydd arno) a’i Is-Grwp Dosbarthu.
Mae Adroddiad yr Astudiaeth yn hir, 130 tudalen ar ei hyd. Mae’n ddadansoddiad manwl iawn o faterion cymhleth ac mae’r rhesymeg yn cael ei esbonio trwy ddadansoddiad ystadegol arloesol a thechnegol iawn. Wrth ddatblygu argymhelliad y Pwyllgor Ariannu Ysgolion y dylai ariannu ysgolion fod yn seiliedig ar gostau presennol a chostau’r dyfodol, yn hytrach na phatrymau gwariant hanesyddol, mae’r Athro Bramley wedi cyflwyno dull sy’n seiliedig ar ganlyniadau.
Mae’n angenrheidiol bod cynigion yr Astudiaeth a’u goblygiadau yn cael eu ystyried a’u deall yn llawn. Mae’n rhaid i unrhyw newidiadau i drefniadau ariannu gael eu gwneud ar sail gadarn a’u derbyn yn eang fel y ffordd orau ymlaen. Oherwydd y rhesymau hyn, rwy’n bwriadu gofyn am gymeradwyaeth y Fforwm Ymgynghorol ar Gyllid i gynnwys ystyriaeth llawer mwy manwl o ganfyddiadau a methodoleg yr Astudiaeth yng nghylch gwaith 2008 yr Is-Grŵp Dosbarthu (DSG).
Mae trefniadau ariannu y setliad tair blynedd mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei rhoi ar waith o 2008-09, gyda chytundeb Llywodraeth Leol, yn golygu y bydd y fformiwla ddosbarthu setliad refeniw llywodraeth leol yn sefydlog ar gyfer 2008-09 a 2009-10. Mae hyn yn rhoi digon o amser i’r DSG roi ystyriaeth lawn i’r materion a godir gan Bramley.
Rwyf wedi ymgynghori â Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Mae hi yn cymeradwyo’r camau rwyf yn eu cynnig, a bydd ei swyddogion yn cofleidio’r adolygiad yn llawn. Rwy’n cynnig ymgynghori â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y posibilrwydd y gallai ymarferwyr addysg awdurdodau lleol gael eu cynnwys ar yr Is-Grŵp er mwyn cyfrannu at waith yr adolygiad.
Heddiw, rwyf wedi trefnu i gopi o Astudiaeth Prifysgol Heriot-Watt, “Alternative Resource Allocation Models for Local Services in Wales” (“Adroddiad Bramley”) gael ei roi yn llyfrgell y Cynulliad.
Cafodd yr Astudiaeth, a gynhaliwyd gan yr Athro Glen Bramley a David Watkins o Brifysgol Heriot-Watt, ei gomisiynu ym Medi 2006 gan Sue Essex, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol bryd hynny. Comisiynwyd yr Astudiaeth i ategu ymateb Llywodraeth y Cynulliad i Adroddiad Pwyllgor Ariannu Ysgolion yr Ail Gynulliad - “Trefniadau Ariannu Ysgolion yng Nghymru” – a gyhoeddwyd ym Mehefin 2006.
Gwnaethpwyd 27 o argymhellion i gyd gan y Pwyllgor Ariannu Ysgolion. Y rhai mwyaf perthnasol i’r penderfyniad i gomisiynu Astudiaeth Bramley oedd y dylai Llywodraeth y Cynulliad :-
gychwyn adolygiad o’r pwysoliadau a roddir i ffactorau megis trafnidiaeth, teneurwydd poblogaeth ac amddifadedd wrth ddyrannu adnoddau addysl o fewn y setliad llywodraeth leol, i sicrhau bod pwysoliadau yn seiliedig ar wir angen;
comisiynu ymchwil manwl o’r effaith a gaiff amrywiadau mewn ariannu ar gyrhaeddiad disgyblion ar ôl cymryd i ystyriaeth ffactorau newidiol megis amddifadedd a theneurwydd poblogaeth;
cychwyn adolygiad o’r fformiwla ddosbarthu llywodraeth leol fel bo’r elfen addysg yn seiliedig ar gostau presennol a chostau’r dyfodol o ddarparu gwasanaethau addysg, yn hytrach nag ar gostau hanesyddol.